Cyntaf Samuel 20:1-42

  • Ffyddlondeb Jonathan tuag at Dafydd (1-42)

20  Yna rhedodd Dafydd i ffwrdd o Naioth yn Rama. Ond daeth at Jonathan a dweud: “Beth rydw i wedi ei wneud? Pa drosedd rydw i wedi ei gyflawni, a sut rydw i wedi pechu yn erbyn dy dad i wneud iddo geisio fy lladd i?”* 2  I hynny dywedodd Jonathan wrtho: “Amhosib! Fydd neb yn dy ladd di. Edrycha! Fydd fy nhad ddim yn gwneud unrhyw beth, mawr neu fach, heb sôn wrtho i amdano. Pam byddai fy nhad yn cuddio’r mater hwn oddi wrtho i? Fydd hyn ddim yn digwydd.” 3  Ond ychwanegodd Dafydd: “Mae dy dad yn gwybod dy fod ti’n hoff ohono i, ac efallai ei fod wedi dweud wrtho’i hun, ‘Paid â gadael i Jonathan wybod hyn neu bydd yn cynhyrfu.’ Ond mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, ac mor sicr â’r ffaith dy fod ti’n fyw, does ond un cam rhyngddo i a marwolaeth!” 4  Yna dywedodd Jonathan wrth Dafydd: “Beth bynnag rwyt ti’n ei ddweud, bydda i’n gwneud hynny drostot ti.” 5  Dywedodd Dafydd wrth Jonathan: “Yfory bydd gŵyl y lleuad newydd, ac mae disgwyl imi eistedd gyda’r brenin i fwyta; rhaid iti fy anfon i ffwrdd, a gwna i guddio yn y cae nes iddi nosi ar y trydydd diwrnod. 6  Os bydd dy dad yn fy ngholli i o gwbl, yna dyweda, ‘Gwnaeth Dafydd erfyn arna i am ganiatâd i fynd i ddinas Bethlehem ar unwaith, oherwydd mae ’na aberth blynyddol yno ar gyfer y teulu.’ 7  Os bydd yn ateb, ‘Popeth yn iawn,’ bydd hynny’n golygu heddwch i dy was. Ond os bydd yn digio, gelli di fod yn siŵr ei fod yn benderfynol o wneud niwed imi. 8  Dangosa gariad ffyddlon tuag at dy was, oherwydd rwyt ti wedi gwneud cyfamod â dy was o flaen Jehofa. Ond os ydw i’n euog, lladd fi dy hun. Pam fy rhoi i drosodd i dy dad?” 9  I hynny dywedodd Jonathan: “Paid â hyd yn oed dweud y fath beth! Petaswn i’n dysgu bod fy nhad yn benderfynol o wneud niwed iti, oni fyddwn i’n dweud wrthot ti?” 10  Yna dywedodd Dafydd wrth Jonathan: “Pwy fydd yn dweud wrtho i os ydy dy dad wedi gwylltio â mi?” 11  Dywedodd Jonathan wrth Dafydd: “Tyrd, gad inni fynd allan i’r cae.” Felly aeth y ddau ohonyn nhw allan i’r cae. 12  A dywedodd Jonathan wrth Dafydd: “Gad i Jehofa, Duw Israel, fod yn dyst y bydda i wedi holi fy nhad erbyn yfory neu’r diwrnod wedyn. Os bydd ganddo agwedd dda tuag atat ti, Dafydd, oni fyddwn i’n anfon neges atat ti ac yn rhoi gwybod iti? 13  Ond os ydy fy nhad yn bwriadu gwneud niwed iti, gad i Jehofa fy nghosbi i’n llym os nad ydw i’n rhoi gwybod iti amdano ac yn dy anfon di i ffwrdd mewn heddwch. Gad i Jehofa fod gyda ti, fel roedd ef gyda fy nhad. 14  A dangosa gariad ffyddlon Jehofa tuag ata i tra fy mod i’n fyw a hyd yn oed pan fydda i’n marw. 15  Paid byth â thynnu dy gariad ffyddlon i ffwrdd oddi wrth fy nheulu, hyd yn oed pan fydd Jehofa yn cael gwared ar holl elynion Dafydd oddi ar wyneb y ddaear.” 16  Felly gwnaeth Jonathan gyfamod â thŷ Dafydd gan ddweud, “Bydd Jehofa yn galw gelynion Dafydd i gyfri.” 17  Dyma Jonathan yn gwneud i Dafydd dyngu llw ar sail ei gariad tuag ato, oherwydd roedd yn ei garu ef fel roedd yn ei garu ei hun.* 18  Yna dywedodd Jonathan wrtho: “Yfory bydd gŵyl y lleuad newydd, a byddan nhw’n edrych amdanat ti, oherwydd bydd dy sedd yn wag. 19  Erbyn y trydydd diwrnod byddan nhw’n bendant yn gofyn amdanat ti, a dylet ti fynd i’r fan lle gwnest ti guddio y diwrnod o’r blaen ac aros yn agos at y garreg yma. 20  Yna gwna i saethu tair saeth i un ochr ohoni, fel petaswn i’n saethu at darged. 21  Pan fydda i’n anfon y gwas, gwna i ddweud, ‘Dos i chwilio am y saethau.’ Os bydda i’n dweud wrth y gwas, ‘Edrycha! Mae’r saethau wrth dy ymyl, dos i’w nôl nhw,’ yna cei di ddod yn ôl, oherwydd mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, mae’n golygu bod popeth yn heddychlon a does ’na ddim peryg. 22  Ond os bydda i’n dweud wrth y bachgen, ‘Edrycha! Mae’r saethau wedi mynd heibio iti,’ yna dos, oherwydd mae Jehofa wedi dy anfon di i ffwrdd. 23  Ynglŷn â’r addewid gwnaethon ni, ti a fi, gad i Jehofa fod rhyngon ni am byth.” 24  Felly, cuddiodd Dafydd yn y cae. Pan ddaeth y lleuad newydd, eisteddodd y brenin wrth y bwrdd i fwyta. 25  Roedd yn eistedd yn ei sedd arferol wrth y wal. Roedd Jonathan yn ei wynebu, ac roedd Abner yn eistedd wrth ymyl Saul, ond roedd sedd Dafydd yn wag. 26  Ddywedodd Saul ddim byd y diwrnod hwnnw, oherwydd dywedodd wrtho’i hun: ‘Mae’n rhaid bod rhywbeth wedi digwydd i’w wneud yn aflan. Ie, mae’n rhaid nad yw’n lân.’ 27  Ar y diwrnod ar ôl y lleuad newydd, ar yr ail ddiwrnod, roedd sedd Dafydd yn dal yn wag. Felly dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab: “Pam dydy mab Jesse ddim wedi dod i fwyta ddoe na heddiw?” 28  Atebodd Jonathan: “Erfyniodd Dafydd arna i am ganiatâd i fynd i Fethlehem. 29  Dywedodd, ‘Plîs gad imi fynd oherwydd mae gynnon ni aberth teuluol yn y ddinas, ac mae fy mrawd fy hun wedi fy ngalw i. Felly os ydw i wedi dy blesio di, plîs gad imi fynd i weld fy mrodyr.’ Dyna pam dydy ef ddim wedi dod at fwrdd y brenin.” 30  Yna gwylltiodd Saul yn lân â Jonathan, a dywedodd wrtho: “Y bachgen pengaled!* A wyt ti’n meddwl fy mod i heb sylwi dy fod ti wedi dewis ochri gyda mab Jesse? Bydd hyn yn dod â chywilydd arnat ti a dy fam. 31  Tra bydd mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni fyddi di na dy frenhiniaeth yn cael eu sefydlu’n gadarn. Nawr anfona rywun i ddod ag ef ata i oherwydd mae’n rhaid iddo farw.” 32  Ond dywedodd Jonathan wrth ei dad Saul: “Pam dylai ef gael ei ladd? Beth mae ef wedi ei wneud?” 33  Gyda hynny, hyrddiodd Saul y waywffon ato er mwyn ceisio ei ladd, felly roedd Jonathan yn gwybod bod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd. 34  Ar unwaith cododd Jonathan o’r bwrdd yn ei dymer, a wnaeth ef ddim bwyta unrhyw fwyd ar yr ail ddiwrnod ar ôl y lleuad newydd, oherwydd roedd yn drist dros Dafydd gan fod ei dad ei hun wedi ei sarhau. 35  Yn y bore, aeth Jonathan allan i’r cae i gyfarfod Dafydd, ac roedd gwas ifanc gydag ef. 36  Dywedodd wrth ei was: “Plîs rheda a chwilio am y saethau rydw i am eu saethu.” Rhedodd y gwas a saethodd Jonathan y saeth fel ei bod yn mynd heibio’r gwas. 37  Pan gyrhaeddodd y gwas y fan lle roedd Jonathan wedi saethu’r saeth, galwodd Jonathan ar y gwas: “Onid ydy’r saeth wedi mynd heibio iti?” 38  Galwodd Jonathan ar ei was: “Brysia! Dos yn gyflym! Paid ag oedi!” A chasglodd gwas Jonathan y saethau a dod yn ôl at ei feistr. 39  Doedd y gwas ddim callach; dim ond Dafydd a Jonathan oedd yn gwybod beth roedd hyn yn ei olygu. 40  Yna rhoddodd Jonathan ei arfau i’w was a dweud wrtho: “Dos â nhw i’r ddinas.” 41  Pan wnaeth y gwas adael, cododd Dafydd o’r fan gerllaw lle roedd wedi bod yn cuddio. Yna syrthiodd â’i wyneb ar y llawr ac ymgrymu dair gwaith, a gwnaethon nhw gusanu ei gilydd ac wylo dros ei gilydd, ond Dafydd oedd yn wylo fwyaf. 42  Dywedodd Jonathan wrth Dafydd: “Dos mewn heddwch, gan ein bod ni’n dau wedi tyngu llw yn enw Jehofa gan ddweud, ‘Gad i Jehofa fod rhyngot ti a fi a rhwng dy ddisgynyddion* di a fy nisgynyddion* i am byth.’” Yna cododd Dafydd a gadael, ac aeth Jonathan yn ôl i’r ddinas.

Troednodiadau

Neu “fy enaid i.”
Neu “fel roedd yn caru ei enaid ei hun.”
Neu “Ti fab dynes afreolus!”; roedd hyn yn sarhad yn erbyn Jonathan.
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”