Y Cyntaf at y Corinthiaid 7:1-40

  • Cyngor i’r rhai dibriod a’r rhai priod (1-16)

  • Aros yn y cyflwr yr oedd pob un ynddo pan gafodd ei alw (17-24)

  • Y dibriod a’r gweddwon (25-40)

    • Manteision bod yn sengl (32-35)

    • Priodi “dim ond yn yr Arglwydd” (39)

7  Nawr ynglŷn â’r pethau y gwnaethoch chi ysgrifennu amdanyn nhw, gwell yw i ddyn beidio â chyffwrdd* â dynes;* 2  ond oherwydd bod anfoesoldeb rhywiol* mor gyffredin, gadewch i bob dyn gael ei wraig ei hun ac i bob dynes* gael ei gŵr ei hun. 3  Gadewch i’r gŵr roi i’w wraig yr hyn sy’n ddyledus iddi, a gadewch i’r wraig wneud yr un fath i’w gŵr. 4  Nid oes gan y wraig awdurdod dros ei chorff ei hun, ond mae gan y gŵr; yn yr un modd, nid oes gan y gŵr awdurdod dros ei gorff ei hun, ond mae gan y wraig. 5  Peidiwch â gwrthod eich gilydd, ac eithrio trwy gytundeb am gyfnod penodedig, fel y gallwch chi neilltuo amser i weddi ac yna dod ynghyd eto, rhag ofn i Satan barhau i’ch temtio chi oherwydd eich diffyg hunanreolaeth. 6  Fodd bynnag, dweud hyn yr ydw i er mwyn rhoi caniatâd ichi wneud hyn, nid i’ch gorchymyn chi. 7  Ond rydw i’n dymuno i bob dyn fod fel rydw i. Er hynny, mae gan bob un ei rodd ei hun oddi wrth Dduw, un person fel hyn, a’r llall fel arall. 8  Nawr rydw i’n dweud wrth y rhai dibriod a’r gwragedd gweddwon mai peth da yw iddyn nhw aros fel yr ydw innau. 9  Ond os nad oes ganddyn nhw hunanreolaeth, gadewch iddyn nhw briodi, oherwydd gwell priodi na llosgi gan chwantau. 10  I’r bobl briod rydw i’n rhoi cyfarwyddiadau, nid fi ond yr Arglwydd, na ddylai gwraig wahanu oddi wrth ei gŵr. 11  Ond os ydy hi’n gwahanu, gadewch iddi aros yn ddibriod neu gymodi â’i gŵr; ac ni ddylai gŵr adael ei wraig. 12  Ond wrth y lleill rydw i, ie, y fi, nid yr Arglwydd yn dweud: Os bydd gan unrhyw frawd wraig anghrediniol a’i bod hi’n fodlon aros gydag ef, ni ddylai ef ei gadael hi; 13  ac os bydd gan ddynes* ŵr anghrediniol a’i fod ef yn fodlon aros gyda hi, ni ddylai hi adael ei gŵr. 14  Oherwydd mae priodas y gŵr anghrediniol wedi ei sancteiddio oherwydd ei wraig, ac mae priodas y wraig anghrediniol wedi ei sancteiddio oherwydd ei gŵr Cristnogol; neu fel arall, byddai eich plant yn aflan yng ngolwg Duw, ond nawr maen nhw’n sanctaidd. 15  Ond os ydy’r un anghrediniol yn dewis gadael,* gadewch iddo adael; dydy brawd na chwaer ddim yn gaeth o dan amgylchiadau o’r fath, ond mae Duw wedi eich galw chi i heddwch. 16  Sut rwyt ti’n gwybod, wraig, na fyddi di’n achub dy ŵr? Neu sut rwyt ti’n gwybod, ŵr, na fyddi di’n achub dy wraig? 17  Er hynny, yn union fel y mae Jehofa wedi rhoi cyfran i bob un, gadewch iddo gerdded fel yr oedd pan wnaeth Duw ei alw. Ac felly rydw i’n rhoi’r cyfarwyddyd hwn yn yr holl gynulleidfaoedd. 18  A oedd unrhyw ddyn eisoes wedi ei enwaedu pan gafodd ei alw? Ni ddylai ddad-wneud ei enwaedu. A oes unrhyw ddyn wedi cael ei alw sydd heb ei enwaedu? Ni ddylai ef gael ei enwaedu. 19  Dydy enwaedu ddim yn golygu unrhyw beth, a dydy dienwaediad ddim yn golygu unrhyw beth; yr hyn sy’n golygu rhywbeth ydy cadw gorchmynion Duw. 20  Gadewch i bob un aros ym mha bynnag gyflwr yr oedd ynddo pan gafodd ei alw. 21  A gest ti dy alw pan oeddet ti’n gaethwas? Paid â gadael i hynny dy boeni di; ond os gelli di ennill dy ryddid, yna bacha ar y cyfle. 