Cyntaf Brenhinoedd 20:1-43

  • Syriaid yn rhyfela yn erbyn Ahab (1-12)

  • Ahab yn trechu’r Syriaid (13-34)

  • Proffwydoliaeth yn erbyn Ahab (35-43)

20  Nawr casglodd Ben-hadad brenin Syria ei holl fyddin at ei gilydd ynghyd â 32 o frenhinoedd eraill a’u ceffylau a’u cerbydau, ac aeth i fyny a gwarchae ar Samaria a brwydro yn ei herbyn. 2  Yna anfonodd negeswyr at Ahab brenin Israel yn y ddinas i ddweud wrtho: “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud, 3  ‘Fi sydd biau dy arian a dy aur, yn ogystal â dy wragedd a dy feibion gorau.’” 4  I hynny atebodd brenin Israel: “Fel rwyt ti’n dweud, fy arglwydd y brenin, rydw i a phopeth sydd gen i yn perthyn i ti.” 5  Yn hwyrach ymlaen daeth y negeswyr yn ôl a dweud: “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud, ‘Anfonais y neges hon atat ti: “Byddi di’n anfon dy arian, dy aur, dy wragedd, a dy feibion ata i.” 6  Ond tua’r adeg yma yfory bydda i’n anfon fy ngweision atat ti, a byddan nhw’n chwilio drwy dy dŷ di a thai dy weision yn drylwyr, ac yn cymryd popeth gwerthfawr sydd gen ti.’” 7  Ar hynny galwodd brenin Israel ar holl henuriaid y wlad a dweud: “Plîs cymerwch sylw, a gweld bod y dyn hwn yn benderfynol o ddod â thrychineb, am ei fod wedi mynnu cael fy ngwragedd, fy meibion, fy arian, a fy aur, ac ni wnes i ei wrthod.” 8  Yna dyma’r holl henuriaid a’r bobl i gyd yn dweud wrtho: “Paid ag ufuddhau, a phaid â chytuno.” 9  Felly dywedodd wrth negeswyr Ben-hadad: “Dywedwch wrth fy arglwydd y brenin, ‘Gwna i bopeth gwnest ti ei fynnu gen i y tro cyntaf, ond alla i ddim gwneud hyn.’” Gyda hynny aeth y negeswyr i ffwrdd ac adrodd hyn yn ôl wrtho. 10  Yna anfonodd Ben-hadad y neges hon ato: “Gad i’r duwiau fy nghosbi i’n llym os na fydda i’n dinistrio Samaria, ac os bydd ’na ddigon o lwch ar ôl yno i roi llond llaw i bob un sy’n fy nilyn i!” 11  Atebodd brenin Israel: “Dywedwch wrtho, ‘Ddylai’r un sy’n gwisgo ei arfwisg ddim brolio amdano’i hun fel mae’r un sy’n ei gymryd i ffwrdd.’” 12  Cyn gynted ag y clywodd yr ateb hwn, tra oedd ef a’r brenhinoedd yn yfed yn eu pebyll, dywedodd wrth ei weision: “Paratowch i ymosod!” Felly dyma nhw’n paratoi i ymosod ar y ddinas. 13  Ond aeth proffwyd at Ahab brenin Israel a dweud: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘A wyt ti wedi gweld y fyddin enfawr hon? Rydw i’n ei rhoi yn dy law di heddiw, ac yna byddi di’n gwybod mai fi ydy Jehofa.’” 14  Gofynnodd Ahab: “Ond sut?” ac atebodd yntau: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Drwy swyddogion tywysogion y taleithiau.’”* Felly gofynnodd: “Pwy fydd yn dechrau’r frwydr?” ac atebodd: “Ti!” 15  Yna dyma Ahab yn cyfri swyddogion tywysogion y taleithiau, ac roedd ’na 232; ar ôl hynny, gwnaeth ef gyfri holl ddynion Israel, 7,000. 