Cyntaf Samuel 2:1-36
2 Yna gweddïodd Hanna:
“Mae fy nghalon i’n llawen oherwydd Jehofa;Rhoddodd Jehofa nerth imi.*
Rydw i’n agor fy ngheg yn llydan yn erbyn fy ngelynion,Oherwydd rydw i wrth fy modd gyda dy achubiaeth di.
2 Does neb yn sanctaidd fel rwyt ti, Jehofa,Does neb fel ti,A does ’na ddim craig fel ein Duw.
3 Stopiwch frolio;Stopiwch siarad yn hy,Oherwydd mae Jehofa yn Dduw sy’n gwybod popeth,Mae’n barnu gweithredoedd pobl yn deg.
4 Mae’n malu bwâu dynion cryf,Ond mae’n rhoi nerth i’r rhai sy’n baglu.
5 Mae’r rhai sydd wedi arfer â digonedd yn gorfod gweithio am fara,Ond dydy’r rhai oedd yn llwgu ddim yn llwgu bellach.
Mae’r ddynes* ddi-blant wedi geni saith plentyn,Ond mae’r ddynes* a gafodd lawer o feibion bellach yn unig.*
6 Mae Jehofa yn lladd, ac mae’n achub bywydau;*Mae’n gallu anfon rhywun i’r Bedd,* a’i godi unwaith eto.
7 Mae Jehofa yn gallu gwneud rhywun yn dlawd, neu’n gyfoethog;Mae’n gallu tynnu rhai i lawr, a dyrchafu eraill.
8 Mae’n codi’r rhai o dras isel o’r llwch;Mae’n codi’r tlawd o’r domen ludw,*Ac yn eu rhoi nhw i eistedd gyda thywysogion,Gan roi sedd anrhydedd iddyn nhw.
Mae sylfeini’r ddaear yn nwylo Jehofa,Ac mae’n gosod y byd arnyn nhw.
9 Mae’n amddiffyn camau y rhai sy’n ffyddlon iddo,Ond bydd yn cau cegau’r drygionus mewn tywyllwch,Oherwydd nid drwy ei nerth ei hun mae dyn yn llwyddo.
10 Bydd Jehofa yn dinistrio’r rhai sy’n brwydro yn ei erbyn;*Bydd yn taranu yn eu herbyn nhw o’r nefoedd.
Bydd Jehofa yn barnu hyd at ben draw’r byd,Bydd yn rhoi grym i’w freninAc yn rhoi nerth i’w un eneiniog.”*
11 Yna aeth Elcana i’w dŷ yn Rama, ond arhosodd y bachgen gydag Eli a dechreuodd wasanaethu Jehofa.
12 Nawr roedd meibion Eli yn ddynion drwg a oedd yn dda i ddim; doedd ganddyn nhw ddim parch tuag at Jehofa.
13 Yn hytrach na chymryd yr hyn roedd ganddyn nhw’r hawl iddo, dyma beth roedden nhw’n ei wneud ag aberthau’r bobl: Bryd bynnag roedd rhywun yn cyflwyno aberth, byddai un o weision yr offeiriad yn dod â fforch fawr* yn ei law tra oedd y cig yn berwi,
14 ac yn ei phlymio i mewn i’r basn, y sosban, y crochan, neu ryw lestr coginio arall. Beth bynnag roedd yn cael ei godi ar y fforch, dyna byddai’r offeiriad yn ei gymryd iddo’i hun. Dyna beth roedden nhw’n ei wneud yn Seilo, i’r holl Israeliaid oedd yn mynd yno.
15 Hefyd, cyn i fwg godi oddi ar fraster yr aberth oedd yn cael ei losgi, byddai un o weision yr offeiriad yn dod ac yn dweud wrth y dyn oedd wedi dod â’r aberth: “Rho gig i’r offeiriad ei rostio. Fydd ef ddim yn derbyn cig wedi ei ferwi oddi wrthot ti, dim ond cig amrwd.”
16 Pan fyddai’r dyn yn dweud wrtho: “Gad i fwg godi oddi ar y braster yn gyntaf, yna cei di gymryd beth bynnag rwyt ti eisiau,”* byddai’n dweud: “Na, rho’r cig imi nawr; neu fel arall, bydda i’n defnyddio grym i’w gymryd!”
17 Roedd y gweision* yn pechu’n ddifrifol yng ngolwg Jehofa, oherwydd roedden nhw’n amharchu trefniant Jehofa ar gyfer aberthu.
18 Nawr roedd Samuel yn gwasanaethu Jehofa, gan wisgo effod liain, er mai dim ond bachgen oedd ef.
19 Hefyd, byddai ei fam yn gwnïo côt fach iddo heb lewys, a dyna roedd hi’n ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn pan oedd hi’n dod i fyny gyda’i gŵr i gynnig yr aberth blynyddol.
20 A bendithiodd Eli Elcana a’i wraig a dweud: “Gad i Jehofa roi plentyn iti drwy’r wraig hon yn lle’r un a gafodd ei fenthyg i Jehofa.” Ac aethon nhw yn ôl adref.
