Gwna Benderfyniadau Sy’n Plesio Duw
Gwna Benderfyniadau Sy’n Plesio Duw
“Mae’r call yn ystyried pob cam.”—DIAR. 14:15, BCND.
1, 2. (a) Beth dylai fod ar flaen ein meddwl wrth wneud penderfyniadau? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod?
RYDYN NI’N gwneud llawer o benderfyniadau bob dydd. Dydy rhai ddim yn rhy bwysig, tra bod eraill yn cael effaith fawr ar ein bywydau. Ond ym mhob penderfyniad rydyn ni’n ei wneud, mawr neu fach, y peth pwysig yw i blesio Duw.—Darllen 1 Corinthiaid 10:31.
2 Wyt ti’n ei ffeindio hi’n hawdd gwneud penderfyniadau, neu ydyn nhw’n anodd? Er mwyn cael perthynas agos â Duw, mae’n rhaid inni ddysgu i wahaniaethu rhwng y drwg a’r da ac i wneud penderfyniadau droston ni’n hunain. (Rhuf. 12:1, 2; Heb. 5:14) Pam oes rhaid inni ddysgu i wneud penderfyniadau da? Pam mae’n anodd eu gwneud nhw weithiau? A pha gamau gallwn ni eu cymryd i wneud yn siŵr bod ein penderfyniadau yn plesio Duw?
Pam Mae’n Rhaid Gwneud Penderfyniadau?
3. Beth all ein rhwystro ni rhag gwneud penderfyniadau da?
3 Os ydyn ni’n ansicr ac yn dal yn ôl rhag gwneud penderfyniadau ar safonau’r Beibl, efallai bydd eraill yn meddwl dydy ein ffydd ddim yn bwysig inni a’u bod nhw’n gallu dylanwadu arnon ni. Efallai byddan nhw’n gwneud pethau sy’n anghywir ac yn ceisio ein perswadio ni i ‘ddilyn y dorf i wneud drwg,’ neu’n disgwyl inni guddio beth maen nhw’n ei wneud. (Ex. 23:2) Ond os ydyn ni’n dysgu i wneud penderfyniadau sy’n plesio Duw, fyddwn ni ddim yn gadael i eraill ddylanwadu arnon ni i wneud pethau rydyn ni’n gwybod sy’n anghywir.—Rhuf. 13:5.
4. Pam efallai bydd eraill eisiau gwneud penderfyniadau droston ni?
4 Weithiau gall ein ffrindiau a’n teulu geisio gwneud penderfyniadau droston ni, gan feddwl eu bod nhw’n ein helpu ni. Hyd yn oed pan ydyn ni’n wynebu penderfyniadau pwysig fel triniaeth feddygol. Mae’r Beibl yn glir y dylen ni osgoi camddefnyddio gwaed. (Act. 15:28, 29) Dydy pethau eraill meddygol ddim mor amlwg, ac mae’n rhaid i bob un ohonon ni wneud penderfyniad ar beth rydyn ni am ei dderbyn neu ei wrthod. a Efallai bydd gan ein teulu a’n ffrindiau deimladau cryf ar beth dylen ni ei wneud, ond mae’n rhaid i bob un ohonon ni gario ein baich ein hunain. (Gal. 6:4, 5) Y peth pwysicaf yw inni gadw cydwybod lân o flaen Duw, nid i blesio pobl eraill.—1 Tim. 1:5.
5. Sut gallwn ni osgoi llongddryllio ein ffydd?
5 Os nad ydy person yn gallu gwneud penderfyniadau, bydd ganddyn nhw lot o broblemau. Ysgrifennodd Iago am bobl felly, eu bod nhw’n “byw mewn ansicrwydd.” (Iago 1:8) Mae person sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniadau yn union fel dyn sydd ddim yn gallu rheoli llong mewn storm. Mae’n cael ei chwythu o un peth i’r llall gan syniadau pobl eraill. Byddai’n hawdd i ffydd person felly gael ei llongddryllio, ac yna iddo roi’r bai ar bobl eraill. (1 Tim. 1:19) Sut gallwn ni osgoi sefyllfa debyg i hynny? Mae’n rhaid inni gael ffydd gadarn. (Darllen Colosiaid 2:6, 7.) Er mwyn bod yn gadarn mae’n rhaid inni ddysgu i wneud penderfyniadau ar sail ein ffydd yn y Beibl. (2 Tim. 3:14-17) Ond beth gall ein rhwystro ni rhag gwneud penderfyniadau da?
Pam Mae’n Anodd Gwneud Penderfyniadau Weithiau?
