Beth Yw Maddeuant?
Ateb y Beibl
Yn y Beibl, ystyr llythrennol y gair Groeg a gyfieithir yn “faddeuant” yw “gollwng,” megis pan fydd rhywun yn dileu dyled. Defnyddiodd Iesu’r gymhariaeth hon pan ddywedodd wrth ei ddilynwyr am weddïo: “Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni’n maddau i’r rhai sydd mewn dyled i ni.” (Mathew 6:12) Yn nameg y gwas anfaddeugar, dangosodd Iesu eto fod maddau yn debyg i ddileu dyled.—Mathew 18:23-35.
Rydyn ni’n maddau i eraill drwy ollwng gafael ar ein dicter ac ar ein hawl i gael iawndal am y boen a’r golled a achoswyd inni. Yn ôl y Beibl, cariad anhunanol yw sail gwir faddeuant, gan fod cariad yn “fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.”—1 Corinthiaid 13:4, 5.
Nid yw maddau yn golygu . . .
Esgusodi’r camwedd. Mae’r Beibl yn condemnio pobl sy’n honni bod gweithredoedd drwg yn ddiniwed neu’n dderbyniol.—Eseia 5:20.
Ymddwyn fel pe bai’r camwedd heb ddigwydd. Fe wnaeth Duw faddau i’r Brenin Dafydd am bechodau difrifol, ond ni wnaeth achub Dafydd rhag canlyniadau ei bechodau. Yn wir, dewisodd Duw i bechodau Dafydd gael eu cofnodi fel ein bod ni’n gallu darllen amdanyn nhw heddiw.—2 Samuel 12:9-13.
Gadael i eraill gymryd mantais arnoch chi. Dychmygwch, er enghraifft, eich bod yn benthyg arian i rywun, ond y mae’n gwastraffu’r arian ac yn methu talu’n ôl i chi. Y mae’n ymddiheuro’n ddiffuant am y sefyllfa. Fe allech chi ddewis maddau iddo drwy beidio â dal dig, peidio â sôn byth a beunydd am y peth, ac efallai drwy ddileu’r ddyled yn gyfan gwbl. Er hynny, efallai y byddech chi’n penderfynu peidio â benthyg mwy o arian iddo.—Salm 37:21; Diarhebion 14:15; 22:3; Galatiaid 6:7.
Maddau heb reswm dilys. Nid yw Duw yn maddau i bobl sy’n pechu’n faleisus ac yn fwriadol, ac sy’n gwrthod syrthio ar eu bai a newid eu ffyrdd, ac ymddiheuro i’r rhai y maen nhw wedi eu brifo. (Diarhebion 28:13; Actau 26:20; Hebreaid 10:26) Mae pobl ddiedifar yn troi’n elynion i Dduw, ac nid yw Duw yn disgwyl inni faddau i’r rhai nad yw ef wedi maddau iddyn nhw.—Salm 139:21, 22.
Beth petaech chi’n cael eich cam-drin yn greulon gan rywun sy’n gwrthod ymddiheuro neu hyd yn oed cyfaddef ei fod ar fai? Mae’r Beibl yn ein cynghori i ollwng ein dicter gan ddweud: “Paid â digio; rho’r gorau i lid.” (Salm 37:8, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Ni fyddwch yn esgusodi’r camwedd, ond fe allwch chi wrthod gadael i ddicter eich meddianu. Gallwch ymddiried yn Nuw i ddal yr unigolyn yn atebol am ei gamweddau. (Hebreaid 10:30, 31) Cewch gysur hefyd o wybod y daw amser pan na fyddwn ni’n teimlo’r boen a’r clwyfau sy’n gymaint o faich inni ar hyn o bryd.—Eseia 65:17; Datguddiad 21:4.
“Maddau” pob camwedd bychan. Weithiau, yn hytrach na “maddau” i rywun am gamwedd bach, efallai bod angen inni gydnabod nad oedd dim rheswm inni ddigio yn y lle cyntaf. Mae’r Beibl yn dweud: “Paid gwylltio’n rhy sydyn; gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.”—Pregethwr 7:9.
Sut gallwch faddau i rywun?
Cofiwch beth mae maddau yn ei olygu. Nid esgusodi’r camwedd ydych chi, nac ymddwyn fel pe bai’r camwedd heb ddigwydd—ond rydych chi’n dewis i’w roi o’r neilltu.
Cofiwch beth yw manteision maddau. Mae rhoi dicter a drwgdeimlad o’r neilltu yn gallu eich helpu chi i beidio â chynhyrfu, i wella eich iechyd, ac i fod yn hapusach. (Diarhebion 14:30; Mathew 5:9) Yn bwysicach byth, mae maddau i eraill yn hanfodol os ydyn ni eisiau i Dduw faddau i ninnau am ein pechodau.—Mathew 6:14, 15.
Ceisiwch ddeall teimladau pobl eraill. Rydyn ni i gyd yn amherffaith. (Iago 3:2) Rydyn ni’n ddiolchgar pan fydd eraill yn maddau i ni ac felly dylen ni fod yn barod i faddau i eraill.—Mathew 7:12.
Byddwch yn rhesymol. Os ydy ein cwyn yn un gymharol ddibwys, gallwn ddilyn cyngor y Beibl: “Byddwch yn oddefgar.”—Colosiaid 3:13.
Peidiwch ag oedi. Ewch ati i faddau cyn gynted â phosib yn hytrach na gadael i’r dicter gorddi yn eich calon.—Effesiaid 4:26, 27.