21 Trodd Jehofa ei sylw at Hanna, er mwyn iddi allu beichiogi; a chafodd hi dri mab arall a dwy ferch. A pharhaodd y bachgen Samuel i dyfu i fyny o flaen Jehofa.
22 Nawr roedd Eli mewn oed, ond roedd ef wedi clywed am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i Israel gyfan, ac am y ffaith eu bod nhw’n cysgu gyda’r merched* a oedd yn gwasanaethu wrth fynedfa pabell y cyfarfod.
23 Roedd yn arfer dweud wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n parhau i wneud pethau fel hyn? Rydw i ond yn clywed pethau drwg amdanoch chi gan y bobl i gyd.
24 Na, fy meibion, dydy beth rydw i’n ei glywed ymysg pobl Jehofa ddim yn dda.
25 Os ydy dyn yn pechu yn erbyn dyn arall, gall rhywun apelio ar Jehofa drosto; ond os ydy dyn yn pechu yn erbyn Jehofa, pwy all weddïo drosto?” Ond gwnaethon nhw wrthod gwrando ar eu tad, am fod Jehofa wedi penderfynu eu lladd nhw.
26 Yn y cyfamser, roedd y bachgen Samuel yn dal i dyfu ac yn dal i ennill ffafr gyda Jehofa a’r bobl.
27 Daeth un o weision Duw at Eli a dweud wrtho: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: ‘Oni wnes i ddatgelu’n glir pwy ydw i i deulu dy dad pan oedden nhw yn yr Aifft fel caethweision i dŷ Pharo?
28 Cafodd dy gyndad ei ddewis allan o holl lwythau Israel i wasanaethu fel offeiriad imi ac i fynd i fyny at fy allor i wneud aberthau, i losgi arogldarth, ac i wisgo effod o fy mlaen i; a gwnes i roi’r holl aberthau roedd yr Israeliaid yn eu llosgi imi i dŷ dy gyndad.
29 Pam rydych chi ddynion yn dirmygu’r trefniant aberthu rydw i wedi ei orchymyn yn fy nhŷ? Pam rwyt ti’n parhau i anrhydeddu dy feibion yn fwy na fi, drwy lenwi eich boliau â’r rhannau gorau o bob aberth sy’n dod oddi wrth fy mhobl Israel?
30 “‘Dyna pam mae Jehofa, Duw Israel, yn dweud: “Do, fe wnes i ddweud y byddai dy dŷ di a thŷ dy dad yn wastad yn cerdded o fy mlaen i.” Ond nawr mae Jehofa yn dweud: “Alla i ddim hyd yn oed meddwl am wneud hynny bellach, oherwydd bydda i’n anrhydeddu’r rhai sy’n fy anrhydeddu i, ond bydda i’n dirmygu’r rhai sy’n fy nirmygu i.”
31 Edrycha! Mae dyddiau yn dod pan fydda i’n torri dy nerth di i ffwrdd yn ogystal â nerth tŷ dy dad, fel bydd pob dyn yn dy dŷ yn marw cyn iddo fynd yn hen.
32 A byddwch chi’n gweld gelyn yn fy nhŷ tra fy mod i’n gwneud i Israel lwyddo, a fydd neb yn dy deulu byth eto yn byw i fod yn hen.
33 Mae ’na ddyn yn dy deulu fydda i ddim yn ei dorri i ffwrdd o wasanaethu wrth fy allor, ac o’i herwydd ef bydd dy lygaid yn methu a bydd ef yn dod â galar arnat ti, ond bydd gweddill dy ddisgynyddion yn cael eu lladd â’r cleddyf.
34 A bydd marwolaeth dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn arwydd iti: Bydd y ddau ohonyn nhw yn marw ar yr un diwrnod.
35 Yna bydda i’n codi offeiriad ffyddlon i fi fy hun. Bydd ef yn gweithredu yn unol â dymuniad fy nghalon; a bydda i’n adeiladu tŷ iddo a fydd yn para am byth, a bydd ef yn wastad yn cerdded o flaen fy un eneiniog.
36 Bydd pwy bynnag sydd ar ôl yn dy dŷ yn dod ac yn ymgrymu iddo ac yn erfyn am waith fel ei fod yn gallu cael ychydig o arian a thorth o fara, a bydd yn dweud: “Plîs gwna fi yn offeiriad, er mwyn imi gael bwyta darn o fara.”’”
Troednodiadau
^ Llyth., “Mae fy nghorn wedi cael ei ddyrchafu gan Jehofa.”
^ Neu “Mae’r fenyw.”
^ Neu “mae’r fenyw.”
^ Llyth., “wedi gwywo.”
^ Neu “mae’n rhoi bywyd.”
^ Neu efallai, “o’r domen sbwriel.”
^ Neu efallai, “Bydd y rhai sy’n cystadlu yn erbyn Jehofa yn dychryn.”
^ Llyth., “Ac yn dyrchafu corn ei un eneiniog.”
^ Neu “fforch a thair pig iddi.”
^ Neu “rwyt ti’n dyheu amdano.”
^ Neu “dynion ifanc.”
^ Neu “menywod.”