Cyntaf Brenhinoedd 2:1-46

  • Dafydd yn rhoi cyfarwyddiadau i Solomon (1-9)

  • Dafydd yn marw; Solomon ar yr orsedd (10-12)

  • Cynllwyn Adoneia yn arwain at ei farwolaeth (13-25)

  • Abiathar yn cael ei anfon i ffwrdd; Joab yn cael ei ladd (26-35)

  • Simei yn cael ei ladd (36-46)

2  Pan oedd Dafydd ar fin marw, rhoddodd y cyfarwyddiadau hyn i’w fab Solomon: 2  “Rydw i ar fy ngwely angau. Felly, bydda’n gryf ac yn ddewr. 3  Mae’n rhaid iti ufuddhau i Jehofa dy Dduw drwy gerdded yn ei ffyrdd a chadw at ei ddeddfau, ei orchmynion, ei farnedigaethau, a’r pethau mae’n dy atgoffa di ohonyn nhw fel maen nhw wedi eu hysgrifennu yng Nghyfraith Moses; yna byddi di’n llwyddo* ym mhopeth rwyt ti’n ei wneud ac ym mhobman rwyt ti’n mynd. 4  A bydd Jehofa yn cadw’r addewid wnaeth ef imi: ‘Os bydd dy feibion yn talu sylw i’r ffordd maen nhw’n byw ac yn dilyn fy ffordd yn ffyddlon â’u holl galonnau ac â’u holl eneidiau,* yna bydd ’na wastad un o dy ddisgynyddion di yn eistedd ar orsedd Israel.’ 5  “Rwyt ti hefyd yn gwybod yn iawn beth wnaeth Joab fab Seruia imi, beth wnaeth ef i ddau o benaethiaid byddinoedd Israel—Abner fab Ner ac Amasa fab Jether. Gwnaeth ef eu lladd nhw, gan dywallt* gwaed rhyfel mewn cyfnod o heddwch, a rhoddodd waed rhyfel ar y belt am ei ganol ac ar y sandalau am ei draed. 6  Nawr, gweithreda’n ddoeth a phaid â gadael iddo farw o henaint.* 7  “Ond dylet ti ddangos cariad ffyddlon tuag at feibion Barsilai o Gilead, a dylen nhw fod ymysg y rhai sy’n bwyta wrth dy fwrdd, oherwydd gwnaethon nhw fy nghefnogi i pan oeddwn i’n rhedeg i ffwrdd oddi wrth dy frawd Absalom. 8  “Hefyd, mae Simei fab Gera y Benjaminiad o Bahurim yn byw yn agos iti. Ef oedd yr un a wnaeth fy melltithio i â melltith filain ar y diwrnod pan oeddwn i’n mynd i Mahanaim; ond pan ddaeth i lawr i fy nghyfarfod i wrth yr Iorddonen, gwnes i dyngu’r llw hwn iddo yn enw Jehofa: ‘Wna i ddim dy ladd di â’r cleddyf.’ 9  Nawr paid â gadael iddo fynd heb gael ei gosbi, oherwydd rwyt ti’n ddyn doeth ac rwyt ti’n gwybod beth dylet ti ei wneud iddo; paid â gadael iddo farw o henaint.”* 10  Yna bu farw Dafydd* a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd. 11  Teyrnasodd Dafydd dros Israel am 40 mlynedd. Teyrnasodd yn Hebron am 7 mlynedd, ac yn Jerwsalem am 33 blynedd. 12  Yna eisteddodd Solomon ar orsedd Dafydd ei dad, a fesul tipyn daeth ei frenhiniaeth yn gadarn. 13  Ymhen amser, daeth Adoneia fab Haggith at Bath-seba, mam Solomon. Gofynnodd hi: “Wyt ti’n dod mewn heddwch?” Ac atebodd ef: “Ydw, rydw i’n dod mewn heddwch.” 14  Yna dywedodd: “Mae gen i rywbeth i’w ddweud wrthot ti.” Felly dywedodd hi: “Siarada.” 15  Aeth ef ymlaen i ddweud: “Rwyt ti’n gwybod yn iawn mai fi oedd am fod yn frenin, ac roedd Israel gyfan yn disgwyl i mi fod yn frenin; ond aeth y frenhiniaeth i fy mrawd, nid i mi, oherwydd dyna oedd ewyllys Jehofa. 