Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla’ i Lwyddo Wrth Ddysgu o Bell?

Sut Galla’ i Lwyddo Wrth Ddysgu o Bell?

 Mae llawer o ddisgyblion yn cael eu haddysg mewn “ysgolion” go wahanol ar hyn o bryd—eu cartrefi. Os dyna rwyt ti yn ei wneud, sut gelli di ddal ati i ddysgu? Dyma rai awgrymiadau. a

 Pum awgrym i dy helpu

  •   Gwneud cynllun. Ceisia gadw at amserlen fel y byddet ti’n ei wneud yn yr ysgol. Penderfyna pryd y byddi di’n gwneud gwaith ysgol, gwaith i helpu o gwmpas y tŷ, a phethau pwysig eraill. Gelli di addasu’r amserlen yn ôl yr angen.

     Egwyddor o’r Beibl: “Dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd . . . drefnus.”—1 Corinthiaid 14:40.

     “Cynllunia’r diwrnod fel ’taset ti yn yr ysgol. Mae’n rhaid i ti gwblhau pethau erbyn amser penodol.”—Katie

     Ystyria hyn: Pam byddai’n syniad da i ysgrifennu dy amserlen a’i rhoi lle bydd yn hawdd i ti ei gweld?

  •   Magu hunan-ddisgyblaeth. Rhan bwysig o dyfu’n oedolyn yw sylweddoli bod rhaid i ti fynd i’r afael â rhai tasgau hyd yn oed pan nad oes awydd arnat ti. Paid â gohirio pethau!

     Egwyddor o’r Beibl: “Bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau.”—Diarhebion 13:4.

     “Disgyblu fy hun yw’r her fwyaf. Mae’n hawdd gwneud esgusodion a dweud, ‘Mi wna i ’ngwaith ysgol wedyn,’ ond dwyt ti ddim yn ei wneud wedyn, ac yn y diwedd rwyt ti ar ei hôl hi.”—Alexandra.

     Ystyria hyn: Sut bydd gwneud gwaith ysgol yn yr un lle ac ar yr un pryd bob dydd yn gwella dy hunan-ddisgyblaeth?

  •   Creu lle penodol i astudio. Sicrha fod popeth sydd ei angen arnat ti wrth law. Gwna dy hun yn gyfforddus ond ddim yn rhy gyfforddus. Rwyt ti yno i weithio nid i gysgu! Os na elli di gael lle arbennig ar gyfer dy waith ysgol, efallai gelli di ddefnyddio’r gegin neu ystafell wely yn ystod y dydd.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.”—Diarhebion 21:5.

     “Rho’r bêl, y gemau fideo a’r gitâr i gadw, a diffodd y sŵn ar dy ffôn. Mae awyrgylch heb bethau sy’n tynnu dy sylw yn hanfodol ar gyfer dysgu.”—Elizabeth.

     Ystyria hyn: Sut gelli di drefnu y man lle rwyt ti’n astudio fel bod hi’n haws canolbwyntio?

  •   Dysgu canolbwyntio. Canolbwyntia ar y dasg dan sylw a phaid â cheisio gwneud mwy nag un peth ar y tro. Os wyt ti’n ceisio gwneud sawl peth ar yr un pryd mae’n debyg y byddi di’n gwneud camgymeriadau a’r gwaith yn cymryd mwy o amser yn y pen draw.

     Egwyddor o’r Beibl: “Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi.”—Effesiaid 5:16.

     “Roedd yn amhosib canolbwyntio pan oedd fy ffôn wrth fy ochr. O’n i’n gwastraffu llawer o amser yn gwneud pethau di-fudd.”Olivia.

     Ystyria hyn: Elli di gynyddu dy allu i ganolbwyntio ar dasgau?

  •   Cymryd egwyl fach. Beth am fynd am dro, mynd ar dy feic, neu wneud ychydig o ymarfer corff? Mae gwneud hobi yn helpu hefyd. “Ond mae’n bwysig gwneud dy waith yn gyntaf,” meddai’r llyfr School Power. “Byddi di’n mwynhau dy amser rhydd yn well ar ôl gorffen y pethau rwyt ti’n gorfod eu gwneud.”

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.”—Pregethwr 4:6.

     “Fel arfer, mae gen ti’r cyfle yn yr ysgol i ddysgu offeryn neu gael gwersi celf. Do’n i ddim yn sylweddoli faint byddwn i’n gweld eisiau’r pethau hynny nes bod nhw wedi mynd. Mae’n syniad da i wneud pethau creadigol yn ogystal â dy waith ysgol.”—Taylor.

     Ystyria hyn: Beth gelli di ei wneud i glirio dy feddwl cyn dod yn ôl at dy waith ysgol?

a Mae llawer o ffyrdd gwahanol i ddysgu o bell. Defnyddia’r awgrymiadau yn yr erthygl hon sy’n berthnasol i ti.