6. Pa effaith gael ofn ei chael arnon ni?
6 Os oes gynnon ni ofn methu, gwneud rhywbeth anghywir, neu edrych yn dwp o flaen pobl eraill, gall fod yn anodd iawn inni wneud penderfyniad. Mae teimladau o’r fath yn naturiol. Does neb eisiau gwneud penderfyniad drwg a fyddai’n dod â phroblemau a chywilydd. Ond bydd cariad at Dduw a’i Air yn lleihau ein hofn. Ym mha ffyrdd? Pan ydyn ni’n caru Duw byddwn ni’n mynd at ei Air a chyhoeddiadau am y Beibl cyn gwneud penderfyniadau pwysig. Yna byddwn ni’n gwneud llai o gamgymeriadau. Pam? Achos gall y Beibl “roi craffter i’r gwirion, a gwybodaeth a synnwyr i’r ifanc.”—Diar. 1:4, BCND.
7. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl y Brenin Dafydd?
7 Fyddwn ni ddim wastad yn gwneud y penderfyniad iawn. Rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau. (Rhuf. 3:23) Er enghraifft, ystyria esiampl y brenin Dafydd a oedd yn ddyn doeth a ffyddlon. Ond ar adegau gwnaeth penderfyniadau drwg a achosodd ddioddefaint iddo ef ac i eraill. (2 Sam. 12:9-12) Er hynny, ni wnaeth Dafydd adael i’w gamgymeriadau ei stopio rhag gwneud penderfyniadau a oedd yn plesio Jehofa. (1 Bren. 15:4, 5) Hyd yn oed os ydyn ni wedi gwneud penderfyniadau drwg a phechu yn y gorffennol, os ydyn ni, fel Dafydd yn edifarhau, yn caru Jehofa, ac yn ufudd iddo, bydd Jehofa yn maddau inni ac yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau gwell yn y dyfodol.—Salm 51:1-4, 7-10.
8. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o sylwadau Paul ynglŷn â phriodas?
8 Mae’n bosib inni leddfu’r pryder ynglŷn â gwneud penderfyniadau. Sut? Drwy sylweddoli bod ’na fwy nag un ffordd iawn i fynd ym mhob sefyllfa. Ystyria’r ffordd gwnaeth yr apostol Paul resymu ar y pwnc o briodas. Cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu: “Os ydy rhywun yn teimlo ei fod yn methu rheoli ei nwydau gyda’r ferch mae wedi ei dyweddïo, a’r straen yn ormod, dylai wneud beth mae’n meddwl sy’n iawn. Dydy e ddim yn pechu drwy ei phriodi hi. Ond os ydy dyn wedi penderfynu peidio ei phriodi—ac yn gwybod yn iawn beth mae’n ei wneud, a heb fod dan unrhyw bwysau—mae yntau’n gwneud y peth iawn.” (1 Cor. 7:36-38) Dywedodd Paul ei bod hi’n well i aros yn sengl, ond bod priodi yn beth da hefyd.
9. Oes rhaid inni boeni am sut mae eraill yn teimlo am ein penderfyniadau? Esbonia.
9 Oes rhaid inni boeni am sut mae eraill yn teimlo am ein penderfyniadau? Oes, i ryw raddau. Sylwa ar beth ddywedodd Paul am fwyd a allai fod wedi ei aberthu i eilunod. Dywedodd Paul doedd bwyta bwyd o’r fath ddim yn anghywir, ond gallai gwneud hynny arwain at faglu rhywun arall. Beth roedd Paul yn benderfynol o’i wneud? Ysgrifennodd: “Os ydy beth dw i’n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto—does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.” (1 Cor. 8:4-13) Mae’n rhaid inni ystyried sut mae ein penderfyniadau yn effeithio ar gydwybod pobl eraill. Wrth gwrs, y peth pwysicaf yw sut mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ein perthynas â Jehofa. (Darllen Rhufeiniaid 14:1-4.) Pa egwyddorion Beiblaidd a fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau sy’n plesio Duw?
Chwe Cham i’n Helpu Ni i Wneud Penderfyniadau Da
10, 11. (a) Faint o awdurdod sydd gan bob aelod o’r teulu i wneud penderfyniadau? (b) Beth dylai henuriaid ei gofio wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y gynulleidfa?
10 Paid â gwneud penderfyniadau nad oes gen ti’r hawl i’w gwneud. Cyn dewis beth i’w wneud mae’n rhaid inni ofyn i’n hunain, ‘Ai fy mhenderfyniad i ydy hwn?’ Ysgrifennodd y Brenin Solomon: “Yn dilyn balchder fe ddaw amarch, ond gyda’r rhai gwylaidd y mae doethineb.”—Diar. 11:2, BCND.
