Yr Ail at y Corinthiaid 3:1-18
3 A ydyn ni’n dechrau ein cymeradwyo ein hunain unwaith eto? Neu a oes arnon ni angen llythyrau cymeradwyaeth atoch chi neu oddi wrthoch chi, fel sydd ar rai dynion?
2 Chi’ch hunain ydy ein llythyr ni, wedi ei ysgrifennu ar ein calonnau ac yn cael ei adnabod a’i ddarllen gan holl ddynolryw.
3 Oherwydd mae’n amlwg mai llythyr Crist ydych chi, wedi ei ysgrifennu gynnon ni fel gweinidogion, wedi ei ysgrifennu nid ag inc ond ag ysbryd y Duw byw, nid ar lechau cerrig ond ar lechau cnawdol, ar galonnau.
4 Mae gynnon ni’r math hwn o hyder tuag at Dduw drwy’r Crist.
5 Dydyn ni ddim yn dweud ein bod ni’n ddigon cymwys i ystyried bod unrhyw beth yn dod ohonon ni, ond Duw sydd wedi ein gwneud ni’n ddigon cymwys,
6 ac ef yn wir sydd wedi ein gwneud ni’n ddigon cymwys i fod yn weinidogion i gyfamod newydd, nid i gyfraith ysgrifenedig, ond i’r ysbryd; oherwydd mae’r gyfraith ysgrifenedig yn condemnio i farwolaeth, ond mae’r ysbryd yn rhoi bywyd.
7 Nawr, os ydy’r Gyfraith sy’n dedfrydu i farwolaeth, ac a gafodd ei hargraffu mewn llythrennau ar gerrig, wedi dod mewn cymaint o ogoniant fel na allai meibion Israel syllu ar wyneb Moses oherwydd gogoniant ei wyneb, gogoniant a oedd am gael ei ddileu,
8 pam na ddylai’r ffordd mae’r ysbryd yn cael ei roi fod mewn gogoniant mwy byth?
9 Oherwydd os oedd y Gyfraith sy’n condemnio yn ogoneddus, gymaint yn fwy gogoneddus ydy’r gwaith sy’n arwain i gyfiawnder!
10 Yn wir, mae hyd yn oed yr hyn a gafodd ei wneud yn ogoneddus ar un adeg wedi colli ei ogoniant oherwydd y gogoniant sy’n rhagori arno.
11 Oherwydd os mewn gogoniant y cyflwynwyd yr hyn a oedd am gael ei ddileu, gymaint yn fwy ydy gogoniant yr hyn sy’n aros!
12 Gan fod gynnon ni obaith o’r fath, rydyn ni’n siarad yn gwbl agored,
13 ac nid yn gwneud fel yr oedd Moses pan fyddai’n rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag ofn i feibion Israel syllu’n graff ar ddiwedd yr hyn a oedd am gael ei ddileu.
14 Ond roedd eu meddyliau wedi pylu. Oherwydd hyd y dydd hwn, mae’r un gorchudd yn aros heb ei godi pan fydd yr hen gyfamod yn cael ei ddarllen, oherwydd mae’n cael ei dynnu i ffwrdd dim ond trwy Grist.
15 Yn wir, hyd y dydd hwn, bryd bynnag y mae Moses yn cael ei ddarllen, mae gorchudd yn gorwedd ar eu calonnau.
16 Ond pan fydd rhywun yn troi at Jehofa,* mae’r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.
17 Nawr Jehofa ydy’r Ysbryd, a lle mae ysbryd Jehofa, mae rhyddid.
18 Ac rydyn ni i gyd, heb orchudd ar ein hwynebau, yn adlewyrchu fel drych ogoniant Jehofa. Rydyn ni’n cael ein trawsffurfio i fod yn debyg i Dduw ac i adlewyrchu gogoniant Duw yn fwy ac yn fwy, yn union fel mae Jehofa yr Ysbryd yn dymuno.