Beth Ydy Pechod?
Ateb y Beibl
Gweithred, teimlad, neu syniad sy’n mynd yn groes i safonau Duw ydy pechod. Mae’n cynnwys torri cyfreithiau Duw drwy wneud yr hyn sy’n anghywir neu’n anghyfiawn yng ngolwg Duw. (1 Ioan 3:4; 5:17) Mae’r Beibl hefyd yn sôn am bechu drwy esgeulustod—hynny yw, methu â gwneud yr hyn sy’n iawn.—Iago 4:17.
Yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, mae’r geiriau am bechod yn golygu “i fethu’r nod.” Er enghraifft, roedd grŵp o filwyr yn Israel gynt “yn medru anelu carreg i drwch y blewyn heb fethu.” Gall yr ymadrodd “heb fethu” gael ei gyfieithu yn llythrennol i olygu “heb bechu.” (Barnwyr 20:16, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Felly, mae pechu yn golygu peidio â chyrraedd safonau perffaith Duw.
Fel y Creawdwr, mae gan Dduw yr hawl i osod safonau ar gyfer dynolryw. (Datguddiad 4:11) Rydyn ni’n atebol iddo am yr hyn rydyn ni’n ei wneud.—Rhufeiniaid 14:12.
A ydy hi’n bosib osgoi pechu yn gyfan gwbl?
Nac ydy. Mae’r Beibl yn dweud bod “pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw.” (Rhufeiniaid 3:23; 1 Brenhinoedd 8:46; Pregethwr 7:20; 1 Ioan 1:8) Pam felly?
Roedd y bodau dynol cyntaf, Adda ac Efa, heb bechod ar y cychwyn. Oherwydd cawson nhw eu creu yn berffaith, ar ddelw Duw. (Genesis 1:27) Ond, collon nhw berffeithrwydd drwy anufuddhau i Dduw. (Genesis 3:5, 6, 17-19) Pan gawson nhw blant, gwnaeth y plant etifeddu amherffeithrwydd a phechod. (Rhufeiniaid 5:12) Fel dywedodd y Brenin Dafydd o Israel, “ces fy ngeni’n bechadur.”—Salm 51:5.
Ydy rhai pechodau yn waeth nag eraill?
Ydy. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud bod dynion o Sodom gynt “yn ddrwg iawn, ac yn pechu’n fawr.” (Genesis 13:13; 18:20) Ystyriwch dair ffactor sy’n gwneud rhai pechodau yn waeth nag eraill.
Pa mor ddifrifol? Mae’r Beibl yn ein rhybuddio i osgoi pechodau difrifol fel anfoesoldeb rhywiol, addoli eilunod, dwyn, meddwi, twyllo, lladd, ac ysbrydegaeth. (1 Corinthiaid 6:9-11; Datguddiad 21:8) Mae’r Beibl yn cyferbynnu’r rhain â phechodau anfwriadol, er enghraifft, geiriau a gweithredoedd sy’n brifo eraill. (Diarhebion 12:18; Effesiaid 4:31, 32) Er hynny, mae’r Beibl yn ein hannog i beidio ag esgusodi unrhyw bechod, gan eu bod nhw’n gallu arwain at dorri cyfraith Duw mewn ffordd waeth.—Mathew 5:27, 28.
Beth yw’r cymhelliad? Mae rhai pobl yn pechu heb wybod am ofynion Duw. (Actau 17:30; 1 Timotheus 1:13) Dydy’r Beibl ddim yn esgusodi’r fath bechodau, ond mae’n dangos eu bod nhw’n wahanol i bechodau sy’n cynnwys torri cyfreithiau Duw yn fwriadol. (Numeri 15:30, 31) Mae pechodau bwriadol yn dod o “galon ddrygionus.”—Jeremeia 16:12, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
Pa mor aml? Mae’r Beibl hefyd yn gwahaniaethu rhwng pechu unwaith a phechu drosodd a throsodd dros gyfnod o amser. (1 Ioan 3:4-8) Mae’r rhai sy’n “penderfynu dal ati i bechu ar ôl dod i wybod y gwirionedd,” yn cael eu barnu’n euog gan Dduw.—Hebreaid 10:26, 27.
Mae’r rhai sy’n euog o bechu’n ddifrifol yn gallu teimlo bod baich eu camgymeriad yn ormod iddyn nhw. Er enghraifft, ysgrifennodd y Brenin Dafydd: “Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i; mae fel baich sy’n rhy drwm i’w gario.” (Salm 38:4) Ond eto, mae’r Beibl yn rhoi’r gobaith hyn inni: “Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a’r rhai sy’n creu helynt ar eu bwriadau—troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.”—Eseia 55:7.