16  Aethon nhw allan am ganol dydd tra oedd Ben-hadad yn meddwi yn y pebyll gyda’r 32 o frenhinoedd oedd yn ei helpu. 17  Pan ddaeth swyddogion tywysogion y taleithiau allan yn gyntaf, anfonodd Ben-hadad negeswyr ar unwaith. A dyma nhw’n adrodd wrtho: “Mae dynion wedi dod allan o Samaria.” 18  I hynny dywedodd: “Daliwch nhw’n fyw, naill ai os ydyn nhw wedi dod allan er mwyn heddwch neu er mwyn brwydro.” 19  Ond pan ddaeth y rhain allan o’r ddinas—swyddogion tywysogion y taleithiau a’r byddinoedd oedd yn eu dilyn nhw— 20  dyma bob un yn lladd y dyn oedd yn dod yn ei erbyn. Yna dyma’r Syriaid yn ffoi, ac aeth Israel ar eu holau, ond llwyddodd Ben-hadad, brenin Syria, i ddianc ar gefn ceffyl gyda rhai o’r marchogion. 21  Ond aeth brenin Israel allan a pharhaodd i daro i lawr y ceffylau a’r cerbydau, a lladd nifer enfawr o’r Syriaid. 22  Yn hwyrach ymlaen aeth y proffwyd at frenin Israel a dweud wrtho: “Dos a chryfha dy fyddin, ac ystyria beth rwyt ti am ei wneud, oherwydd ar ddechrau’r flwyddyn nesaf* bydd brenin Syria yn codi yn dy erbyn di.” 23  Nawr dywedodd gweision brenin Syria wrtho: “Duw y mynyddoedd yw eu Duw nhw. Dyna pam gwnaethon nhw ein trechu ni. Ond os byddwn ni’n brwydro yn eu herbyn nhw ar dir gwastad, byddwn ni’n eu trechu nhw. 24  Gwna hyn hefyd: Tynna’r brenhinoedd o’r frwydr, a rho lywodraethwyr yn eu lle. 25  Yna casgla fyddin mor fawr â’r fyddin gwnest ti ei cholli, ceffyl am geffyl a cherbyd am gerbyd. Gad inni frwydro yn eu herbyn nhw ar dir gwastad, a byddwn ni’n sicr yn eu trechu nhw.” Felly gwrandawodd ar eu cyngor a gwneud yn union hynny. 26  Ar ddechrau’r flwyddyn,* dyma Ben-hadad yn casglu’r Syriaid at ei gilydd ac yn mynd i fyny i Affec er mwyn brwydro yn erbyn Israel. 27  Cafodd yr Israeliaid eu galw at ei gilydd hefyd, ac unwaith iddyn nhw gael cyflenwad o fwyd, aethon nhw allan i gyfarfod y Syriaid. Roedd yr Israeliaid yn gwersylla o’u blaenau nhw, ac roedden nhw fel dau braidd bychan bach o eifr, ond roedd y Syriaid yn llenwi’r wlad i gyd. 28  Yna aeth dyn y gwir Dduw at frenin Israel a dweud: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Am fod y Syriaid wedi dweud: “Duw y mynyddoedd ydy Jehofa, nid Duw y tiroedd gwastad,” bydda i’n rhoi’r fyddin enfawr hon yn dy ddwylo, a byddi di’n sicr yn gwybod mai fi yw Jehofa.’” 29  Gwnaethon nhw wersylla gyferbyn â’i gilydd am saith diwrnod, a chychwynodd y frwydr ar y seithfed diwrnod. Dyma bobl Israel yn taro i lawr 100,000 o filwyr Syria mewn un diwrnod. 30  A dyma’r gweddill yn ffoi i Affec, i mewn i’r ddinas. Ond syrthiodd y wal i lawr ar ben 27,000 o’r dynion a oedd ar ôl. Gwnaeth Ben-hadad hefyd ffoi a dod i mewn i’r ddinas, a chuddiodd mewn ystafell fewnol. 