Cwestiynau Ein Darllenwyr
Cwestiynau Ein Darllenwyr
Nid yw’r Beibl yn sôn am gynnig llwncdestun, felly pam nad ydy Tystion Jehofa yn cymryd rhan yn yr arfer hwnnw?
Mae cynnig llwncdestun â gwydraid o win (neu ddiod alcohol arall) yn arfer gyffredin ledled y byd, er bod y manylion yn wahanol o wlad i wlad. Weithiau, mae’r rhai sy’n cynnig y llwncdestun yn tincian eu gwydrau. Fel arfer, bydd y person sy’n cynnig y llwncdestun yn dymuno i rywun gael hapusrwydd, iechyd da, hir oes ac yn y blaen. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cytuno neu yn codi eu gwydrau ac yn yfed ychydig o win. Mae llawer o bobl yn ystyried hyn yn draddodiad diniwed neu ffordd o ddangos parch, ond mae rhesymau da pam nad ydy Tystion Jehofa yn cymryd rhan.
Wrth gwrs, mae Cristnogion yn dymuno hapusrwydd ac iechyd da i bobl. Fe wnaeth y Corff Llywodraethol yn y ganrif gyntaf gloi llythyr i’r cynulleidfaoedd â gair sy’n gallu cael ei gyfieithu fel “pob hwyl ichi,” “ffarwel,” neu “byddwch iach.” (Actau 15:29) A dywedodd rhai o weision Duw i frenhinoedd dynol: “Fy Mrenin . . . boed i ti fyw am byth.”—1 Brenhinoedd 1:31; Nehemeia 2:3.
Ond beth yw cefndir y traddodiad o gynnig llwncdestun? Gwnaeth The Watchtower, Ionawr 1, 1968, ddyfynnu The Encyclopædia Britannica (1910), Cyfrol 13, tudalen 121: “Mae’n debyg bod yr arfer o yfed gwydraid o win i ddymuno iechyd da i eraill yn dod o’r arfer crefyddol hynafol o yfed alcohol fel aberth i’r duwiau ac i’r meirw. Yn ystod pryd o fwyd, roedd y Groegiaid a’r Rhufeiniaid yn yfed gwin er mwyn anrhydeddu’r duwiau a’r meirw.” Dywedodd y gwyddoniadur hefyd eu bod nhw’n yfed gwin ac yn dymuno iechyd da i bobl wrth wneud yr aberthau hyn.
A ydy hynny dal yn berthnasol? Mae’r International Handbook on Alcohol and Culture 1995 yn dweud: “Pan fydd pobl yn cynnig llwncdestun heddiw, er nad ydyn nhw’n ei wneud am resymau crefyddol, mae’n debyg ei fod yn dod o’r arfer hynafol o aberthu rhyw hylif sanctaidd (hynny ydy gwaed neu win) i’r duwiau a dymuno neu weddïo am iechyd da.”
Mae rhai pethau neu arferion wedi tarddu o gau grefydd hynafol, ond nid ydy hynny’n golygu eu bod nhw wastad yn anghywir. Ystyriwch y pomgranad. Mae gwyddoniadur Beiblaidd enwog yn dweud bod nifer o grefyddau paganaidd yn amser y Beibl wedi defnyddio’r pomgranad fel rhan o’u haddoliad. Serch hynny, gorchmynnodd Duw fod pomgranadau bach yn cael eu gwneud i fynd ar ymylon mantell yr archoffeiriad. Hefyd, cafodd pomgranadau eu defnyddio i addurno’r pileri pres yn nheml Solomon. (Exodus 28:33; 2 Brenhinoedd 25:17) Ar ben hynny, mae’n debyg bod yr arfer o wisgo modrwy priodas wedi dod o gau grefydd. Ond heddiw, dydy pobl ddim yn ei ystyried fel symbol crefyddol, mae’n arwydd i ddangos bod rhywun wedi priodi.
