Faint o Enwau Sydd Gan Dduw?
Ateb y Beibl
Dim ond un enw personol sydd gan Dduw. Mae’n cael ei ysgrifennu יהוה yn Hebraeg, ac yn aml yn cael ei drosi yn “Jehofa” yn Gymraeg. a Drwy ei broffwyd Eseia, dywedodd Duw: “Myfi yw Jehofah: Dyna yw fy enw.” (Eseia 42:8, Jenkins-Herbert Morgan) Mae’r enw hwn yn ymddangos tua 7,000 o weithiau yn llawysgrifau hynafol y Beibl—yn amlach o lawer nag unrhyw derm arall ar gyfer Duw, neu unrhyw enw personol arall o ran hynny. b
Oes gan Jehofa enwau eraill?
Er bod y Beibl yn defnyddio un enw personol yn unig i gyfeirio at Dduw, mae’n defnyddio llawer o deitlau a disgrifiadau ar ei gyfer. Mae’r rhestr ganlynol o rai o’r teitlau a’r disgrifiadau hynny yn dangos sut mae pob un yn datgelu agwedd ar natur neu bersonoliaeth Jehofa.
Teitl |
Cyfeiriad |
Ystyr |
---|---|---|
Yr Alffa a’r Omega |
“Y Cyntaf a’r Olaf,” neu’r “Dechrau a’r Diwedd,” sy’n golygu nad oedd ’na Dduw Hollalluog cyn Jehofa, a fydd ’na’r un ar ei ôl chwaith. (Eseia 43:10) Alffa ac omega yw llythrennau cyntaf ac olaf y wyddor Roeg. |
|
Allah |
(Dim) |
Yn tarddu o’r Arabeg, nid yw’r gair “Allah” yn enw personol, ond yn deitl sy’n golygu “Duw.” Mae cyfieithiadau o’r Beibl yn Arabeg ac ieithoedd eraill yn defnyddio “Allah” yn gyfystyr â “Duw.” |
Arglwydd |
Salm 135:5, Beibl Cymraeg Diwygiedig |
Perchennog neu feistr; Hebraeg ʼA·ddônʹ ac ʼAddo·nimʹ. |
Arglwydd y Lluoedd, Arglwydd y Sabaoth |
Eseia 1:9, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Rhufeiniaid 9:29, Beibl Cysegr-lân |
Pennaeth ar filoedd ar filoedd o angylion. Gall y teitl “Arglwydd y Sabaoth” hefyd gael ei drosi “Jehofa y lluoedd.”—Amos 9:5, J T Evans. |
Brenin tragwyddoldeb |
1 Timotheus 1:17, Beibl Cymraeg Diwygiedig |
Does dim dechrau na diwedd i’w deyrnasiad. |
Bugail |
Salm 23:1 |
Yn gofalu am ei addolwyr. |
Craig |
Salm 18:2, 46 |
Lloches ddiogel a ffynhonnell achubiaeth. |
Creawdwr |
Effesiaid 3:9, Beibl Cymraeg Diwygiedig |
Daeth â phopeth i fodolaeth. |
Crochenydd |
Eseia 64:8 |
Ag awdurdod dros unigolion a chenhedloedd, fel mae gan grochenydd awdurdod dros ei glai.—Rhufeiniaid 9:20, 21. |
Dedwydd Dduw, Duw Hapus |
1 Timotheus 1:11, Epistolau Bugeiliol, Richard Davies; New World Translation |
Llawenydd a hapusrwydd yw rhai o’i brif nodweddion.—Salm 104:31. |
Duw |
Un sy’n cael ei addoli; Un cryf. Mae’r gair Hebraeg ʼElo·himʹ yn lluosog, sy’n dynodi mawredd, urddas, neu ragoriaeth Jehofa. |
|
Duw y duwiau |
Deuteronomium 10:17 |
Y Duw goruchaf, yn wahanol i’r “eilunod diwerth” sy’n cael eu haddoli gan rai.—Eseia 2:8. |
Eiddigeddus |
Exodus 34:14 |
Yn mynnu mai ef yn unig sydd i gael ei addoli. Mae’r term hefyd wedi cael ei gyfieithu “nid yw’n goddef cystadleuwyr” ac “yn mynnu ymroddiad llwyr.”—New World Translation, gweler hefyd y troednodyn. |
Goruchaf |
Salm 47:2 |
Ef sydd â’r safle uchaf un. |
Gwaredwr, Prynwr |
Eseia 41:14, Beibl Cymraeg Newydd; Salm 19:14, Beibl Cymraeg Diwygiedig |
Yn adennill dynolryw, neu’n ei phrynu’n ôl oddi wrth bechod a marwolaeth drwy aberth pridwerthol Iesu Grist.—Ioan 3:16. |
Gwneuthurwr |
Eseia 27:11, Beibl Cymraeg Diwygiedig |
Daeth â phopeth i fodolaeth.—Datguddiad 4:11. |
Gwrandawr gweddi |
Salm 65:2, Lewis Valentine |
Yn gwrando’n bersonol ar bob gweddi sy’n cael ei gofyn mewn ffydd. |
