Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Beth Dylwn i Ei Wybod am Smygu a Fêpio?

Beth Dylwn i Ei Wybod am Smygu a Fêpio?

 “Yn yr ardal lle dw i’n byw, peth prin iawn ydy cyfarfod rhywun o dan 25 oed sydd erioed wedi smygu na fêpio.”—Julia.

Yn yr erthygl hon

 Beth dylet ti ei wybod?

  •   Mae sigaréts yn gallu dy ladd. Nicotîn yw’r cyffur caethiwus mewn tybaco. Mae’n wenwynig ac mae’n hynod o hawdd mynd yn gaeth iddo. Yn ôl Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU, “mae ysmygu yn achosi mwy o salwch, anabledd, a marwolaethau y mae modd eu hosgoi nag unrhyw beth arall yn y DU.”

     “Dw i’n gweithio yn y maes meddygol fel sonograffydd, a dw i wedi gweld lluniau uwchsain sy’n dangos effaith smygu ar gleifion. Dw i’n dychryn o weld y plac sy’n cronni mewn pibellau gwaed pobl sydd wedi smygu. Mae gen i ormod o barch at fy nghorff i ddechrau smygu.”—Theresa.

     Oeddet Ti’n Gwybod? Mae tua 7,000 o gemegion mewn sigaréts, ac mae llawer ohonyn nhw’n wenwynig. Bob blwyddyn mae miliynau o bobl yn marw o afiechydon sy’n gysylltiedig â thybaco.

  •   Mae cemegion gwenwynig mewn fêps. Mae nifer o achosion o niwed i’r ysgyfaint a marwolaethau wedi’u cysylltu â defnyddio fêps neu e-sigaréts. Hefyd, yn debyg i sigaréts cyffredin, mae fêps yn cynnwys nicotîn. Oherwydd ei bod mor hawdd mynd yn gaeth i nicotîn, mae un daflen wybodaeth am e-sigaréts yn dweud ei fod yn gallu “gwneud i ymennydd pobl ifanc fod yn fwy tebygol o fynd yn gaeth i gyffuriau eraill.”

     “Mae ’na fêps sydd â blas melys ac enwau fel candi-fflos a cheirios, ac maen nhw’n apelio’n arbennig at blant a phobl yn eu harddegau. Mae’r blas yn gwneud i bobl feddwl eu bod nhw’n saff.”—Miranda.

     Oeddet Ti’n Gwybod? Nid dŵr yn unig yw’r “mwg” sy’n dod o e-sigaréts. Mae’n cynnwys gronynnau o sylweddau niweidiol, gan gynnwys metelau trwm, sy’n mynd i mewn i’r ysgyfaint.

 Y peryglon sy’n gysylltiedig â smygu a fêpio

  1.  (1) Anawsterau deall, cofio a chanolbwyntio, a phroblemau gyda hwyliau isel, yn enwedig pan wyt ti’n ifanc a’r ymennydd yn dal i ddatblygu

  2.  (2) Llid yn y geg a dannedd yn pydru

  3.  (3) Llid cronig yr ysgyfaint a chlefyd y galon

     Asthma yn gwaethygu

     Poen bol a’r teimlad o fod eisiau chwydu

 Beth gelli di ei wneud?

  •   Dysga’r ffeithiau. Paid â derbyn popeth rwyt ti’n ei glywed, yn enwedig os bydd rhywun yn dweud bod fêpio’n saff neu ei fod yn ffordd dda i ymlacio. Gwna dy ymchwil dy hun, er mwyn penderfynu ar sail y ffeithiau.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.”—Diarhebion 14:15.

     “Pan wyt ti’n meddwl am effeithiau drwg smygu a fêpio, ti’n sylweddoli bod ’na fwy iddi na’r ‘hwyl’ mae’r selebs neu dy ffrindiau i’w gweld yn ei chael.”—Evan

     I feddwl amdano: A ydy pobl sy’n smygu neu fêpio’n hapusach mewn gwirionedd? Ydyn nhw’n ymdopi’n well gyda straen, neu wedi paratoi’n well ar gyfer sefyllfaoedd anodd yn y dyfodol? Neu a ydyn nhw’n hau hadau a fydd yn tyfu’n broblemau mwy yn y dyfodol?

