Cafodd Hi Bwrpas i’w Bywyd
CYHOEDDI’R DEYRNAS—ADRODDIAD O’R MAES
Cafodd Hi Bwrpas i’w Bywyd
Dywed Iesu ei fod yn adnabod ei ddefaid. (Ioan 10:14) Caiff rhywun sydd â chalon dda a chariad at heddwch a chyfiawnder ei ddenu at ddilynwyr Iesu. Bydd rhywun fel hyn yn cael hyd i bwrpas bywyd, fel y gwnaeth un ddynes yng Ngwlad Belg. Dyma ei hanes hi:
“Pan ddaeth Tystion Jehofa at fy nrws, roeddwn i’n isel iawn ac yn ystyried lladd fy hun. Roeddwn i’n hoffi beth ddywedon nhw am yr ateb i broblemau’r byd, ond doeddwn i ddim eisiau credu mai Duw oedd yr ateb. Roeddwn i wedi stopio mynd i’r eglwys wyth mlynedd cyn hynny, oherwydd y rhagrith a welais yno. Roeddwn i’n teimlo bod tinc gwirionedd yn yr hyn a ddywedodd y Tystion, ac roedd rhaid imi gydnabod mai peth anodd yw byw heb Dduw.
“Yn anffodus, ar ôl ychydig o sgyrsiau, collais gysylltiad â’r Tystion. Roeddwn i mor ddigalon. Roeddwn i’n mynd trwy ddau baced o sigaréts bob dydd a hyd yn oed yn dechrau defnyddio cyffuriau. Fe wnes i droi at ysbrydegaeth er mwyn siarad â fy nhad-cu a oedd wedi marw. O ganlyniad, cefais ambell i brofiad ofnadwy gyda’r cythreuliaid yn y nos. Roeddwn i wedi dychryn am fy mywyd. Aeth hyn ymlaen am fisoedd lawer. Roeddwn i’n casáu bod ar fy mhen fy hun gyda’r nos.
“Un diwrnod, es i am dro ar hyd llwybr gwahanol. Ar y ffordd es i heibio safle adeiladu. Roeddwn i’n synnu o weld criw mawr o bobl yn gweithio yno. O fynd yn nes, gwelais fod Tystion Jehofa yn adeiladu Neuadd y Deyrnas. Roeddwn i’n cofio’r sgyrsiau gawson ni, ac yn meddwl y byddai’r byd yn llawer gwell petai pawb yn byw fel y Tystion.
“Roeddwn i wir eisiau i’r Tystion ddod i’m gweld i unwaith eto, ac felly siaradais â rhai oedd yn gweithio ar y neuadd. Gweddïais ar Dduw hefyd, a deg diwrnod wedyn dyma’r brawd a oedd wedi cysylltu â mi o’r blaen yn sefyll wrth y drws. Awgrymodd ef y dylwn i astudio’r Beibl eto, a chytunais. Gofynnodd hefyd imi fynd i’r cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas, ac fe es. Doeddwn i erioed wedi cael y fath brofiad. Roeddwn i wastad wedi gobeithio y byddwn i’n cyfarfod pobl hapus a oedd yn caru ei gilydd. A dyma nhw o’r diwedd!
“Ar ôl hynny, roedden i’n mynd i bob cyfarfod. Ymhen tair wythnos, roeddwn i wedi rhoi’r gorau i ysmygu. Fe wnes i gael gwared ar fy llyfrau astroleg a’r gerddoriaeth satanaidd oedd gen i. Roeddwn i’n teimlo bod y cythreuliaid yn colli eu dylanwad arna i. Newidiais fy mywyd a dechrau byw yn ôl safonau’r Beibl, ac ar ôl tri mis dechreuais gyhoeddi’r newyddion da. Chwe mis wedyn cefais fy medyddio. A dau ddiwrnod wedyn, dechreuais arloesi’n gynorthwyol.
“Rydw i’n diolch i Jehofa am yr holl bethau da y mae wedi eu gwneud i mi. O’r diwedd mae pwrpas i fy mywyd. Yn wir, mae enw Jehofa wedi bod yn dŵr cadarn imi pan oedd angen imi droi ato am loches. (Diarhebion 18:10) Cytunaf â’r salmydd a ysgrifennodd Salm 84:10: ‘Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd rhywle arall! Byddai’n well gen i aros ar drothwy tŷ fy Nuw na mynd i loetran yng nghartrefi pobl ddrwg.’”
Llwyddodd y ddynes ddiffuant hon i gael pwrpas i’w bywyd. Mae pawb sy’n chwilio am Jehofa â chalon dda yn gallu gwneud yr un fath.