Hen Ddihenydd, Un Hynafol |
Daniel 7:9, 13, 22, Beibl Cymraeg Diwygiedig; beibl.net |
Doedd ganddo ddim dechreuad; roedd yn bodoli am dragwyddoldeb cyn bod unrhyw un neu unrhyw beth arall yn bodoli.—Salm 90:2. |
Hollalluog |
Salm 68:14 |
 grym anorchfygol. Mae’r ymadrodd Hebraeg ʼEl Shad·daiʹ, “Duw Hollalluog,” yn codi saith gwaith yn y Beibl. |
Iachawdwr |
Eseia 12:2, Beibl Cymraeg Diwygiedig |
Yn achub rhag peryg neu ddinistr. |
Meistr, Meistr Sofran |
Â’r awdurdod uchaf; Hebraeg ʼAddo·naiʹ. |
|
Tad |
Yr un sy’n rhoi bywyd. |
|
Yr Un Sanctaidd |
Diarhebion 9:10 |
Yn fwy sanctaidd (moesol lân a phur) nag unrhyw fod arall. |
Ydwyf yr Hwn Ydwyf |
Exodus 3:14, Beibl Cysegr-lân |
Yn dod yn beth bynnag sydd ei angen er mwyn cyflawni ei ewyllys. Mae’r ymadrodd hwn hefyd wedi cael ei gyfieithu “Byddaf yr hyn a fyddaf” neu “Ydwyf Beth Bynnag yr Wyf am Fod.” (Y Beibl Cyssegr-lan, 1908, troednodyn; Exodus, Maurice Loader) Mae’r disgrifiad hwn yn helpu i esbonio’r enw personol, Jehofa, yn yr adnod nesaf.—Exodus 3:15, D. Francis Roberts. |
Enwau llefydd yn yr Ysgrythurau Hebraeg
Mae enwau rhai llefydd yn y Beibl yn cynnwys enw personol Duw, ond nid enwau eraill ar gyfer Duw ydy’r rhain.
Enw’r lle |
Cyfeiriad |
Ystyr |
---|---|---|
Jehofa-jire |
Genesis 22:13, 14, Beibl Cysegr-lân |
Jehofa Sy’n Darparu. |
Jehofa-nissi |
Exodus 17:15, Beibl Cymraeg Diwygiedig |
Jehofa Yw “Fy Fflag” neu “Fy Maner.” (beibl.net; troednodyn, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae Jehofa yn Dduw y gall ei bobl droi ato i’w hamddiffyn a’u helpu.—Exodus 17:13-16. |
Jehofa-shalom |
Barnwyr 6:23, 24, Beibl Cymraeg Diwygiedig |
Heddwch yw Jehofa. |
Jehofa-shammah |
Eseciel 48:35, troednodyn, Beibl Cyssegr-lan, 1908 |
Mae Jehofa Yno. |
Rhesymau dros wybod a defnyddio enw Duw
Mae’n rhaid fod Duw yn meddwl bod ei enw personol, Jehofa, yn bwysig, oherwydd fe wnaeth ei gynnwys filoedd o weithiau yn y Beibl.—Malachi 1:11.
Fe wnaeth Mab Duw, Iesu, bwysleisio pwysigrwydd enw Duw dro ar ôl tro. Er enghraifft, gweddïodd ar Jehofa: “Sancteiddier dy enw.”—Mathew 6:9, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Ioan 17:6, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
Mae’r rhai sy’n dod i wybod enw Duw a’i ddefnyddio yn cymryd y camau cyntaf tuag at ddod yn ffrind i Jehofa. (Salm 9:10, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Malachi 3:16, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae perthynas o’r fath yn eu galluogi i elwa ar addewid Duw: “Am iddo lynu wrthyf, fe’i gwaredaf; fe’i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.”—Salm 91:14, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
Mae’r Beibl yn cydnabod bod ’na rai “sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau’ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‘dduwiau’ ac ‘arglwyddi’ eraill).” (1 Corinthiaid 8:5, 6) Eto, mae’n enwi Jehofa fel yr unig wir Dduw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.
a Mae rhai ysgolheigion Hebraeg yn ffafrio’r trosiad “Iahwe” ar gyfer enw Duw.
b Mae ffurf fer yr enw dwyfol, “Jah,” yn ymddangos tua 50 gwaith yn y Beibl, gan gynnwys ei ddefnydd yn y gair “Haleliwia,” neu “Aleliwia,” sy’n golygu Molwch Jah.—Datguddiad 19:1; beibl.net; Beibl Cysegr-lân.