Cyntaf Ioan 2:1-29
2 Fy mhlant bach, rydw i’n ysgrifennu’r pethau hyn atoch chi er mwyn ichi beidio â phechu. Ond eto, os oes rhywun yn pechu, mae gynnon ni helpwr* gyda’r Tad, sef Iesu Grist, yr un cyfiawn.
2 Ac mae ef yn aberth sy’n gwneud yn iawn am* ein pechodau, nid am ein pechodau ni’n unig ond hefyd am bechodau’r holl fyd.
3 Dyma sut rydyn ni’n sylweddoli ein bod ni wedi dod i’w adnabod ef: os ydyn ni’n parhau i gadw ei orchmynion.
4 Mae’r un sy’n dweud, “Rydw i wedi dod i’w adnabod ef,” ond eto ddim yn ufuddhau i’w orchmynion yn dweud celwydd, a dydy’r gwir ddim yn y person hwn.
5 Ond, pwy bynnag sy’n ufuddhau i’w air, yn y person hwn mae cariad Duw yn wir wedi cael ei wneud yn berffaith. Dyma sut rydyn ni’n gwybod ein bod ni mewn undod ag ef.
6 Y sawl sy’n dweud ei fod yn aros mewn undod ag ef, mae ef ei hun o dan reidrwydd i barhau i gerdded yn union fel y cerddodd yr un hwnnw.
7 Frodyr a chwiorydd annwyl, nid gorchymyn newydd rydw i’n ei ysgrifennu atoch chi, ond hen orchymyn sydd wedi bod gynnoch chi o’r dechrau. Yr hen orchymyn hwn ydy’r gair a glywsoch chi.
8 Eto, rydw i’n ysgrifennu atoch chi orchymyn newydd, sy’n wir yn ei achos ef ac yn eich achos chithau, oherwydd mae’r tywyllwch yn mynd heibio ac mae’r gwir oleuni eisoes yn disgleirio.
9 Mae’r sawl sy’n dweud ei fod yn y goleuni ond eto’n casáu ei frawd yn dal i fod yn y tywyllwch.
10 Mae’r sawl sy’n caru ei frawd yn aros yn y goleuni, ac ynddo ef does dim achos i faglu.
11 Ond y sawl sy’n casáu ei frawd, mae ef yn y tywyllwch ac mae’n cerdded yn y tywyllwch, ac nid yw’n gwybod lle mae’n mynd, oherwydd bod y tywyllwch wedi dallu ei lygaid.
12 Rydw i’n ysgrifennu atoch chi, blant bach, oherwydd bod eich pechodau wedi cael eu maddau er mwyn ei enw ef.
13 Rydw i’n ysgrifennu atoch chi, dadau, oherwydd eich bod chi wedi dod i’w adnabod ef, yr un sydd wedi bodoli o’r dechreuad. Rydw i’n ysgrifennu atoch chi, ddynion ifanc, oherwydd eich bod chi wedi concro’r un drwg. Rydw i’n ysgrifennu atoch chi, blant ifanc, oherwydd eich bod chi wedi dod i adnabod y Tad.
14 Rydw i’n ysgrifennu atoch chi, dadau, oherwydd eich bod chi wedi dod i adnabod yr un sydd wedi bodoli o’r dechreuad. Rydw i’n ysgrifennu atoch chi, ddynion ifanc, oherwydd eich bod chi’n gryf ac am fod gair Duw yn aros ynoch chi a’ch bod chi wedi concro’r un drwg.
15 Peidiwch â charu’r byd na’r pethau sydd yn y byd. Os ydy rhywun yn caru’r byd, dydy cariad y Tad ddim ynddo ef;
16 oherwydd popeth sydd yn y byd—chwant y cnawd a chwant y llygaid a gwneud sioe fawr o bethau materol*—nid o’r Tad mae’r pethau hynny’n dod, ond o’r byd.
17 Ar ben hynny, mae’r byd yn mynd heibio, a’i chwant hefyd, ond mae’r sawl sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.
18 Blant ifanc, dyma’r awr olaf. Rydych chi wedi clywed y byddai’r anghrist yn dod, ac nawr mae llawer o anghristiau wedi ymddangos, ac oherwydd y ffaith hon rydyn ni’n gwybod mai dyma ydy’r awr olaf.
19 Aethon nhw allan oddi wrthon ni, ond doedden nhw ddim yr un fath â ni;* oherwydd petasen nhw wedi bod yr un fath â ni, byddan nhw wedi aros gyda ni. Ond fe aethon nhw allan er mwyn dangos nad ydy pawb yr un fath â ni.
20 Ac rydych chi wedi cael eich eneinio gan yr un sanctaidd, ac mae gan bawb ohonoch chi wybodaeth.
21 Rydw i’n ysgrifennu atoch chi, nid oherwydd dydych chi ddim yn gwybod y gwir, ond oherwydd eich bod chi’n gwybod y gwir, ac oherwydd does ’na ddim celwydd yn dod o’r gwir.
22 Pwy ydy’r un celwyddog? Onid yr un sy’n gwadu mai Iesu ydy’r Crist? Hwn ydy’r anghrist, yr un sy’n gwadu’r Tad a’r Mab.
23 Pob un sy’n gwadu’r Mab, dydy’r Tad ddim ganddo chwaith. Ond pwy bynnag sy’n cydnabod y Mab, mae’r Tad ganddo hefyd.
24 Ond chithau, dylai’r hyn rydych chi wedi ei glywed o’r dechrau aros ynoch chi. Os bydd yr hyn rydych chi wedi ei glywed o’r dechrau yn aros ynoch chi, byddwch chithau hefyd yn aros mewn undod â’r Mab ac mewn undod â’r Tad.
25 Ymhellach, dyma beth wnaeth ef ei hun addo inni—y bywyd tragwyddol.
26 Rydw i’n ysgrifennu’r pethau hyn atoch chi ynglŷn â’r rhai sy’n ceisio eich camarwain chi.
27 A chithau, oherwydd eich bod chi wedi cael eich eneinio gan Dduw drwy gyfrwng yr ysbryd glân, a bod yr ysbryd yn aros ynoch chi, does dim angen neb arnoch chi i’ch dysgu chi; ond mae Duw’n defnyddio’r ysbryd hwnnw i’ch dysgu chi am bopeth, ac mae’n wir ac nid yw’n dweud celwydd. Felly, arhoswch mewn undod ag ef, yn union fel mae’r ysbryd hwnnw wedi eich dysgu chi i wneud.
28 Felly, blant bach, arhoswch mewn undod ag ef, er mwyn i ni, pan fydd ef yn ymddangos, allu siarad gyda hyder a pheidio â thynnu’n ôl oddi wrtho mewn cywilydd yn ystod amser ei bresenoldeb.
29 Os ydych chi’n gwybod ei fod yn gyfiawn, rydych chi hefyd yn gwybod bod pawb sy’n gwneud pethau cyfiawn wedi cael eu geni ohono ef.
Troednodiadau
^ Neu “adfocad; eiriolwr.”
^ Neu “yn aberth cymod dros.”
^ Neu “a brolio am eiddo.”
^ Neu “doedden nhw ddim yn perthyn inni.”