  •   Edrych am ffyrdd llesol i ddelio â phryder. Mae gweithgareddau iach, fel ymarfer corff, darllen, neu gael amser da gyda ffrindiau sy’n dy galonogi, yn ffordd dda i leihau pryder. Drwy gael llawer o bethau da i’w wneud, fyddi di ddim yn teimlo’r angen i smygu.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.”—Diarhebion 12:25.

     “Mae pobl yn meddwl bod smygu a fêpio yn lleihau straen. Ond mae unrhyw ryddhad yn rhywbeth dros dro, ac mae’r effeithiau drwg yn para am weddill dy fywyd. Mae ’na ffyrdd gwell o ddelio â straen.”—Angela.

     I feddwl amdano: Pa bethau gelli di eu gwneud i ddelio â straen mewn ffordd effeithiol? Os wyt ti angen help, gweler yr erthygl “Sut i Reoli Pryder.”

Mae dibynnu ar sylweddau caethiwus i ddelio â phryder yn debyg i neidio i mewn i’r môr er mwyn osgoi’r glaw; fydd dy broblemau ond yn mynd yn waeth!

  •   Bydda yn barod i wrthsefyll pwysau gan bobl ifanc eraill. Efallai bydd dy ffrindiau ysgol yn rhoi pwysau arnat ti neu bydd dy adloniant yn cael dylanwad. Yn aml, mae ffilmiau, rhaglenni teledu, a’r cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod pobl sy’n smygu neu fêpio yn cael hwyl.

     Egwyddor o’r Beibl: “Ond mae . . . [p]obl aeddfed . . . wedi dysgu i ddefnyddio eu gallu meddyliol i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg.”—Hebreaid 5:14.

     “Pan o’n i yn yr ysgol, roedd pobl yn fy mharchu am beidio â smygu neu fêpio. Unwaith imi wneud fy safbwynt yn glir, roedden nhw hyd yn oed yn fy amddiffyn i. Mae’n swnio’n rhyfedd, ond mae gwneud safiad yn gallu bod yn help mawr.”—Anna.

     I feddwl amdano: A wyt ti’n gallu gwrthsefyll pwysau gan dy gyfoedion? Elli di feddwl am adegau pan wyt ti wedi gwneud hynny? Os wyt ti angen help gyda hyn, gweler yr animeiddiad bwrdd gwyn “Gwrthsefyll Pwysau gan Gyfoedion.”

  •   Dewisa dy ffrindiau yn ofalus. Bydd llai o demtasiwn i smygu neu fêpio os ydy dy ffrindiau’n teimlo’r un ffordd â ti am y peth.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.”—Diarhebion 13:20.

     “Mae cael ffrindiau sydd ag egwyddorion da ac sy’n rheoli eu hunain yn help mawr. Pan wyt ti’n gweld nhw’n llwyddo, rwyt ti eisiau bod yn debyg iddyn nhw.”—Calvin.

     I feddwl amdano: Ydy dy ffrindiau agos yn cefnogi dy benderfyniad i fyw’n iach, neu ydyn nhw’n gwneud hynny’n fwy anodd iti?

 Beth am smygu mariwana?

 Mae llawer yn dweud bod mariwana’n ddiniwed. Ond celwydd ydy hynny!

  •   Mae pobl ifanc sy’n defnyddio mariwana yn mynd yn gaeth iddo. Mae astudiaethau’n awgrymu bod defnyddio mariwana yn gallu achosi niwed parhaol i’r ymennydd ac effeithio’n negyddol ar dy IQ.

  •   Yn ôl y U.S. Substance Abuse and Mental Health Services Administration, mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n defnyddio mariwana yn fwy tebygol o wneud yn wael yn yr ysgol, o fod yn llai llwyddiannus yn eu gyrfaoedd, o gael problemau yn eu perthynas ag eraill, ac o deimlo’n llai bodlon ar eu bywydau.

     “Ces i fy nhemtio i smygu mariwana, yn bennaf er mwyn lleihau gorbryder. Ond pan feddyliais am fynd yn gaeth iddo, am yr arian byddai’n gostio, a’r effaith ar fy iechyd, wnes i sylweddoli y byddai smygu mariwana dim ond yn gwneud fy ngorbryder yn waeth.”—Judah.