16  Ond nawr rydw i’n gofyn am un peth yn unig gen ti. Paid â fy ngwrthod i.” Felly dywedodd hi wrtho: “Siarada.” 17  Yna dywedodd Adoneia: “Plîs, gofynna i Solomon y brenin—oherwydd fydd ef ddim yn dy wrthod di—i roi Abisag o Sunem yn wraig imi.” 18  I hynny, dywedodd Bath-seba: “O’r gorau! Fe wna i siarad â’r brenin ar dy ran di.” 19  Felly aeth Bath-seba i mewn at y Brenin Solomon i siarad ag ef ar ran Adoneia. Ar unwaith, cododd y brenin i’w chyfarfod ac ymgrymu o’i blaen. Yna eisteddodd i lawr ar ei orsedd a gorchymyn bod gorsedd arall yn cael ei gosod ar gyfer mam y brenin, fel ei bod hi’n gallu eistedd ar ei ochr dde. 20  Yna dywedodd hi: “Mae gen i un peth bach i’w ofyn gen ti. Paid â fy ngwrthod i.” Felly dywedodd y brenin wrthi: “Gofynna, fy mam, oherwydd wna i ddim dy wrthod di.” 21  Dywedodd hi: “Gad i dy frawd Adoneia briodi Abisag o Sunem.” 22  Gyda hynny, atebodd y Brenin Solomon: “Pam rwyt ti’n gofyn am i Adoneia gael priodi Abisag o Sunem? Waeth iti ofyn am iddo gael y frenhiniaeth, oherwydd ef yw fy mrawd hŷn, ac mae Abiathar yr offeiriad a Joab fab Seruia yn ei gefnogi.” 23  Gyda hynny, aeth y Brenin Solomon ar lw o flaen Jehofa: “Gad i Dduw fy nghosbi i’n llym os nad ydy Adoneia yn talu â’i fywyd* am ofyn hyn. 24  Ac nawr, mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, yr un wnaeth fy rhoi i ar orsedd fy nhad Dafydd a gwneud fy mrenhiniaeth yn gadarn, ac sydd wedi rhoi llinach frenhinol* imi yn union fel gwnaeth ef addo, bydd Adoneia yn cael ei ladd heddiw.” 25  Ar unwaith, dyma’r Brenin Solomon yn anfon Benaia fab Jehoiada allan i daro Adoneia i lawr, a bu farw. 26  Dywedodd y brenin wrth Abiathar yr offeiriad: “Dos i dy gaeau yn Anathoth! Rwyt ti’n haeddu marw, ond wna i ddim dy ladd di heddiw am dy fod ti wedi cario Arch y Sofran Arglwydd Jehofa o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy fod ti wedi dioddef popeth y gwnaeth fy nhad ei ddioddef.” 27  Felly dyma Solomon yn cael gwared ar Abiathar fel offeiriad i Jehofa, er mwyn cyflawni gair Jehofa yn erbyn tŷ Eli yn Seilo. 28  Unwaith i’r newyddion gyrraedd Joab, gwnaeth ef ffoi i babell Jehofa a chydio yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia ond doedd ef ddim wedi cefnogi Absalom.) 29  Yna cafodd y Brenin Solomon wybod: “Mae Joab wedi ffoi i babell Jehofa ac mae ef yno wrth ymyl yr allor.” Felly anfonodd Solomon Benaia fab Jehoiada gan ddweud: “Dos i’w daro i lawr!” 30  Felly aeth Benaia i babell Jehofa a dweud wrth Joab: “Tyrd allan ar orchymyn y brenin!” Ond atebodd: “Na! Bydda i’n marw yn fan hyn.” Yna aeth Benaia yn ôl at y brenin i ddweud wrtho beth ddywedodd Joab a sut roedd wedi ei ateb. 31  Yna dywedodd y brenin wrtho: “Gwna yn union fel dywedodd ef; lladd ef yn y fan a’r lle a’i gladdu fel na fydda i na theulu fy nhad yn gyfrifol am y gwaed gwnaeth Joab ei dywallt* heb achos. 