Ydy Duw yn Bod?
Ateb y Beibl
Ydy, mae’r Beibl yn cynnig tystiolaeth gadarn o fodolaeth Duw. Mae’n ein hannog ni i adeiladu ffydd yn Nuw, nid drwy dderbyn honiadau crefyddol yn ddigwestiwn, ond drwy “bwyso a mesur,” a defnyddio ein gallu “i ddeall.” (1 Thesaloniaid 5:21; 1 Ioan 5:20) Ystyriwch y pwyntiau canlynol sy’n seiliedig ar y Beibl:
Mae bodolaeth bydysawd trefnus sy’n cynnwys bywyd, yn awgrymu’n gryf bod yna Greawdwr. Mae’r Beibl yn dweud “Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy’n bod ydy Duw!” (Hebreaid 3:4) Pwynt syml yw hwn, ond mae llawer sydd wedi cael addysg dda yn ei weld yn rhesymegol. a
Mae gan fodau dynol awydd cynhenid i ddeall ystyr a phwrpas bywyd, rhyw awch sy’n parhau hyd yn oed ar ôl diwallu ein hanghenion corfforol. Mae’r Beibl yn disgrifio hyn fel teimlad o fod yn “dlawd ac annigonol” mewn ffordd ysbrydol. Mae awydd ynon ni i adnabod ac i addoli Duw. (Mathew 5:3; Datguddiad 4:11) Awgryma hyn, nid yn unig bod Duw yn bodoli, ond hefyd ei fod yn ein caru ac yn dymuno i ni ddiwallu’r angen hwnnw.—Mathew 4:4.
Mae’r Beibl yn cynnwys proffwydoliaethau manwl a ysgrifennwyd gannoedd o flynyddoedd o flaen llaw ac a gafodd eu gwireddu. Mae cywirdeb a manylder y proffwydoliaethau yn awgrymu’n gryf eu bod nhw wedi dod o ffynhonnell oruwchddynol.—2 Pedr 1:21.
Roedd ysgrifenwyr y Beibl yn deall pethau gwyddonol nad oedd pobl yn gyffredinol yn deall ar y pryd. Er enghraifft, roedd pobl ers talwm yn credu bod y ddaear wedi ei gosod ar gefn anifail, fel eliffant, baedd neu ych. Ond dywedodd y Beibl fod Duw wedi “hongian y ddaear uwch y gwagle.” (Job 26:7) Hefyd, disgrifiodd siâp y ddaear fel ‘cromen’ neu “gylch.” (Eseia 40:22, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig; J. Jenkins a Herbert Morgan) I lawer o bobl, yr esboniad mwyaf rhesymol dros y fath ddealltwriaeth yw bod ysgrifenwyr y Beibl wedi derbyn gwybodaeth oddi wrth Dduw.
Mae’r Beibl yn ateb llawer o gwestiynau anodd, y math o gwestiynau sydd, o fethu eu hateb, wedi gwneud i rai pobl droi’n anffyddwyr. Er enghraifft: Os yw Duw yn gariadus ac yn hollalluog, pam mae cymaint o ddioddefaint a drygioni yn y byd? Pam mae crefydd yn aml yn ddylanwad drwg yn hytrach na’n ddylanwad da?—Titus 1:16.
a Er enghraifft, dywedodd y diweddar seryddwr Allan Sandage am y bydysawd: “I mi mae’n eithaf annhebygol fod y fath drefn wedi dod o anhrefn. Mae’n rhaid bod rhywbeth yn gyrru’r drefn. Er ei fod yn ddirgelwch i mi, Duw yw’r esboniad am wyrth ein bodolaeth, y rheswm pam bod gynnon ni fyd yn lle dim byd.”