Cyntaf Brenhinoedd 3:1-28

  • Solomon yn priodi merch Pharo (1-3)

  • Jehofa yn ymddangos i Solomon mewn breuddwyd (4-15)

    • Solomon yn gofyn am ddoethineb (7-9)

  • Solomon yn barnu rhwng dwy fam (16-28)

3  Gwnaeth Solomon gytundeb gwleidyddol â Pharo, brenin yr Aifft, drwy briodi merch Pharo. Aeth ef â hi i Ddinas Dafydd i fyw nes iddo orffen adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ Jehofa, a’r wal o gwmpas Jerwsalem. 2  Ond roedd y bobl yn dal i aberthu ar yr uchelfannau, oherwydd ar y pryd doedd tŷ ar gyfer enw Jehofa ddim wedi cael ei adeiladu eto. 3  Parhaodd Solomon i garu Jehofa drwy ufuddhau i ddeddfau ei dad Dafydd, er ei fod yn dal i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar ei aberthau ar yr uchelfannau. 4  Aeth y brenin i Gibeon i aberthu yno, oherwydd dyna oedd y prif uchelfan. Offrymodd Solomon 1,000 o aberthau llosg ar yr allor honno. 5  Yn Gibeon, dyma Jehofa yn ymddangos i Solomon mewn breuddwyd yn ystod y nos, a dywedodd Duw: “Dyweda beth rwyt ti eisiau imi ei roi iti.” 6  Atebodd Solomon: “Rwyt ti wedi dangos llawer iawn o gariad ffyddlon tuag at fy nhad Dafydd, dy was, wrth iddo gerdded o dy flaen di â ffyddlondeb, cyfiawnder, a chalon bur. Rwyt ti wedi parhau i ddangos y cariad ffyddlon hwn tuag ato hyd heddiw drwy ganiatáu i un o’i feibion eistedd ar ei orsedd. 7  Ac nawr, Jehofa fy Nuw, rwyt ti wedi fy ngwneud i, dy was, yn frenin yn lle fy nhad Dafydd, er fy mod i’n ifanc* ac yn ddibrofiad. 8  Mae dy was ymhlith y bobl rwyt ti wedi eu dewis, pobl rhy niferus i’w cyfri neu i’w rhifo. 9  Felly rho galon ufudd i dy was er mwyn imi allu barnu dy bobl, a gwahaniaethu rhwng beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg, oherwydd pwy all farnu’r holl bobl sy’n perthyn i ti?” 10  Roedd y ffaith fod Solomon wedi gofyn am hyn yn plesio Jehofa. 11  Yna dywedodd Duw wrtho: “Am dy fod ti wedi gofyn am ddealltwriaeth a doethineb i farnu yn hytrach nag am fywyd hir i ti dy hun neu am gyfoeth neu am farwolaeth dy elynion, 12  bydda i’n gwneud fel rwyt ti wedi gofyn. Bydda i’n rhoi calon ddoeth a deallus iti, ac yn union fel does ’na neb tebyg iti wedi bod erioed o’r blaen, fydd ’na neb tebyg iti byth eto. 13  Ar ben hynny, bydda i’n rhoi iti’r hyn nad wyt ti wedi gofyn amdano, cyfoeth ac anrhydedd, fel na fydd yr un brenin arall yn debyg iti tra byddi di’n fyw. 14  Ac os byddi di’n cadw at fy ffyrdd drwy ufuddhau i fy neddfau a fy ngorchmynion, yn union fel gwnaeth dy dad Dafydd, bydda i hefyd yn rhoi bywyd hir iti.” 15  Unwaith i Solomon ddeffro, sylweddolodd mai breuddwyd oedd y cwbl. Yna aeth i Jerwsalem a sefyll o flaen arch cyfamod Jehofa a chynnig aberthau llosg ac offrymau heddwch a chynnal gwledd ar gyfer ei weision i gyd. 16  Yn hwyrach ymlaen, daeth dwy butain i mewn at y brenin a sefyll o’i flaen. 17  Dywedodd y ddynes* gyntaf: “Plîs, fy arglwydd, rydw i a’r ddynes* yma yn byw yn yr un tŷ, a gwnes i eni babi tra oedd hi yn y tŷ. 18  Ar y trydydd diwrnod ar ôl i mi eni fy mabi i, dyma’r ddynes* yma hefyd yn geni babi. Roedden ni gyda’n gilydd, dim ond y ddwy ohonon ni; doedd ’na neb arall yn y tŷ gyda ni. 19  Yn ystod y nos dyma fab y ddynes* yma yn marw am ei bod hi wedi gorwedd arno. 20  Felly cododd hi ynghanol y nos a chymryd fy mab i o fy ochr tra oeddwn i’n cysgu, ac yn ei roi yn ei breichiau hi, a dyma hi’n rhoi ei mab marw hi yn fy mreichiau i. 21  Pan wnes i godi yn y bore i fwydo fy mab, gwelais ei fod wedi marw. Felly gwnes i edrych yn fanwl arno yn y bore a gweld nad fy mab i oedd hwn, yr un roeddwn i wedi ei eni.” 22  Ond dywedodd y ddynes* arall: “Na, fy mab i yw’r un sy’n fyw, a dy fab di yw’r un sydd wedi marw!” Ond roedd y ddynes* gyntaf yn dweud: “Na, dy fab di yw’r un sydd wedi marw, a fy mab i yw’r un sy’n fyw.” Roedd y ddwy yn dadlau fel hyn o flaen y brenin. 23  O’r diwedd dywedodd y brenin: “Mae un yn dweud, ‘Fy mab i yw hwn, yr un sy’n fyw, a dy fab di yw’r un sydd wedi marw!’ ac mae’r llall yn dweud, ‘Na, dy fab di sydd wedi marw, a fy mab i sy’n fyw!’” 24  Dywedodd y brenin: “Dewch â chleddyf imi.” Felly dyma nhw’n dod â chleddyf i’r brenin. 25  Yna dywedodd y brenin: “Torrwch y plentyn byw yn ddau, a rhowch hanner i un ddynes* a’r hanner arall i’r llall.” 26  Ar unwaith, dyma fam y plentyn byw yn erfyn ar y brenin am ei bod hi’n caru ei mab gymaint. Dywedodd hi: “Plîs, fy arglwydd! Dylet ti roi’r plentyn byw iddi hi! Plîs, paid â hyd yn oed meddwl am ei ladd!” Ond roedd y ddynes* arall yn dweud: “Ni fydd yr un ohonon ni yn ei gael! Gad iddo gael ei dorri’n ddau!” 27  A gyda hynny, atebodd y brenin: “Rhowch y plentyn byw i’r ddynes* gyntaf! Peidiwch â’i ladd, oherwydd hi yw ei fam.” 28  Felly clywodd Israel gyfan am sut roedd y brenin wedi datrys y ddadl ac roedden nhw’n rhyfeddu* am eu bod nhw’n gweld bod doethineb Duw gydag ef wrth iddo farnu.

Troednodiadau

Neu “er fy mod i’n fachgen bach.”
Neu “y fenyw.”
Neu “a’r fenyw.”
Neu “dyma’r fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “un fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “i’r fenyw.”
Llyth., “roedden nhw mewn ofn.”