Cyntaf Samuel 26:1-25
26 Ymhen amser daeth dynion Siff at Saul yn Gibea, gan ddweud: “Onid ydy Dafydd yn cuddio ar fryn Hachila sy’n wynebu Jesimon?”*
2 Felly cododd Saul a mynd i lawr i anialwch Siff gyda 3,000 o ddynion medrus Israel i chwilio am Dafydd yn anialwch Siff.
3 Gwersyllodd Saul wrth ymyl y ffordd ar fryn Hachila sy’n wynebu Jesimon. Ar y pryd, roedd Dafydd yn byw yn yr anialwch, a dysgodd fod Saul wedi dod i mewn i’r anialwch ar ei ôl.
4 Felly anfonodd Dafydd ysbïwyr i gadarnhau bod Saul wedi gwneud hynny.
5 Yn nes ymlaen aeth Dafydd i’r fan lle roedd Saul yn gwersylla, a gwelodd Dafydd lle roedd Saul ac Abner fab Ner, pennaeth ei fyddin, yn cysgu; roedd Saul yn cysgu ynghanol y gwersyll gyda’r milwyr yn gwersylla o’i amgylch.
6 Yna dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr Hethiad ac Abisai fab Seruia, brawd Joab: “Pwy fydd yn dod i lawr gyda mi i mewn i wersyll Saul?” Atebodd Abisai: “Gwna i ddod i lawr gyda ti.”
7 Felly aeth Dafydd ac Abisai i mewn i wersyll Saul yn ystod y nos, a daethon nhw o hyd i Saul yn cysgu ynghanol y gwersyll gyda’i waywffon wedi ei gwthio i mewn i’r ddaear wrth ymyl ei ben; roedd Abner a’r milwyr yn gorwedd o’i amgylch.
8 Yna dywedodd Abisai wrth Dafydd: “Heddiw mae Duw wedi rhoi dy elyn yn dy law. Ac nawr, plîs, gad imi ei hoelio i’r ddaear gyda’r waywffon. Un ergyd fydd ei hangen, fydd ddim rhaid imi ei daro eto.”
9 Ond dywedodd Dafydd wrth Abisai: “Paid â gwneud niwed iddo, oherwydd pwy sy’n gallu codi ei law yn erbyn un eneiniog Jehofa heb fod yn euog?”
10 Ychwanegodd Dafydd: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, bydd Jehofa ei hun yn ei daro i lawr, neu bydd ei amser yn dod a bydd yn marw, neu bydd yn mynd i mewn i frwydr ac yn marw.
11 O ystyried safbwynt Jehofa, alla i ddim hyd yn oed meddwl am godi fy llaw yn erbyn un eneiniog Jehofa! Felly nawr, plîs, cymera’r waywffon sydd wrth ymyl ei ben a’r jwg ddŵr, a gad inni fynd ar ein ffordd.”
12 Felly cymerodd Dafydd y waywffon a’r jwg ddŵr a oedd wrth ymyl pen Saul, ac aethon nhw i ffwrdd. Wnaeth neb eu gweld nhw na sylwi eu bod nhw yno na deffro, am eu bod nhw i gyd yn cysgu. Roedd Jehofa wedi gwneud iddyn nhw i gyd gysgu’n drwm.
13 Yna croesodd Dafydd drosodd i’r ochr arall a sefyll ar ben y mynydd gan adael cryn dipyn o bellter rhyngddyn nhw.
14 Gwaeddodd Dafydd ar y milwyr ac ar Abner fab Ner, gan ddweud: “Abner, elli di fy nghlywed i?” Atebodd Abner: “Pwy sy’n meiddio gweiddi ar y brenin?”
15 Dywedodd Dafydd wrth Abner: “Onid wyt ti’n ddyn dewr? A phwy sy’n debyg i ti yn Israel? Felly pam na wnest ti gadw llygad ar dy arglwydd y brenin? Achos daeth un o’r milwyr i mewn i’r gwersyll i ladd dy arglwydd y brenin.
16 Dwyt ti ddim wedi gwneud dy ddyletswydd. Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, rwyt ti’n haeddu marw oherwydd dwyt ti ddim wedi cadw llygad ar dy arglwydd, un eneiniog Jehofa. Nawr edrycha o gwmpas! Ble mae gwaywffon y brenin a’r jwg ddŵr oedd wrth ymyl ei ben?”
17 Yna gwnaeth Saul adnabod llais Dafydd a dywedodd: “Ai dy lais di rydw i’n ei glywed, fy mab Dafydd?” Atebodd Dafydd: “Ie, fi sy’n siarad, fy arglwydd y brenin.”
18 Ychwanegodd: “Pam mae fy arglwydd yn mynd ar ôl ei was? Beth rydw i wedi ei wneud? Pa drosedd rydw i wedi ei gyflawni?
19 Fy arglwydd y brenin, plîs, gwranda ar eiriau dy was: Os mai Jehofa sydd wedi dy droi di yn fy erbyn i, gad iddo dderbyn fy offrwm grawn. Ond os mai dynion sy’n dy annog di, maen nhw wedi eu melltithio o flaen Jehofa, oherwydd maen nhw wedi fy ngyrru i ffwrdd heddiw fel na alla i gael rhan yn etifeddiaeth Jehofa, gan ddweud, ‘Dos i wasanaethu duwiau eraill!’
20 Ac nawr, paid â gadael i fy ngwaed ddisgyn i’r ddaear yn bell oddi wrth bresenoldeb Jehofa. Mae brenin Israel wedi mynd allan i edrych am un chwannen fach fel petai’n mynd ar ôl petrisen ar y mynyddoedd.”
21 Yna dywedodd Saul: “Rydw i wedi pechu. Tyrd yn ôl, fy mab Dafydd, wna i ddim gwneud unrhyw niwed pellach iti, oherwydd rwyt ti wedi ystyried fy mywyd yn werthfawr heddiw. Do, rydw i wedi ymddwyn yn ffôl ac wedi gwneud camgymeriad ofnadwy.”
22 Atebodd Dafydd: “Dyma waywffon y brenin. Gad i un o’r dynion ifanc ddod draw a’i chymryd.
23 Jehofa fydd yn talu yn ôl i bob un am ei gyfiawnder a’i ffyddlondeb ei hun, oherwydd heddiw mae Jehofa wedi dy roi di yn fy llaw, ond doeddwn i ddim yn fodlon codi fy llaw yn erbyn un eneiniog Jehofa.
24 Edrycha! Yn union fel roedd dy fywyd* di yn werthfawr i mi heddiw, felly hefyd gad i fy mywyd* i fod yn werthfawr yng ngolwg Jehofa, a gad iddo fy achub i o bob helynt.”
25 Atebodd Saul: “Bendith arnat ti, fy mab Dafydd. Byddi di’n siŵr o wneud pethau mawr, ac yn bendant yn llwyddo.” Yna aeth Dafydd ar ei ffordd ac aeth Saul yn ôl adref.