CWESTIYNAU POBL IFANC
Ydw i’n Un am Ddyfalbarhau?
Sut un wyt ti am ddyfalbarhau? Wyt ti wedi teimlo effaith . . .
colli anwylyn?
salwch hirdymor?
trychineb naturiol?
Mae ymchwilwyr yn dweud nad heriau mawr yn unig sy’n gofyn am ddyfalbarhad. Gall hyd yn oed pwysau bob dydd effeithio ar dy iechyd. Dyma pam mae hi’n bwysig iti ddyfalbarhau, ni waeth pa mor ddibwys neu ddifrifol ydy dy broblem.
Beth ydy dyfalbarhad?
Dyfalbarhad yw’r gallu i ddelio’n llwyddiannus â newidiadau a heriau bywyd. Mae gan bobl sy’n dyfalbarhau broblemau yr un fath â phawb arall. Ond maen nhw’n gallu trechu eu problemau, ac er gwaethaf unrhyw boen, maen nhw’n gryfach nag erioed.
Pam rwyt ti angen dyfalbarhad?
Oherwydd bod gan bawb broblemau. Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy’r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras, . . . na’r clyfraf yn cael y cyfoeth . . . mae damweiniau’n gallu digwydd i bawb.” (Pregethwr 9:11) Y wers? Mae hyd yn oed pobl dda yn dioddef—yn aml drwy hap a damwain.
Oherwydd bod dyfalbarhad yn dy amddiffyn. Sylwodd un cynghorwr ysgol uwchradd: “Rydw i wedi cael mwy o fyfyrwyr nag erioed yn dod i fy swyddfa wedi ypsetio’n lân oherwydd iddyn nhw gael C mewn arholiad, neu oherwydd i rywun ddweud rhywbeth cas ar gyfryngau cymdeithasol.” Er bod y problemau hyn yn gymharol fychan, meddai, heb y sgiliau i ddelio â nhw, gall “amryw o anhwylderau meddyliol ac emosiynol ddatblygu.” a
Oherwydd bydd dyfalbarhad yn dy helpu di nawr ac yn y dyfodol. Ysgrifennodd Dr Richard Lerner ynglŷn â phroblemau bywyd: “Mae gorchfygu siom, gosod amcanion newydd, neu geisio datrys problemau er mwyn cyrraedd ein nod, i gyd yn rhan o fod yn oedolyn llwyddiannus.” b
Sut gelli di feithrin dyfalbarhad?
Edrycha ar dy broblem yn ei gwir oleuni. Dysga i wahaniaethu rhwng problemau mawr a phroblemau bach. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio, ond mae’r person call yn anwybyddu’r ffaith ei fod wedi ei sarhau.” (Diarhebion 12:16) Does dim rhaid i bob problem dy lethu.
“Yn yr ysgol, roedd rhai plant yn gwneud môr a mynydd o’r pethau lleiaf. Ac wedyn roedd eu ffrindiau’n ochri gyda nhw ar gyfryngau cymdeithasol, a byddai hynny’n rhoi tanwydd ar y tân, gan eu rhwystro rhag gweld eu problemau yn eu gwir oleuni.”—Joanne.
Dysga oddi wrth eraill. Yn ôl un ddihareb yn y Beibl: “Fel haearn yn hogi haearn, mae un person yn hogi meddwl rhywun arall.” (Diarhebion 27:17) Mae’n bosib dysgu gwersi gwerthfawr gan bobl sydd wedi gorchfygu problemau anodd.
“Wrth iti siarad ag eraill, ddoi di i weld eu bod nhwthau wedi bod trwy’r felin, ond maen nhw’n iawn ’ŵan. Siarada efo nhw i ddysgu beth wnaethon nhw wneud, neu beidio â gwneud i ddelio â’u sefyllfa.”—Julia.
Bydda’n amyneddgar. Mae’r Beibl yn dweud: “Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw’n codi ar eu traed.” (Diarhebion 24:16) Mae’n cymryd amser i dderbyn fod rhywbeth o’i le, felly paid â synnu os cei di ddyddiau drwg. Y peth pwysicaf ydy dy fod ti’n ‘codi ar dy draed.’
“Pan wyt ti’n dod yn ôl atat ti dy hun ar ôl amser anodd, mae’n rhaid i dy galon a dy emosiynau fendio. Mae hynny’n broses sy’n cymryd amser. Dw i wedi dysgu bod y broses o wella ’chydig haws wrth i amser fynd heibio.”—Andrea.
Meithrin diolchgarwch. Mae’r Beibl yn dweud: “Byddwch yn ddiolchgar.” (Colosiaid 3:15) Ni waeth pa mor ddifrifol yw dy broblem, mae ’na bethau i fod yn ddiolchgar amdanyn nhw o hyd. Meddylia am dri pheth sy’n gwneud dy fywyd yn werth ei fyw.
“Mae’n anodd peidio â gofyn, ‘Pam fi?’ pan wyt ti yn ei chanol hi. Mae’r gallu i beidio â chanolbwyntio ar dy broblemau, ond yn hytrach, dewis bod yn bositif ac yn ddiolchgar am beth sydd gen ti neu beth elli di ei wneud, yn rhan fawr o ddyfalbarhau.”—Samantha.
Dewisa fod yn fodlon. Dywedodd yr apostol Paul: “Dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy’n digwydd i mi.” (Philipiaid 4:11) Roedd problemau Paul tu hwnt i’w reolaeth. Ond roedd yn gallu rheoli ei ymateb. Roedd Paul yn benderfynol o aros yn fodlon.
“Un peth dw i wedi dysgu ydy fy mod i ddim o hyd yn ymateb i broblem yn y ffordd orau i gychwyn. Fy nod ydy meithrin agwedd bositif tuag at unrhyw sefyllfa. Bydd hynny o les i mi yn ogystal â’r rhai o ’nghwmpas i.”—Matthew.
Gweddïa. Mae’r Beibl yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.” (Salm 55:22) Mae gweddi yn llawer mwy na rhywbeth sy’n ein cynnal ni’n seicolegol; mae’n ffordd real o siarad â dy Greawdwr, sy’n ‘gofalu amdanat ti.’—1 Pedr 5:7.
“Does dim rhaid imi frwydro ar fy mhen fy hun. Pan ydw i’n siarad yn rhydd am fy mhroblemau mewn gweddi onest, ac yn diolch i Dduw am fy mendithion, dw i’n cael gwared ar fy emosiynau negyddol oherwydd fy mod i’n ffocysu ar sut mae Jehofa wedi fy mendithio i. Mae gweddi mor bwysig.”—Carlos.