CWESTIYNAU POBL IFANC
Sut Galla’ i Feithrin yr Awydd i Wneud Ymarfer Corff?
Pam dylwn i wneud ymarfer corff?
Mewn rhai gwledydd, mae pobl ifanc yn treulio llai o amser yn gwneud gweithgareddau corfforol, ac mae hynny’n cael effaith ddrwg ar eu hiechyd. Nid heb reswm mae’r Beibl yn dweud: “Mae ymarfer corff yn beth da.” (1 Timotheus 4:8) Ystyria’r canlynol:
Mae ymarfer corff yn gallu gwella dy hwyliau. Mae gweithgareddau corfforol yn rhyddhau endorffinau yn y corff sy’n gwneud i ti ymlacio a theimlo’n hapus. Mae rhai yn dweud bod ymarfer corff yn ffordd naturiol o leddfu ar straen ac iselder.
“Os ydw i’n rhedeg peth cyntaf yn y bore, mae’r diwrnod cyfan yn well; dw i’n gwneud mwy ac yn ei fwynhau. Mae rhedeg yn gwella fy hwyliau.”—Regina.
Mae ymarfer corff yn gwneud iti edrych yn well. Drwy ymarfer corff yn gall, byddi di’n gryfach, yn fwy heini, a bydd pobl yn dy weld ti’n fwy hyderus.
“Mae’n teimlo’n wych i fedru gwneud deg ymarfer ‘tynnu i fyny’—flwyddyn yn ôl doeddwn i ddim yn medru gwneud yr un! Yn anad dim, dw i’n gwybod mod i’n gofalu am ’nghorff.”—Olivia.
Mae ymarfer corff yn gallu ymestyn dy fywyd. Mae gweithgareddau corfforol yn gwneud lles i’r galon, i gylchrediad y gwaed ac i’r anadlu. Mae ymarfer aerobig yn helpu i atal clefyd coronaidd y galon, sydd yn un o brif achosion marwolaeth i ddynion a menywod fel ei gilydd.
“Wrth ymarfer corff yn rheolaidd, rydyn ni’n dangos i’r Creawdwr ein bod ni’n ddiolchgar am y corff a roddodd ef inni.”—Jessica.
Y gwir yw: Bydd ymarfer corff yn gwneud byd o wahaniaeth i dy iechyd yn y dyfodol ac yn gwneud iti deimlo’n hapusach nawr. “Ar ôl mynd am dro neu redeg am sbel, fyddi di byth yn dweud ‘Dw i’n difaru imi wneud hynny.’ Unwaith mod i’n stopio hel esgusodion a mynd amdani dw i byth yn difaru,” meddai dynes ifanc o’r enw Tonya.
Beth sy’n fy nal i’n ôl?
Dyma rai pethau a all fod yn rhwystr:
Dim cymhelliad. “Dw i’n meddwl bod pobl ifanc yn teimlo nad oes dim byd yn mynd i ddigwydd iddyn nhw. Mae’n anodd dychmygu cael problemau iechyd. Rwyt ti’n meddwl mai dim ond pobl mewn oed sy’n mynd yn sâl.”—Sophia.
Dim amser. “Dw i mor brysur. Dw i’n gorfod cymryd amser i fwyta’n iach ac i gysgu, ond mae wastad wedi bod yn anodd imi gael amser i ymarfer corff.”—Clarissa.
Dim tocyn i’r gampfa. “Mae cadw’n heini yn gostus—rhaid iti dalu os wyt ti eisiau mynd i’r gampfa!”—Gina.
I feddwl amdano:
Beth ydy’r peth sy’n dy rwystro di rhag gwneud ymarfer corff? Bydd goresgyn y rhwystr hwnnw yn gofyn am waith, ond bydd yn talu ar ei ganfed.
Sut galla’ i gael digon o ymarfer corff?
Dyma ychydig o awgrymiadau:
Cymera gyfrifoldeb dros dy iechyd.—Galatiaid 6:5.
Paid â gwneud esgusodion. (Pregethwr 11:4) Er enghraifft, does dim angen ymaelodi â champfa i ddechrau ymarfer corff. Y cwbl sydd ei angen ydy dewis gweithgaredd rwyt ti’n ei fwynhau, a’i wneud yn rheolaidd.
Am fwy o syniadau, gofynna i bobl eraill beth maen nhw’n ei wneud i ymarfer corff.—Diarhebion 20:18.
Gwna amserlen benodol. Bydd gosod amcanion a nodi pob cam ymlaen yn dy helpu di i ddal ati.—Diarhebion 21:5.
Gofynna i ffrind ymarfer gyda thi. Byddan nhw’n dy annog di ac yn dy helpu di i gadw at dy raglen.—Pregethwr 4:9, 10.
Cofia fod ambell gam yn ôl yn anochel, ond paid â rhoi’r gorau iddi.—Diarhebion 24:10.
Bydd yn rhesymol
Mae’r Beibl yn dweud y dylai dynion a menywod fod “yn synhwyrol ac yn gall.” (1 Timotheus 3:2, 11) Felly bydda’n rhesymol wrth ymarfer corff. Yn aml, mae pobl sy’n mynd i eithafion o ran ymarfer corff yn ymddangos yn arwynebol. “Dydy dyn sydd â mwy o gyhyrau na meddyliau ddim yn ddeniadol,” meddai dynes ifanc o’r enw Julia.
Paid â chael dy ddylanwadu gan bosteri gyda sloganau fel “Pan wyt ti’n teimlo fel marw, gwna ddeg arall.” Mae dilyn cyngor fel hyn yn gallu niweidio dy gorff, a gwneud iti beidio â ‘dewis y peth gorau i’w wneud.’—Philipiaid 1:10.
Ar ben hynny, gall y math yma o ‘ysbrydoli’ gael effaith negyddol. Dywedodd dynes ifanc o’r enw Vera: “Mae llawer o ferched yn cadw lluniau o bobl hoffen nhw eu hefelychu, ac yn edrych arnyn nhw i gael eu hysbrydoli. Ond wedyn maen nhw’n cymharu eu hunain â’r bobl hynny ac yn digalonni. Mae’n well anelu at wella dy iechyd yn hytrach na’r ffordd rwyt ti’n edrych.”