32  Bydd Jehofa yn dal Joab yn gyfrifol am ei farwolaeth ei hun am ei fod wedi ymosod ar ddau ddyn oedd yn fwy cyfiawn ac yn well nag ef a’u lladd nhw â’r cleddyf heb i fy nhad Dafydd wybod: Abner fab Ner, pennaeth byddin Israel, ac Amasa fab Jether, pennaeth byddin Jwda. 33  Bydd Joab a’i ddisgynyddion yn gyfrifol am eu marwolaeth am byth; gad i Jehofa roi heddwch i Dafydd, ei ddisgynyddion, ei deulu,* a’i orsedd am byth.” 34  Yna aeth Benaia fab Jehoiada i fyny a tharo Joab i lawr a’i ladd, a chafodd ei gladdu yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch. 35  Yna dyma’r brenin yn penodi Benaia fab Jehoiada yn bennaeth ar y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar. 36  Yna dyma’r brenin yn galw am Simei ac yn dweud wrtho: “Adeilada dŷ i ti dy hun yn Jerwsalem i fyw ynddo; a phaid â gadael y ddinas er mwyn mynd i unrhyw le arall. 37  Ar y diwrnod y byddi di’n mynd allan ac yn croesi Dyffryn Cidron, gelli di fod yn sicr y byddi di’n marw. Byddi di’n gyfrifol am dy waed dy hun.” 38  Atebodd Simei: “Mae beth rwyt ti wedi ei ddweud yn deg. Bydda i, dy was, yn gwneud yn union fel rwyt ti, fy arglwydd y brenin, wedi dweud.” Felly arhosodd Simei yn Jerwsalem am amser hir. 39  Ond ar ôl tair blynedd, dyma ddau o gaethweision Simei yn rhedeg i ffwrdd at Achis fab Maacha, brenin Gath. Pan glywodd Simei: “Edrycha! Mae dy gaethweision yn Gath,” 40  dyma Simei yn paratoi ei asyn ar unwaith ac yn mynd i weld Achis yn Gath i chwilio am ei gaethweision. Pan ddaeth Simei yn ôl o Gath gyda’i gaethweision, 41  cafodd Solomon wybod: “Mae Simei wedi mynd allan o Jerwsalem i Gath ac wedi dod yn ôl.” 42  Gyda hynny, galwodd y brenin am Simei a dweud wrtho: “Oni wnes i dy roi di o dan lw yn enw Jehofa a dy rybuddio di: ‘Ar y diwrnod y byddi di’n mynd allan o’r ddinas hon i unrhyw le arall, gelli di fod yn sicr y byddi di’n marw’? Ac oni wnest ti ddweud wrtho i, ‘Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn deg; bydda i’n ufuddhau’? 43  Felly pam na wnest ti gadw’r llw wnest ti i Jehofa ac ufuddhau i’r gorchymyn roddais iti?” 44  Yna dywedodd y brenin wrth Simei: “Rwyt ti’n gwybod yn dy galon am yr holl niwed wnest ti i fy nhad Dafydd, a bydd Jehofa yn talu yn ôl iti am y niwed hwnnw. 45  Ond bydd Jehofa yn bendithio’r Brenin Solomon ac yn sefydlu gorsedd Dafydd yn gadarn am byth.” 46  Gyda hynny, rhoddodd y brenin orchymyn i Benaia fab Jehoiada, ac aeth yntau allan i daro Simei i lawr, a bu farw. Felly cafodd y deyrnas ei sefydlu’n gadarn yn nwylo Solomon.

Troednodiadau

Neu “ymddwyn yn ddoeth.”
Gweler Geirfa.
Neu “arllwys.”
Llyth., “a phaid â gadael i’w wallt gwyn fynd i lawr i Sheol mewn heddwch.” Gweler Geirfa, “Bedd.”
Llyth., “mae’n rhaid iti ddod â’i wallt gwyn i lawr i Sheol â gwaed.” Gweler Geirfa, “Bedd.”
Neu “Yna gorweddodd Dafydd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “enaid.”
Neu “wedi rhoi tŷ.”
Neu “arllwys.”
Llyth., “ei dŷ.”