11 Gall plant wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain pan mae eu rhieni yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny. (Col. 3:20) Mae gwragedd a mamau yn gallu gwneud llawer o bethau i gefnogi eu teuluoedd, ond dylen nhw gofio mai’r gŵr yw pen y teulu. (Diar. 1:8; 31:10-18; Eff. 5:23, BCND) Hefyd, mae’n rhaid i gwŷr sylwi mai dim ond ychydig o awdurdod sydd ganddyn nhw, oherwydd maen nhw’n atebol i Grist. (1 Cor. 11:3, BCND) Mae henuriaid yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y gynulleidfa, ond maen nhw’n gwneud yn siŵr dydyn nhw ddim yn “mynd y tu hwnt i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” (1 Cor. 4:6) Hefyd, maen nhw’n dilyn cyfarwyddiadau’r gwas ffyddlon yn agos. (Math. 24:45-47) Byddwn ni’n osgoi llawer o broblemau os ydyn ni ond yn gwneud penderfyniadau sydd gynnon ni’n hawl i’w gwneud.
12. (a) Pam dylen ni wneud ymchwil? (b) Esbonia sut gall person wneud ymchwil o’r fath?
12 Gwna ymchwil. Ysgrifennodd Solomon: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled; ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi.” (Diar. 21:5) Er enghraifft, os wyt ti’n wynebu penderfyniad ynglŷn â gwaith, paid â gadael i dy emosiynau reoli. Casgla ffeithiau ar y pwnc, gofynna am gyngor gan bobl brofiadol, a cheisia ddod o hyd i egwyddorion o’r Beibl sy’n berthnasol. (Diar. 20:18) Ar ôl gwneud a threfnu dy ymchwil, gwna ddwy restr—un yn cynnwys y buddion, a’r llall y peryglon. Cyn gwneud y penderfyniad, cofia i “amcangyfri’r gost.” (Luc 14:28) Ystyria sut mae dy benderfyniad yn effeithio, nid yn unig ar dy sefyllfa ariannol, ond hefyd ar dy gyflwr ysbrydol. Mae’n werth yr ymdrech i wneud ymchwil oherwydd mae’n ein helpu ni i osgoi gwneud penderfyniadau sy’n achosi poen a phryder.
13. (a) Pa anogaeth sydd i’w gweld yn Iago 1:5? (b) Sut gall gweddïo am ddoethineb ein helpu ni?
13 Gweddïa am ddoethineb. Bydd ein penderfyniadau ond yn plesio Duw os ydyn ni’n gofyn am ei help wrth eu gwneud nhw. Ysgrifennodd y disgybl Iago: “Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw.” (Iago 1:5) Ddylen ni ddim teimlo cywilydd bod angen help Duw arnon ni i wneud penderfyniadau. (Diar. 3:5, 6) Wedi’r cwbl, os ydyn ni’n dibynnu ar ein hunain mae’n hawdd gwneud camgymeriad. Pan ydyn ni’n gweddïo am ddoethineb ac yn chwilio am egwyddorion yng ngair Duw, bydd Jehofa yn ein helpu ni i ddeall pam rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth.—Heb. 4:12; darllen Iago 1:22-25.
14. Pam na ddylen ni ddal yn ôl rhag gwneud penderfyniad?
14 Gwna’r penderfyniad. Paid â rhuthro i wneud hyn heb wneud yr ymchwil na gweddïo am ddoethineb. Mae person call yn meddwl yn ofalus. (Diar. 14:15) Ar y llaw arall, paid â dal yn ôl rhag gwneud penderfyniad. (Diar. 22:13) Weithiau mae pobl sy’n oedi yn creu esgusodion afresymol dros beidio â gwneud pethau. Ond mae hynny yn ei hun yn dal yn benderfyniad—mae’n benderfyniad i adael i bobl eraill reoli eu bywydau.
15, 16. Beth sy’n rhaid inni ei wneud ar ôl inni benderfynu ar rywbeth?
15 Gweithreda ar y penderfyniad. Mae gwneud penderfyniad yn un peth ond mae’n rhaid inni hefyd weithredu arno. Ysgrifennodd Solomon: “Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti’n ei wneud.” (Preg. 9:10) Mae’n rhaid inni fod yn barod i wneud newidiadau er mwyn cael llwyddiant. Er enghraifft, efallai bydd cyhoeddwr yn y gynulleidfa yn penderfynu arloesi. A fyddai’n llwyddo? Bydd, os nad yw’n gadael i waith ac adloniant gymryd gormod o’i amser a’i egni i ffwrdd o’r weinidogaeth.
16 Dydy hi ddim wastad yn hawdd gweithredu ar benderfyniadau da. Pam? Achos “mae’r byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.” (1 Ioan 5:19) Mae’n rhaid inni frwydro yn erbyn “yr awdurdodau a’r pwerau tywyll sy’n rheoli’r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol.” (Eff. 6:12) Gwnaeth yr apostol Paul a’r disgybl Jwdas ddweud byddai bywyd yn anodd i’r rhai sy’n penderfynu gwasanaethu Duw.—1 Tim. 6:12; Jwd. 3, BCND.
