Cyntaf Brenhinoedd 11:1-43

  • Gwragedd Solomon yn troi ei galon (1-13)

  • Gwrthwynebwyr yn erbyn Solomon (14-25)

  • Deg llwyth yn cael eu haddo i Jeroboam (26-40)

  • Solomon yn marw; Rehoboam yn cael ei wneud yn frenin (41-43)

11  Roedd y Brenin Solomon yn caru llawer o ferched* estron yn ogystal â merch Pharo: merched* o blith y Moabiaid, yr Ammoniaid, y Sidoniaid, a’r Hethiaid. 2  Roedden nhw’n dod o blith y cenhedloedd roedd Jehofa wedi sôn amdanyn nhw wrth yr Israeliaid drwy ddweud: “Mae’n rhaid ichi beidio â chymysgu â nhw,* a ddylen nhwthau ddim cymysgu â chi, oherwydd byddan nhw’n sicr yn troi eich calonnau i ddilyn eu duwiau nhw.” Ond roedd Solomon yn dal i lynu wrthyn nhw ac yn eu caru nhw. 3  Ac roedd ganddo 700 o wragedd a oedd yn dywysogesau a 300 o wragedd eraill,* a gwnaeth ei wragedd droi ei galon oddi wrth Dduw fesul tipyn.* 4  Wrth i Solomon heneiddio, gwnaeth ei wragedd ddenu ei galon* i ddilyn duwiau eraill, a doedd ei galon ddim yn hollol ffyddlon* i Jehofa ei Dduw fel roedd calon ei dad, Dafydd. 5  A dilynodd Solomon Astoreth, duwies y Sidoniaid, a Milcom duw ffiaidd yr Ammoniaid. 6  Gwnaeth Solomon beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, ac ni wnaeth ef ddilyn Jehofa yn llwyr fel roedd ei dad, Dafydd, wedi gwneud. 7  Dyna pryd adeiladodd Solomon uchelfan i Cemos, duw ffiaidd Moab, ac un arall i Moloch, duw ffiaidd yr Ammoniaid, ar y mynydd o flaen Jerwsalem. 8  Dyna beth wnaeth ef ar gyfer ei holl wragedd estron a oedd yn gwneud i fwg godi wrth iddyn nhw aberthu i’w duwiau. 9  Gwylltiodd Jehofa yn lân â Solomon, oherwydd roedd ei galon wedi troi oddi wrth Jehofa, Duw Israel, a oedd wedi ymddangos iddo ddwywaith 10  a’i rybuddio am yr union beth hwn, iddo beidio â mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd ef ddim yn ufudd i orchmynion Jehofa. 11  Yna dywedodd Jehofa wrth Solomon: “Am dy fod ti wedi gwneud hyn, ac am dy fod ti heb gadw fy nghyfamod na’r deddfau rydw i wedi eu gorchymyn iti, bydda i’n sicr yn rhwygo’r deyrnas i ffwrdd oddi wrthot ti, a bydda i’n ei rhoi i un o dy weision. 12  Ond er mwyn dy dad Dafydd, fydda i ddim yn gwneud hyn yn ystod dy fywyd di, bydda i’n ei rhwygo allan o law dy fab, 13  ond fydda i ddim yn rhwygo’r deyrnas gyfan i ffwrdd, bydda i’n rhoi un llwyth i dy fab er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis.” 14  Yna, cododd Jehofa wrthwynebwr yn erbyn Solomon, Hadad yr Edomiad, o deulu brenhinol Edom. 15  Pan wnaeth Dafydd drechu Edom, aeth Joab, pennaeth y fyddin, i fyny i gladdu’r meirw, a cheisiodd Dafydd daro pob gwryw yn Edom i lawr. 16  (Arhosodd Joab ac Israel gyfan yno am chwe mis nes iddo gael gwared ar bob gwryw o Edom.) 17  Ond gwnaeth Hadad ffoi gyda rhai o weision ei dad a oedd yn Edomiaid, ac aethon nhw i’r Aifft; roedd Hadad yn fachgen ifanc ar y pryd. 18  Felly gadawon nhw Midian a dod i Paran. Cymeron nhw ddynion o Paran gyda nhw a dod i’r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft a wnaeth roi tŷ a thir iddo, a gorchymyn i fwyd gael ei roi iddo yn rheolaidd. 19  Roedd Hadad yn plesio Pharo gymaint nes iddo roi chwaer ei wraig, Tahpenes y frenhines,* iddo er mwyn iddo ei phriodi. 20  Ymhen amser, dyma chwaer Tahpenes yn geni mab iddo, Genubath, a gwnaeth Tahpenes ei fagu yn nhŷ Pharo, ac arhosodd Genubath yn nhŷ Pharo ymhlith meibion Pharo. 21  Clywodd Hadad yn yr Aifft fod Dafydd wedi marw* a bod Joab, pennaeth y fyddin, hefyd wedi marw. Felly dywedodd Hadad wrth Pharo: “Anfona fi i ffwrdd er mwyn imi fynd i fy ngwlad fy hun.” 22  Ond dywedodd Pharo wrtho: “Pam rwyt ti eisiau mynd yn ôl i dy wlad dy hun? Beth rwyt ti’n brin ohono fan hyn?” I hynny dywedodd wrtho: “Dim byd, ond plîs anfona fi i ffwrdd.” 23  Hefyd, cododd Duw wrthwynebwr arall yn erbyn Solomon, Reson fab Eliada a oedd wedi ffoi oddi wrth ei arglwydd Hadadeser brenin Soba. 24  Pan drechodd Dafydd ddynion Soba, casglodd Reson ddynion at ei gilydd a daeth yn bennaeth ar grŵp o ladron. Felly aethon nhw i Ddamascus a setlo yno a dechrau teyrnasu yn Namascus. 