31  Felly dywedodd ei weision wrtho: “Edrycha, rydyn ni wedi clywed bod brenhinoedd tŷ Israel yn frenhinoedd trugarog.* Plîs, gad inni wisgo sachliain a rhoi rhaffau am ein pennau a mynd allan at frenin Israel. Efallai bydd yn gadael iti fyw.”* 32  Felly dyma nhw’n gwisgo sachliain a rhaffau am eu pennau ac yn dod i mewn at frenin Israel a dweud: “Mae dy was Ben-hadad yn dweud, ‘Plîs gad imi fyw.’” Atebodd: “Ydy ef yn dal yn fyw? Ef yw fy mrawd.” 33  Dyma’r dynion yn gweld hyn fel arwydd da ac yn dal ar ei eiriau yn gyflym, a dywedon nhw: “Ben-hadad yw dy frawd.” I hynny dywedodd: “Dos i’w nôl ef.” Yna aeth Ben-hadad allan ato, a dyma Ahab yn gwneud iddo ddringo i mewn i’w gerbyd. 34  Nawr dywedodd Ben-hadad wrtho: “Bydda i’n rhoi’r dinasoedd gymerodd fy nhad i oddi wrth dy dad di yn ôl, a chei di sefydlu marchnadoedd i ti dy hun yn Namascus, yn union fel gwnaeth fy nhad yn Samaria.” Atebodd Ahab: “Ar sail y cytundeb hwn, gwna i adael iti fynd.” A gyda hynny gwnaeth gytundeb ag ef a gadael iddo fynd. 35  Drwy air Jehofa, dywedodd un o feibion y proffwydi* wrth y dyn oedd gydag ef: “Taro fi plîs.” Ond gwrthododd y dyn ei daro. 36  Felly dywedodd wrtho: “Am dy fod ti heb wrando ar lais Jehofa, cyn gynted ag y byddi di’n fy ngadael i, bydd llew yn dy ladd di.” Ar ôl iddo ei adael, dyma lew yn ymosod arno ac yn ei ladd. 37  Daeth ar draws dyn arall a dweud: “Taro fi plîs.” Felly dyma’r dyn yn ei daro ac yn ei anafu. 38  Yna dyma’r proffwyd yn cuddio pwy oedd ef drwy orchuddio ei lygaid â rhwymyn,* ac aeth i aros am y brenin ar ochr y ffordd. 39  Pan ddaeth y brenin heibio, galwodd y proffwyd arno: “Es i, dy was, i mewn i ganol y frwydr, a daeth un o’r milwyr â charcharor ata i a dweud, ‘Gwylia’r dyn hwn. Os bydd yn dianc, bydd rhaid iti dalu talent* o arian, neu fel arall bydd rhaid iti dalu am ei fywyd â dy fywyd dy hun.’ 40  A thra oeddwn i, dy was, yn brysur yma ac acw, diflannodd y dyn.” Dywedodd brenin Israel wrtho: “Fel rwyt ti wedi dweud, dyna fydd dy gosb.” 41  Yna tynnodd y rhwymyn oddi ar ei lygaid ar unwaith, a sylweddolodd brenin Israel ei fod yn un o’r proffwydi. 42  Dywedodd wrth y brenin: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Am dy fod ti wedi gadael i’r dyn ddianc o dy law, yr un gwnes i ddweud amdano y dylai gael ei ddinistrio, byddi di’n marw yn ei le, a bydd dy bobl di yn marw yn lle ei bobl ef.’” 43  Gyda hynny aeth brenin Israel adref i Samaria yn ddigalon ac mewn tymer ddrwg.

Troednodiadau

Neu “rhanbarthau.”
Hynny yw, y gwanwyn nesaf.
Hynny yw, yn y gwanwyn.
Neu “yn frenhinoedd llawn cariad ffyddlon.”
Neu “yn arbed dy enaid.”
Mae’n ymddangos bod “meibion y proffwydi” yn cyfeirio at ysgol hyfforddi ar gyfer proffwydi neu at gymdeithas o broffwydi.
Neu “â bandais.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).