Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ddicter?
Ateb y Beibl
Mae’r Beibl yn dysgu bod dicter heb ei reoli yn gwneud niwed i’r un sy’n ddig ac i’r rhai sydd o’i gwmpas. (Diarhebion 29:22) Gall fod rheswm da dros deimlo’n ddig ar adegau, ond mae’r Beibl yn dweud na fydd bobl sy’n gwylltio’n aml yn cael eu hachub. (Galatiaid 5:19-21) Yn y Beibl ceir egwyddorion sy’n gallu helpu pobl i reoli eu dicter.
A yw dicter bob amser yn beth drwg?
Nac ydy. Mewn rhai achosion mae rheswm da dros fod yn ddig. Er enghraifft, dyn ffyddlon oedd Nehemeia, ond roedd “yn ddig iawn” pan glywodd fod rhai o’i gyd-addolwyr yn cael eu gormesu.—Nehemeia 5:6.
Ar adegau, mae Duw yn ddig. Er enghraifft, pan dorrodd ei bobl gynt eu haddewid i’w addoli ef yn unig a dechreuon nhw addoli gau dduwiau, roedd Jehofa “yn wirioneddol flin.” (Barnwyr 2:13, 14) Er hynny, nid yr agwedd bennaf ar bersonoliaeth Duw yw dicter. Mae ei ddicter bob amser yn gyfiawn ac o dan reolaeth.—Exodus 34:6; Eseia 48:9.
Pryd mae dicter yn beth drwg?
Mae dicter yn ddrwg pan nad yw wedi ei reoli, neu pan nad oes rheswm cyfiawn drosto, fel y gwelir yn aml yn achos dicter bodau dynol amherffaith. Er enghraifft:
Fe wnaeth Cain ‘wylltio’n lân’ pan wrthododd Duw ei offrwm. Gadawodd Cain i ddicter ei gorddi nes iddo ladd ei frawd.—Genesis 4:3-8.
Roedd y proffwyd Jona hefyd yn “gwylltio’n lân” pan dosturiodd Duw wrth bobl Ninefe. Fe wnaeth Duw gywiro Jona, gan ddweud nad oedd yn iawn iddo deimlo’n ddig ac y dylai fod wedi tosturio wrth y bobl a oedd wedi edifarhau am eu pechodau.—Jona 3:10–4:1, 4, 11. a
O ran bodau dynol amherffaith, mae’r enghreifftiau hyn yn dangos nad “yw dicter dynol yn hyrwyddo cyfiawnder Duw.”—Iago 1:20, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
Sut gallwch chi reoli teimladau dig?
Drwy gydnabod bod dicter heb ei reoli yn beryglus. Mae rhai yn meddwl bod colli tymer yn arwydd o gryfder. Ond mewn gwirionedd, gwendid difrifol yw methu rheoli dicter. “Mae rhywun sy’n methu rheoli ei dymer fel dinas a’i waliau wedi eu bwrw i lawr.” (Diarhebion 25:28; 29:11) Ar y llaw arall, drwy feithrin y gallu i reoli ein tymer, rydyn ni’n dangos gwir nerth a doethineb. (Diarhebion 14:29) Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ymatal yn well nag ymosod, a rheoli’r tymer yn well na choncro dinas.”—Diarhebion 16:32.
Drwy reoli eich dicter cyn ichi wneud rhywbeth y byddwch yn ei ddifaru. Mae’r Beibl yn dweud: “Paid â digio; rho’r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.” (Salm 37:8, BCND) Pan deimlwn yn ddig, sylwch fod gennyn ni ddewis. Gallwn ddewis ‘roi’r gorau i lid,’ cyn i rywbeth drwg ddigwydd. Fel mae Effesiaid 4:26, BCND, yn dweud: “Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu.”
Drwy ymadael, os yw’n bosib, pan deimlwch eich bod chi’n dechrau cynhyrfu. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae; gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.” (Diarhebion 17:14) Er mai peth call yw datrys problemau’n gyflym, efallai bydd rhaid i chi ac i’r person arall dawelu am ychydig cyn y byddwch yn medru trafod pethau’n bwyllog.
Drwy gael y ffeithiau. “Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,” meddai Diarhebion 19:11, BCND. Peth call yw cael y ffeithiau i gyd cyn dod i gasgliad. Drwy wrando’n ofalus ar bob ochr i’r ddadl, byddwn ni’n llai tebygol o wylltio heb reswm.—Iago 1:19.
Drwy weddïo am dawelwch meddwl. Drwy weddïo, byddwch chi’n gallu profi “tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall.” (Philipiaid 4:7, BCND) Gweddi yw un o’r ffyrdd pennaf rydyn ni’n derbyn ysbryd glân Duw, sy’n meithrin ynon ni rinweddau fel heddwch, amynedd, a hunan-reolaeth.—Luc 11:13; Galatiaid 5:22, 23.
Drwy ddewis eich ffrindiau’n ofalus. Rydyn ni’n tueddu i fynd yn debyg i’n ffrindiau. (Diarhebion 13:20; 1 Corinthiaid 15:33) Nid heb reswm mae’r Beibl yn rhybuddio: “Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis, na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt.” Pam felly? “Rhag i ti hefyd droi felly, a methu dianc.”—Diarhebion 22:24, 25.
a Mae’n ymddangos bod Jona wedi syrthio ar ei fai a rhoi ei ddicter o’r neilltu, oherwydd fe’i defnyddiwyd gan Dduw i ysgrifennu llyfr Jona yn y Beibl.