22  Oherwydd mae unrhyw un a gafodd ei alw yn yr Arglwydd pan oedd yn gaethwas yn gaethwas rhydd i’r Arglwydd; yn yr un modd mae unrhyw un a gafodd ei alw pan oedd yn ddyn rhydd yn gaethwas i Grist. 23  Fe gawsoch chi eich prynu am bris; stopiwch fod yn gaethweision i ddynion. 24  Ym mha bynnag gyflwr yr oedd pob un pan gafodd ei alw, frodyr, gadewch iddo aros ynddo o flaen Duw. 25  Nawr ynglŷn â gwyryfon,* does gen i ddim gorchymyn gan yr Arglwydd, ond rydw i’n rhoi fy marn fel un y gallwch chi ymddiried ynddo oherwydd bod yr Arglwydd wedi trugarhau wrtho i. 26  Felly, o ystyried yr anhawster dan sylw, rydw i’n meddwl ei bod hi’n well i ddyn barhau fel y mae. 27  A wyt ti’n glwm wrth wraig? Paid â cheisio dy ryddhau dy hun. A wyt ti’n rhydd oddi wrth wraig? Paid â cheisio gwraig. 28  Ond hyd yn oed os byddi di’n priodi, ni fyddet ti’n pechu. Ac os bydd gwyryf yn priodi, ni fyddai person o’r fath yn pechu. Fodd bynnag, bydd y rhai sy’n gwneud hynny yn cael llawer o broblemau. Ond rydw i’n ceisio eich arbed chi rhag hynny. 29  Ystyriwch hyn hefyd, frodyr: Mae’r amser sydd ar ôl yn fyr. O hyn ymlaen, gadewch i’r rhai sydd â gwragedd fod fel petasen nhw heb wragedd, 30  a’r rhai sy’n wylo fel rhai sydd ddim yn wylo, a’r rhai sy’n llawenhau fel rhai sydd ddim yn llawenhau, a’r rhai sy’n prynu fel rhai sydd heb y pethau maen nhw wedi eu prynu, 31  a’r rhai sy’n gwneud defnydd o’r byd fel rhai sydd ddim yn ei ddefnyddio’n llawn; oherwydd bod golygfa’r* byd hwn yn newid. 32  Yn wir, rydw i eisiau ichi fod yn rhydd o bryder. Mae’r dyn dibriod yn pryderu dim ond am bethau’r Arglwydd, am sut y gallai gael cymeradwyaeth yr Arglwydd. 33  Ond mae’r dyn priod yn pryderu am bethau’r byd, am sut y gallai gael cymeradwyaeth ei wraig, 34  ac mae ei sylw yn cael ei dynnu. Ymhellach, mae’r ddynes* ddibriod, ynghyd â’r wyryf, yn pryderu am bethau’r Arglwydd, er mwyn iddi fod yn sanctaidd yn ei chorff ac yn ei hysbryd. Fodd bynnag, mae’r ddynes* briod yn pryderu am bethau’r byd, am sut y gallai gael cymeradwyaeth ei gŵr. 35  Ond rydw i’n dweud hyn er eich lles personol, nid i’ch cyfyngu chi, ond i’ch annog i wneud yr hyn sy’n briodol ac i ymroi i’r Arglwydd drwy’r amser heb adael i unrhyw beth dynnu eich sylw. 36  Ond os yw rhywun yn meddwl ei fod yn ymddwyn yn amhriodol drwy aros yn ddibriod, ac os nad yw’n rhy ifanc, dyma beth ddylai ddigwydd: Gadewch iddo wneud beth y mae eisiau; nid yw’n pechu. Gadewch iddyn nhw briodi. 37  Ond os yw unrhyw un yn sefyll yn sicr yn ei galon ac nid oes angen arno, ond mae’n gallu rheoli ei chwantau ei hun ac mae wedi gwneud y penderfyniad yn ei galon ei hun i aros yn ddibriod, fe fydd yn gwneud yn dda. 38  Felly hefyd, mae pwy bynnag sy’n priodi yn gwneud yn dda, ond bydd pwy bynnag sydd ddim yn priodi yn gwneud yn well. 39  Mae gwraig yn glwm wrth ei gŵr cyhyd ag y mae ef yn fyw. Ond petai ei gŵr yn syrthio i gysgu mewn marwolaeth, byddai hi’n rhydd i briodi pwy bynnag mae hi eisiau, dim ond yn yr Arglwydd. 40  Ond yn fy marn i, mae hi’n hapusach os ydy hi’n aros fel y mae hi; ac rydw i’n hyderus bod ysbryd Duw gen i hefyd.

Troednodiadau

Hynny yw, cael cyfathrach rywiol â.
Neu “menyw.”
Lluosog y gair Groeg porneia. Gweler Geirfa.
Neu “menyw.”
Neu “gan fenyw.”
Neu “gwahanu.”
Neu “ynglŷn â’r rhai na wnaethon nhw erioed briodi.”
Hynny yw, rhaniad o act mewn drama ar y llwyfan.
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”