17. Beth mae Jehofa yn ei ofyn gynnon ni ynglŷn a’n penderfyniadau?
17 Adolyga’r penderfyniad a’i addasu os oes angen. Weithiau mae pethau yn newid ar ôl inni wneud penderfyniad. “Mae damweiniau’n gallu digwydd i bawb.” (Preg. 9:11) Er hynny, mae Jehofa’n disgwyl inni gadw at rai o’n penderfyniadau hyd yn oed pan mae’n anodd. Ar ôl inni gael ein bedyddio neu briodi, allwn ni ddim newid ein meddwl am y penderfyniadau hynny, mae Jehofa’n disgwyl inni gadw addewidion o’r fath. (Darllen Salm 15:1, 2, 4.) Ond, mae rhai penderfyniadau yn llai pwysig. Felly mae’n dda i adolygu ein penderfyniadau o bryd i’w gilydd. Ddylen ni ddim fod yn rhy falch na styfnig i newid penderfyniad. (Diar. 16:18) Y peth pwysicaf yw i ddal ati i wasanaethu Duw.
Hyffordda Eraill i Wneud Penderfyniadau Sy’n Plesio Duw
18. Sut gall rhieni hyfforddi eu plant i wneud penderfyniadau da?
18 Mae rhieni’n gallu gwneud llawer i ddysgu i’w plant sut i wneud penderfyniadau sy’n plesio Duw. Y ffordd orau i wneud hynny yw drwy osod esiampl dda. (Luc 6:40) Os yw’n addas, gallan nhw esbonio i’w plant sut gwnaethon nhw benderfyniadau. Efallai byddan nhw eisiau gadael i’r plant benderfynu ar rai pethau drostyn nhw eu hunain, a’u canmol pan mae pethau’n mynd yn dda. Ond beth os yw plentyn yn gwneud penderfyniad drwg? Efallai bydd y rhiant eisiau datrys y broblem drosto. Ond fydd hyn ddim yn helpu’r plentyn i ddysgu. Er enghraifft, dychmyga fod person ifanc yn cael trwydded yrru, ond mae’n torri rheolau’r ffordd ac yn derbyn dirwy. Gallai ei riant dalu’r ddirwy, ond bydd y person ifanc yn fwy tebygol o ddysgu i fod yn gyfrifol os mae’n gorfod gweithio i dalu’r ddirwy drosto’i hun—Rhuf. 13:4.
19. Beth dylen ni ei ddysgu i’n myfyrwyr y Beibl, a sut gallwn ni wneud hynny?
19 Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr i ddysgu eraill. (Math. 28:20) Un o’r pethau pwysicaf gallwn ni ei ddysgu i’n myfyrwyr y Beibl yw sut i wneud penderfyniadau da. I wneud hyn yn effeithiol, mae’n rhaid inni osgoi dweud wrthyn nhw beth i’w wneud. Yn hytrach, dylen ni ddysgu iddyn nhw sut i ddod o hyd i gyngor da yn y Beibl fel eu bod nhw’n gallu penderfynu drostyn nhw eu hunain beth i’w wneud. Wedi’r cwbl, “bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw.” (Rhuf. 14:12) Felly dylai pob un ohonon ni ddysgu i wneud penderfyniadau sy’n plesio Duw.
[Troednodyn]
a Am drafodaeth bellach ar y pwnc, gweler “How Do I View Blood Fractions and Medical Procedures Involving My Own Blood?” a gyhoeddwyd yn rhifyn Tachwedd 2006 o Ein Gweinidogaeth Saesneg, tudalennau 3-6.
Sut Byddet Ti’n Ateb?
• Pam oes rhaid inni ddysgu sut i wneud penderfyniadau?
• Sut gall ofn effeithio arnon ni, a beth gallwn ni ei wneud i drechu ein hofnau?
• Pa chwe cham gallwn ni eu cymryd i sicrhau bod ein penderfyniadau yn plesio Duw?
[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Blwch/Llun]
Camau Sy’n Ein Helpu Ni i Wneud Penderfyniadau Da
1 Paid â Gwneud Penderfyniadau Nad Oes Gen Ti’r Hawl i’w Gwneud
2 Gwna Ymchwil
3 Gweddïa am Ddoethineb
4 Gwna’r Penderfyniad
5 Gweithreda ar y Penderfyniad
6 Adolyga’r Penderfyniad a’i Addasu os Oes Angen
[Llun]
Mae person sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniadau yn union fel dyn sydd ddim yn gallu rheoli llong mewn storm