25  Ac roedd yn gwrthwynebu Israel holl ddyddiau Solomon, gan ychwanegu at y niwed roedd Hadad wedi ei wneud, ac roedd yn casáu Israel tra oedd yn teyrnasu dros Syria. 26  Dechreuodd Jeroboam hefyd wrthryfela yn erbyn y brenin. Roedd Jeroboam yn fab i Nebat ac roedd yn ddyn o Sereda yn Effraim. Roedd yn un o weision Solomon, ac roedd ei fam yn wraig weddw o’r enw Serua. 27  Dyma pam gwnaeth ef wrthryfela yn erbyn y brenin: Roedd Solomon wedi adeiladu’r Bryn* ac wedi cau’r bwlch yn wal Dinas Dafydd ei dad. 28  Nawr roedd Jeroboam yn ddyn medrus. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yn gweithio’n galed, dyma’n ei benodi’n arolygwr dros y rhai o dŷ Joseff a oedd yn cael eu gorfodi i weithio. 29  Tua’r adeg honno, aeth Jeroboam allan o Jerwsalem, a daeth y proffwyd Aheia o Seilo ar ei draws ar y ffordd. Roedd Aheia yn gwisgo dilledyn newydd ac roedd y ddau ohonyn nhw yno ar eu pennau eu hunain. 30  Gafaelodd Aheia yn y dilledyn newydd roedd yn ei wisgo a’i rwygo yn 12 darn. 31  Yna dywedodd wrth Jeroboam: “Cymera ddeg darn i ti dy hun, oherwydd dyma beth mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rydw i’n rhwygo’r deyrnas allan o law Solomon, a bydda i’n rhoi deg llwyth i ti. 32  Ond bydda i’n cadw un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel. 33  Bydda i’n gwneud hyn am eu bod nhw wedi fy ngadael i, ac am eu bod nhw’n ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, i Cemos duw Moab, ac i Milcom duw yr Ammoniaid, a dydyn nhw ddim wedi cerdded yn fy ffyrdd drwy wneud beth sy’n iawn yn fy ngolwg i a drwy gadw fy neddfau a fy marnedigaethau fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon. 34  Ond fydda i ddim yn cymryd y deyrnas gyfan allan o law Solomon, a bydda i’n ei gadw yn bennaeth am holl ddyddiau ei fywyd er mwyn fy ngwas Dafydd y gwnes i ei ddewis, oherwydd roedd yn ufudd i fy ngorchmynion a fy neddfau. 35  Ond bydda i’n cymryd y frenhiniaeth o law ei fab ac yn ei rhoi i ti, hynny yw, deg llwyth. 36  Bydda i’n rhoi un llwyth i’w fab, fel bydd gan fy ngwas Dafydd lamp o fy mlaen i am byth yn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis i fi fy hun i sefydlu fy enw yno. 37  Bydda i’n dy ddewis di a byddi di’n teyrnasu dros bopeth rwyt ti eisiau, a byddi di’n dod yn frenin ar Israel. 38  Ac os byddi di’n ufuddhau i bopeth rydw i’n ei orchymyn iti ac os byddi di’n cerdded yn fy ffyrdd ac yn gwneud beth sy’n iawn yn fy ngolwg drwy ufuddhau i fy ngorchmynion a fy neddfau, yn union fel gwnaeth fy ngwas Dafydd, bydda i gyda ti hefyd. A bydda i’n adeiladu tŷ iti a fydd yn para am amser hir, yn union fel y gwnes i adeiladu i Dafydd, a bydda i’n rhoi Israel iti. 39  A bydda i’n bychanu disgynyddion Dafydd oherwydd hyn i gyd, ond nid am byth.’” 40  Felly ceisiodd Solomon ladd Jeroboam, ond gwnaeth Jeroboam ffoi i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft, ac arhosodd yn yr Aifft nes i Solomon farw. 41  Ynglŷn â gweddill hanes Solomon, popeth a wnaeth a’i ddoethineb, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes Solomon? 42  Teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel gyfan am 40 mlynedd. 43  Yna bu farw Solomon* a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad; a daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Neu “o fenywod.”
Neu “menywod.”
Neu “Rhaid ichi beidio â’u priodi nhw.”
Neu “o wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.
Neu “ac roedd ei wragedd yn dylanwadu’n gryf arno.”
Neu “gwnaeth ei wragedd droi ei galon i ffwrdd.”
Neu “doedd ei galon ddim yn gyflawn.”
Brenhines doedd ddim yn rheoli.
Neu “wedi gorwedd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “Milo.” Term Hebraeg sy’n golygu “llenwi.”
Neu “Yna gorweddodd Solomon i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”