Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Ydy Rhegi Wir yn Ddrwg?

Ydy Rhegi Wir yn Ddrwg?

“Dw i wedi arfer clywed pobl yn rhegi felly dydy hi ddim yn fy siomi bellach. Mae’n beth normal.”—Christopher, 17.

“Pan o’n i’n iau, roeddwn i’n rhegi yn aml. Roedd yn hawdd dechrau rhegi, ond yn anodd stopio.”—Rebecca, 19.

 Cwis

  •   Pan fyddi di’n clywed rhywun yn rhegi, sut mae’n gwneud i ti deimlo?

    •  Dydy rhegi ddim yn cael effaith arna i—mae’n beth normal.

    •  Mae’n cael rhywfaint o effaith arna i—ond dw i’n ei dderbyn.

    •  Mae’n cael effaith fawr arna i—mae’n beth drwg iawn.

  •   Pa mor aml wyt ti’n rhegi?

    •  Byth

    •  Weithiau

    •  Yn aml

  •   Wyt ti’n credu bod rhegi yn broblem?

    •  Ydw

    •  Nac ydw

 Pam mae’n bwysig?

 Wyt ti’n meddwl bod rhegi yn beth difrifol? Efallai byddet ti’n dweud: ‘Nac ydw. Wedi’r cyfan, mae yna lawer mwy o broblemau yn y byd i boeni amdanyn nhw. Mae pawb yn rhegi!’ Ydy hynny’n wir?

 Creda neu beidio, mae yna bobl sy’n dewis peidio â defnyddio geiriau drwg. Ac maen nhw’n ymwybodol o bethau dydy pobl eraill ddim yn eu gwybod. Er enghraifft:

  •  Mae rhegi yn cynnwys mwy na geiriau yn unig. Mae dy eiriau yn dangos beth sydd yn dy galon. Efallai bydd defnyddio geiriau drwg yn dangos dy fod yn berson caled, heb unrhyw deimlad tuag at bobl eraill. Ai dyna’r math o berson wyt ti?

     Dywed y Beibl: “Mae beth bynnag sy’n dod allan o’r geg yn dod o’r galon.”—Mathew 15:18.

    Mae rhegi yn debyg i lygredd. Pam byddet ti’n niweidio dy hun ac eraill drwy regi?

  •  Mae rhegi yn gallu cael effaith ddrwg ar dy enw da. Mae’r llyfr Cuss Control yn dweud: “Mae’r ffordd rydyn ni’n siarad yn gallu effeithio ar ein perthynas â’n teuluoedd, ein ffrindiau, a’n cyd-weithwyr. Gall hefyd effeithio ar a fyddwn ni’n cael swydd neu safle uwch o fewn cwmni, ac ar sut mae pobl dydyn ni ddim yn eu hadnabod yn ein gweld ni.” Hefyd, mae’r llyfr yn dweud: “Gofyn i ti dy hun os bydd dy fywyd a dy berthynas ag eraill yn well heb regi.”

     Dywed y Beibl: “Mae’n rhaid ichi eich gwahanu eich hunain oddi wrth bob math o . . . sgrechian, a siarad cas.”—Effesiaid 4:31.

  •  Dydy rhegi ddim yn gwneud iti edrych yn glyfar. Yn ei lyfr How Rude! Mae Dr. Alex Packer yn dweud: “Mae pobl sy’n rhegi drwy’r adeg yn ddiflas,” oherwydd “dydyn nhw ddim yn dweud llawer o bethau doniol, doeth na chariadus. Os wyt ti’n defnyddio’r un geiriau drwg drosodd a throsodd, ni fydd hynny’n dy wneud di’n berson gwell.”

     Dywed y Beibl: “Peidiwch â gadael i air drwg ddod allan o’ch ceg.”—Effesiaid 4:29.

 Beth elli di ei wneud?

  •  Gosod nod. Beth am geisio stopio rhegi am o leiaf mis? Gelli di gadw cofnod o dy gynnydd gan ddefnyddio siart neu galendr. Ond er mwyn cadw at dy benderfyniad, efallai bydd yn rhai i ti wneud mwy. Er enghraifft:

  •  Osgoi adloniant sy’n llenwi dy feddwl â geiriau drwg. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cwmni drwg yn llygru moesau da.” (1 Corinthiaid 15:33, troednodyn) Mae’r gair “cwmni” yn cynnwys, nid yn unig pobl, ond hefyd adloniant—y ffilmiau rwyt ti’n eu gwylio, y gemau fideo rwyt ti’n eu chwarae, a’r gerddoriaeth rwyt ti’n gwrando arni. Mae Kenneth sy’n 17 yn dweud: “Mae’n hawdd canu cân rwyt ti’n ei hoffi ac anwybyddu’r ffaith bod rhegi ynddi oherwydd rwyt ti’n hoffi’r rhythm.”

  •  Dangos dy fod ti’n aeddfed. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhegi yn gwneud iddyn nhw edrych fel oedolion. Ond dydy hynny ddim yn wir. Mae pobl aeddfed “wedi dysgu i ddefnyddio eu gallu meddyliol i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg,” meddai’r Beibl. (Hebreaid 5:14) Dydyn nhw ddim yn llacio eu safonau er mwyn cael sylw gan eraill.

 Dim ond llygru’r awyrgylch a’r meddwl y mae rhegi. Mae yna ormod o hynny yn y byd yn barod! “Paid ag ychwanegu ato,” meddai’r llyfr Cuss Control. “Gwna dy orau i gadw dy sgyrsiau ag eraill yn lân. Byddi di’n teimlo’n well amdanat ti dy hun a bydd pobl eraill yn teimlo’r un fath.”