Yr Ail at y Corinthiaid 8:1-24

  • Casgliad ar gyfer Cristnogion Jwdea (1-15)

  • Titus am gael ei anfon i Gorinth (16-24)

8  Nawr rydyn ni eisiau ichi wybod, frodyr, am garedigrwydd rhyfeddol Duw sydd wedi cael ei roi i’r cynulleidfaoedd ym Macedonia. 2  Yn ystod prawf llym pan oedden nhw’n wynebu treialon, roedd eu llawenydd mawr a’u tlodi dwfn yn gwneud i gyfoeth eu haelioni orlifo. 3  Oherwydd roedden nhw’n rhoi yn ôl yr hyn oedd ganddyn nhw, yn wir, rydw i’n tystio iddyn nhw roi hyd yn oed y tu hwnt i’r hyn oedd ganddyn nhw, 4  tra oedden nhw, o’u gwirfodd, yn dal i ymbil yn daer arnon ni am y fraint o gyfrannu’n garedig, am fedru cymryd rhan yn y weinidogaeth gymorth i’r rhai sanctaidd. 5  Ac nid yn unig fel roedden ni’n gobeithio, ond yn gyntaf, fe wnaethon nhw eu rhoi eu hunain i’r Arglwydd ac i ninnau drwy ewyllys Duw. 6  Felly rydyn ni wedi annog Titus y dylai ef hefyd orffen casglu eich cyfraniadau caredig, gan ei fod wedi dechrau ar y gwaith hwn yn barod. 7  Er hynny, yn union fel rydych chi’n gorlifo ym mhob peth, mewn ffydd a gair a gwybodaeth a phob ymdrech ac yn ein cariad tuag atoch chi, daliwch ati hefyd yn eich ymdrechion i fod yn hael. 8  Rydw i’n dweud hyn, nid i’ch gorchymyn chi, ond i’ch gwneud chi’n ymwybodol o ymdrechion pobl eraill ac i brofi pa mor ddiffuant ydy eich cariad. 9  Oherwydd rydych chi’n gwybod am garedigrwydd rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist, ei fod yn gyfoethog, ond eto wedi mynd yn dlawd er eich mwyn chi, fel y gallwch chi ddod yn gyfoethog drwy ei dlodi ef. 10  Ac yn hyn o beth rydw i’n rhoi fy marn: Er eich lles chi mae hyn, gan eich bod chi, nid yn unig wedi cychwyn ar y gwaith casglu hwn flwyddyn yn ôl, ond hefyd wedi dangos eich awydd i wneud hynny. 11  Felly nawr, gorffennwch hefyd yr hyn rydych chi wedi ei gychwyn, fel y gall eich awydd i weithredu gael ei gwblhau yn ôl yr hyn sydd ar gael ichi. 12  Oherwydd os ydy’r awydd yno’n gyntaf, mae’n dderbyniol iawn gan Dduw i rywun roi yn ôl yr hyn sydd ganddo, nid yn ôl yr hyn nad oes ganddo. 13  Oherwydd dydw i ddim eisiau ei gwneud hi’n hawdd i eraill, ond yn anodd i chi; 14  ond drwy’r hyn sydd gynnoch chi dros ben, gallwch chi gwrdd â’u hangen nhw, a thrwy’r hyn sydd ganddyn nhw dros ben, gallan nhwthau gwrdd â’ch angen chi, fel eich bod chi’n gyfartal. 15  Yn union fel mae’n ysgrifenedig: “Nid oedd gormod gan y person a gasglodd lawer, ac nid oedd prinder gan y person a gasglodd ychydig.” 16  Diolch i Dduw am roi’r un gofal diffuant drostoch chi yng nghalon Titus, 17  oherwydd, yn wir, y mae wedi ymateb i’r anogaeth, ond gan ei fod yn awyddus iawn, mae’n dod atoch chi ar ei liwt ei hun. 18  Ond rydyn ni’n anfon gydag ef y brawd sy’n cael ei ganmol yn yr holl gynulleidfaoedd am gyhoeddi’r newyddion da. 19  Yn ogystal â hynny, cafodd ei benodi gan y cynulleidfaoedd i deithio gyda ni wrth inni ddosbarthu’r rhodd garedig hon er gogoniant yr Arglwydd ac i brofi ein bod ni’n awyddus i helpu. 20  Felly rydyn ni’n sicrhau nad oes unrhyw ddyn yn gallu ein beirniadu ni ynglŷn â’r cyfraniad hael hwn rydyn ni’n ei ddosbarthu. 21  Oherwydd rydyn ni’n ‘gofalu am bob peth mewn ffordd onest, nid yn unig yng ngolwg Jehofa, ond hefyd yng ngolwg dynion.’ 22  Ar ben hynny, rydyn ni’n anfon gyda nhw ein brawd, un rydyn ni wedi ei brofi’n aml ac rydyn ni wedi gweld ei fod yn weithgar mewn llawer o faterion, ond nawr yn llawer mwy gweithgar oherwydd ei hyder mawr ynoch chi. 23  Ond os oes ’na gwestiwn am Titus, mae’n gyd-deithiwr imi ac yn gyd-weithiwr er eich lles; neu os oes ’na gwestiynau am ein brodyr, apostolion y cynulleidfaoedd ydyn nhw ac maen nhw’n dod â gogoniant i Grist. 24  Felly profwch eich cariad iddyn nhw, a dangoswch i’r cynulleidfaoedd pam roedden ni’n brolio amdanoch chi.

Troednodiadau