I Efelychu Iesu, Byddwch . . .
YN DRUGAROG
Dyn perffaith oedd Iesu, felly nid oedd yn wynebu’r un problemau â phobl eraill. Er hynny, roedd yn teimlo dros bobl ac roedd yn fodlon mynd i drafferth i’w helpu. Ei drugaredd a wnaeth iddo helpu eraill. Gweler Jesus—The Way, The Truth, The Life, Penodau 32, 37, 57, 99.
YN BAROD I WRANDO
Roedd pobl o bob oedran, yn hen ac yn ifanc, yn mynd at Iesu. Nid oedd Iesu byth yn gwneud i bobl deimlo ei fod yn rhy bwysig i wrando arnyn nhw. Roedd pobl yn gwybod bod gan Iesu ddiddordeb ynddyn nhw ac felly roedden nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ei gwmni. Gweler Jesus—The Way, The Truth, The Life, Penodau 25, 27, 95.
YN WEDDIGAR
Roedd Iesu yn gweddïo’n rheolaidd ar ei Dad, pan oedd ar ei ben ei hun ac yng nghwmni pobl eraill. Roedd yn gweddïo yn aml, nid cyn cael pryd o fwyd yn unig, ond er mwyn diolch i’w Dad, i’w foli, ac i ofyn am ei arweiniad cyn gwneud penderfyniadau mawr. Gweler Jesus—The Way, The Truth, The Life, Penodau 24, 34, 91, 122, 123.
YN ANHUNANOL
Hyd yn oed pan oedd Iesu wedi blino ac eisiau ymlacio, roedd yn fodlon rhoi ei anghenion ei hun o’r neilltu er mwyn helpu eraill. Rhoddodd bobl eraill yn gyntaf, gan osod patrwm i ni ei ddilyn. Gweler Jesus—The Way, The Truth, The Life, Penodau 19, 41, 52.
YN FADDEUGAR
Roedd Iesu yn gwneud mwy na sôn am yr angen i faddau—roedd yn dangos ei fod yn faddeugar yn y ffordd roedd yn trin ei ddisgyblion ac eraill. Gweler Jesus—The Way, The Truth, The Life, Penodau 26, 40, 64, 85, 131.
YN SELOG
Fe wyddai Iesu na fyddai’r rhan fwyaf o’r Iddewon yn ei dderbyn fel y Meseia ac y byddai ei elynion yn ei ladd. Ond roedd yn dal i wneud ymdrech fawr i helpu cymaint o bobl â phosib i ddysgu’r gwir. Gosododd esiampl i’w ddilynwyr sy’n wynebu difaterwch neu wrthwynebiad. Gweler Jesus—The Way, The Truth, The Life, Penodau 16, 72, 103.
YN OSTYNGEDIG
Roedd Iesu yn uwch na bodau dynol amherffaith ym mhob ffordd. Er enghraifft, roedd ganddo fwy o wybodaeth a doethineb na neb arall. Roedd ganddo iechyd perffaith ac roedd yn fwy deallus na phawb o’i gwmpas. Er hynny, roedd yn barod i wasanaethu eraill. Gweler Jesus—The Way, The Truth, The Life, Penodau 10, 62, 66, 94, 116.
YN AMYNEDDGAR
Pan nad oedd ei apostolion ac eraill yn efelychu ei esiampl nac yn rhoi ei gyngor ar waith, roedd Iesu yn dal yn amyneddgar. Roedd yn fodlon ailadrodd gwersi pwysig er mwyn eu helpu nhw i nesáu at Jehofa. Gweler Jesus—The Way, The Truth, The Life, Penodau 74, 98, 118, 135.