Cyhoeddwch y Newyddion Da!
Cynhadledd 2024 Tystion Jehofa
Mynediad am Ddim • Dim Casgliadau
Uchafbwyntiau o’r Rhaglen
Dydd Gwener: Ystyriwch dystiolaeth sy’n dangos bod y newyddion da am fywyd Iesu yn yr Efengylau yn fanwl gywir. Dysgwch sut gallwch chi elwa o’r hanesion hyn yn y Beibl.
Dydd Sadwrn: Beth gafodd ei broffwydo am enedigaeth a phlentyndod Iesu? A ddaeth y proffwydoliaethau hynny’n wir?
Dydd Sul: Yn yr anerchiad “Pam Nad Ydyn Ni’n Ofni Newyddion Drwg,” byddwch yn dysgu o’r Beibl y rheswm mae miliynau o bobl heddiw yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus er bod cyflwr y byd yn gwaethygu.
Y Brif Ddrama
Y Newyddion Da yn ôl Iesu: Pennod 1
Gwir Oleuni’r Byd
Yn ogystal â’i enedigaeth wyrthiol, digwyddodd llawer o bethau dramatig yn ystod plentyndod Iesu. Cafodd ei gymryd i’r Aifft gan ei rieni er mwyn dianc rhag brenin a oedd eisiau ei ladd. Yn nes ymlaen, gwnaeth Iesu syfrdanu rhai o athrawon pennaf ei ddydd. Gwyliwch wrth i’r hanesion hyn a rhai eraill ddod yn fyw yn ystod y bennod ddwy ran ar ddyddiau Gwener a Sadwrn.
Gwyliwch y fideos canlynol am y gynhadledd eleni
Beth Sy’n Digwydd yn Ein Cynadleddau?
Cewch syniad o beth sy’n mynd ymlaen yng nghynadleddau Tystion Jehofa.
Cynhadledd 2024 Tystion Jehofa: Cyhoeddwch y Newyddion Da!
Cipolwg ar raglen y gynhadledd eleni.
Cipolwg ar y Brif Ddrama: Y Newyddion Da yn ôl Iesu
Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â hanes genedigaeth wyrthiol Iesu. Ond beth ddigwyddodd cyn ac ar ôl y digwyddiad cyffrous hwnnw?