Beth am ddefnyddio gwin yn gysylltiedig ag arferion crefyddol? Er enghraifft, ar un achlysur roedd y dynion yn Sichem a oedd yn addoli Baal yn “mynd i deml eu Duw i ddathlu a chynnal parti. Dyna lle roedden nhw, yn rhegi Abimelech [mab Gideon] wrth fwynhau gwledda ac yfed.” (Barnwyr 9:22-28) A fyddai un o addolwyr ffyddlon Jehofa wedi yfed gwin a gofyn i Baal cosbi Abimelech? Wrth ddisgrifio amser pan oedd llawer o bobl yn Israel wedi gwrthryfela yn erbyn Jehofa, dywedodd Amos: “Maen nhw’n gorwedd wrth ymyl yr allorau . . . Maen nhw’n yfed gwin yn nheml Duw—gwin wedi ei brynu gyda’r dirwyon roeson nhw i bobl!” (Amos 2:8) A fyddai gwir addolwyr wedi cymryd rhan yn hynny, petai’r a oedd y gwin yn cael ei dywallt fel diod-offrwm neu ei yfed i anrhydeddu’r duwiau? (Jeremeia 7:18) Neu, a fyddai gwir addolwr yn codi gwydraid o win a gofyn i Dduw bendithio rhywun?
Mae’n ddiddorol bod gweision Jehofa yn y gorffennol wedi codi eu dwylo i ofyn am help Duw. Roedden nhw’n codi eu dwylo i’r gwir Dduw. Darllenwn: “Dyma Solomon yn mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i’r awyr, a gweddïo, ‘O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti . . . Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti’n byw. Clyw ni a maddau i ni.’” (1 Brenhinoedd 8:22, 23, 30) Yn yr un modd, “Dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, . . . A dyma’r bobl yn ateb, ‘Amen! Amen!’ a chodi eu dwylo. Yna dyma nhw’n plygu’n isel i addoli’r ARGLWYDD.” (Nehemeia 8:6; 1 Timotheus 2:8, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Yn amlwg, nid oedd y rhai ffyddlon hyn yn codi eu dwylo i’r nefoedd er mwyn cael eu bendithio gan ryw dduw ffawd.—Eseia 65:11.
Nid yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan mewn llwncdestun heddiw yn meddwl eu bod nhw’n gofyn am ateb neu fendith gan Dduw. Ond eto dydyn nhw ddim yn gallu esbonio pam eu bod nhw’n codi eu gwydrau i gyfeiriad y nefoedd. Serch hynny, dydy hynny ddim yn rheswm i Gristnogion deimlo o dan bwysau i’w dilyn.
Mae llawer o bobl yn ymwybodol o’r arferion cyffredin dydy Tystion Jehofa ddim yn cymryd rhan ynddyn nhw. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn saliwtio’r faner neu’n gwneud pethau tebyg heb sylweddoli bod hynny’n fath o addoliad. Dydy gwir Gristnogion byth yn ymyrryd yn hyn o beth nac yn cymryd rhan chwaith. Weithiau bydd Tystion yn trefnu i osgoi’r seremonïau hyn er mwyn peidio â phechu eraill. Ond, os oes rhaid iddyn nhw fynychu, maen nhw dal yn benderfynol o beidio â gwneud unrhyw beth a fyddai’n mynd yn groes i egwyddorion y Beibl. (Exodus 20:4, 5; 1 Ioan 5:21) Heddiw, dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn ystyried cynnig llwncdestun fel rhywbeth crefyddol. Ond, mae rhesymau da pam dydy Cristnogion ddim yn cymryd rhan yn llwncdestunau. Mae gan yr arfer hwnnw gefndir crefyddol a, hyd yn oed heddiw, gall gael ei ystyried fel gofyn am fendith o’r nef, fel pe bai’n gofyn am help gan ryw rym goruwchnaturiol.—Exodus 23:2.