Cyntaf Samuel 22:1-23
22 Felly aeth Dafydd o fan ’na, gan ddianc i ogof Adulam. Pan glywodd ei frodyr a theulu cyfan ei dad am y peth, aethon nhw i lawr yno ato.
2 A daeth pawb a oedd mewn helynt ac mewn dyled, ac a oedd yn teimlo’n chwerw am eu bywydau ato ef, a daeth yn bennaeth arnyn nhw. Roedd ’na tua 400 o ddynion gydag ef.
3 Yn nes ymlaen, aeth Dafydd o fan ’na i Mispe ym Moab a dywedodd wrth frenin Moab: “Plîs gad i fy nhad a fy mam aros gyda ti nes imi wybod beth bydd Duw yn ei wneud drosto i.”
4 Felly gwnaeth ef eu gadael nhw yno gyda brenin Moab, ac arhoson nhw gydag ef yr holl amser roedd Dafydd yn y lloches.
5 Ymhen amser dywedodd Gad y proffwyd wrth Dafydd: “Paid ag aros yn y lloches. Dos o fan ’na i mewn i wlad Jwda.” Felly gadawodd Dafydd a mynd i mewn i goedwig Hereth.
6 Clywodd Saul fod rhywun wedi gweld Dafydd a’i ddynion. Ar y pryd, roedd Saul yn eistedd yn Gibea o dan y goeden tamarisg yn yr uchelfan gyda’i waywffon yn ei law, ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o’i amgylch.
7 Yna dywedodd Saul wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch: “Gwrandewch plîs, chi bobl Benjamin. A fydd mab Jesse hefyd yn rhoi caeau a gwinllannoedd i chi i gyd? A fydd ef yn eich penodi chi yn benaethiaid ar filoedd ac yn benaethiaid ar gannoedd?
8 Rydych chi i gyd wedi cynllwynio yn fy erbyn i! Wnaeth neb roi gwybod imi pan wnaeth fy mab fy hun gyfamod gyda mab Jesse! Does dim un ohonoch chi yn poeni amdana i nac wedi rhoi gwybod imi fod fy mab fy hun wedi annog fy ngwas i gynllwynio yn fy erbyn i fel sy’n digwydd nawr.”
9 Yna atebodd Doeg yr Edomiad, a oedd ag awdurdod dros weision Saul: “Gwelais i fab Jesse yn dod at Ahimelech fab Ahitub yn Nob.
10 A gofynnodd ef i Jehofa am arweiniad ar ei ran, a rhoddodd fwyd iddo. Gwnaeth ef hyd yn oed roi cleddyf Goliath y Philistiad iddo.”
11 Ar unwaith anfonodd y brenin am Ahimelech, mab Ahitub yr offeiriad, ac am holl offeiriaid tŷ ei dad a oedd yn Nob. Felly daethon nhw i gyd at y brenin.
12 Nawr dywedodd Saul: “Gwranda, plîs, ti fab Ahitub!” ac atebodd yntau: “Dyma fi, fy arglwydd.”
13 Dywedodd Saul wrtho: “Pam rwyt ti wedi cynllwynio yn fy erbyn i, ti a mab Jesse, drwy roi bara a chleddyf iddo a thrwy ofyn am arweiniad Duw ar ei ran? Mae’n fy ngwrthwynebu i ac mae ef nawr yn cuddio yn disgwyl i ymosod arna i.”
14 Gyda hynny, atebodd Ahimelech: “Pwy ymhlith dy weision i gyd sydd mor ddibynadwy â Dafydd? Ef ydy mab-yng-nghyfraith y brenin, mae’n bennaeth ar dy warchodwr, ac mae pawb yn dy dŷ yn ei barchu.
15 Ai heddiw oedd y tro cyntaf imi ofyn am arweiniad Duw ar ei ran? Dydy beth rwyt ti’n ei ddweud ddim yn werth meddwl amdano! Paid â gadael i’r brenin ddal dig yn erbyn ei was nac yn erbyn teulu cyfan fy nhad, oherwydd doedd dy was ddim yn gwybod unrhyw beth am hyn i gyd.”
16 Ond dywedodd y brenin: “Byddi di’n siŵr o farw, Ahimelech, ti a holl deulu dy dad.”
17 Gyda hynny dywedodd y brenin wrth y gwarchodwyr oedd yn sefyll o’i amgylch: “Ewch a lladdwch offeiriaid Jehofa, oherwydd maen nhw wedi ochri gyda Dafydd! Roedden nhw’n gwybod ei fod yn ffoi oddi wrtho i ond wnaethon nhw ddim rhoi gwybod imi!” Ond doedd gweision y brenin ddim eisiau ymosod ar offeiriaid Jehofa.
18 Yna dywedodd y brenin wrth Doeg: “Dos di i ymosod ar yr offeiriaid!” Ar unwaith aeth Doeg yr Edomiad ac ymosod ar yr offeiriaid. Ar y diwrnod hwnnw, lladdodd 85 o ddynion oedd yn gwisgo’r effod liain.
19 Gwnaeth ef hefyd daro Nob, dinas yr offeiriaid, â’r cleddyf; ymosododd ar ddynion a merched,* plant a babanod, teirw, asynnod, a defaid.
20 Ond gwnaeth Abiathar, un o feibion Ahimelech fab Ahitub, ddianc a rhedeg i ffwrdd i ddilyn Dafydd.
21 Dywedodd Abiathar wrth Dafydd: “Mae Saul wedi lladd offeiriaid Jehofa.”
22 Gyda hynny dywedodd Dafydd wrth Abiathar: “Roeddwn i’n gwybod ar y diwrnod hwnnw pan welais i Doeg yr Edomiad, y byddai ef yn siŵr o ddweud wrth Saul. Fi sy’n gyfrifol am farwolaeth pawb yn nhŷ dy dad.
23 Arhosa gyda fi. Paid ag ofni, oherwydd mae pwy bynnag sy’n ceisio dy ladd di* yn ceisio fy lladd i;* byddi di’n ddiogel gyda mi.”