Ail Cronicl 25:1-28
25 Roedd Amaseia yn 25 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 29 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Jehoadan o Jerwsalem.
2 Parhaodd i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, ond nid â chalon gyflawn.
3 Unwaith iddo sicrhau ei afael ar y deyrnas, lladdodd ei weision a oedd wedi lladd ei dad, y brenin.
4 Ond ni wnaeth ef ladd eu meibion, oherwydd gweithredodd yn unol â beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith, yn llyfr Moses, lle gorchmynnodd Jehofa: “Ni ddylai tadau farw am bechodau eu meibion, ac ni ddylai meibion farw am bechodau eu tadau; ond dylai pob un farw am ei bechodau ei hun.”
5 A dyma Amaseia yn casglu Jwda at ei gilydd, ac yn gwneud iddyn nhw sefyll yn ôl eu grwpiau o deuluoedd, yn ôl y penaethiaid ar filoedd, ac yn ôl y penaethiaid ar gannoedd. Gwnaeth ef hyn ar gyfer Jwda a Benjamin i gyd. Cofrestrodd y rhai a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn, a darganfod bod ’na 300,000 o filwyr wedi eu hyfforddi i wasanaethu yn y fyddin a oedd yn gallu defnyddio gwaywffyn a tharianau mawr.
6 Ar ben hynny, gwnaeth ef gyflogi 100,000 o filwyr cryf o Israel am 100 talent* o arian.
7 Ond daeth un o ddynion y gwir Dduw ato a dweud: “O frenin, paid â gadael i fyddin Israel fynd gyda ti, oherwydd dydy Jehofa ddim gydag Israel, ddim gydag unrhyw un o ddynion Effraim.
8 Ond dos ar dy ben dy hun, gweithreda, a brwydra’n ddewr. Neu fel arall, efallai bydd y gwir Dduw yn achosi iti faglu o flaen gelyn, achos mae gan Dduw y nerth i helpu rhywun neu i wneud iddo faglu.”
9 I hynny, dywedodd Amaseia wrth ddyn y gwir Dduw: “Ond beth am y 100 talent rydw i wedi eu rhoi i filwyr Israel?” Atebodd dyn y gwir Dduw: “Mae gan Jehofa y gallu i roi llawer iawn mwy na hynny iti.”
10 Felly dyma Amaseia yn rhyddhau’r milwyr a oedd wedi dod gydag ef o Effraim, gan eu hanfon nhw yn ôl adref. Ond roedden nhw’n ddig iawn gyda Jwda, felly aethon nhw’n ôl adref wedi gwylltio’n lân.
11 Yna dyma Amaseia yn magu dewrder ac yn arwain ei filwyr ei hun i Ddyffryn yr Halen, a tharo i lawr 10,000 o ddynion Seir.
12 A chipiodd dynion Jwda 10,000 ohonyn nhw yn fyw. Felly dyma nhw’n eu cymryd nhw i ben y clogwyn a’u taflu nhw i lawr o fan ’na, a chawson nhw i gyd eu rhwygo’n ddarnau.
13 Ond roedd rhai o’r milwyr roedd Amaseia wedi eu hanfon yn ôl fel na fydden nhw’n mynd gydag ef i’r rhyfel yn ymosod ar ddinasoedd Jwda, o Samaria i Beth-horon; dyma nhw’n taro i lawr 3,000 ohonyn nhw a chymryd llawer iawn o ysbail.
14 Ond ar ôl i Amaseia ddod yn ôl o daro’r Edomiaid i lawr, cymerodd dduwiau dynion Seir a’u gosod nhw fel duwiau iddo’i hun, a dechreuodd ymgrymu iddyn nhw a gwneud i fwg godi oddi ar aberthau o’u blaenau nhw.
15 Felly digiodd Jehofa ag Amaseia, ac anfonodd broffwyd ato a ddywedodd wrtho: “Pam rwyt ti’n dilyn duwiau’r bobl, y duwiau nad oedden nhw’n gallu achub eu pobl eu hunain allan o dy law?”
16 Tra oedd yn siarad ag ef, dywedodd y brenin: “A wnaethon ni dy benodi di i fod yn gynghorwr i’r brenin? Stopia! Pam dylen nhw dy daro di i lawr?” Yna stopiodd y proffwyd, ond ychwanegodd: “Rydw i’n gwybod bod Duw wedi penderfynu dy ddinistrio di am dy fod ti wedi gwneud hyn a heb wrando ar fy nghyngor.”
17 Ar ôl holi ei gynghorwyr, anfonodd Amaseia brenin Jwda neges at Jehoas, mab Jehoahas, mab Jehu, brenin Israel, yn dweud: “Tyrd, gad inni wynebu ein gilydd mewn brwydr.”
18 Anfonodd Jehoas brenin Israel y neges hon at Amaseia brenin Jwda: “Anfonodd y chwynnyn pigog yn Lebanon neges at y gedrwydden yn Lebanon, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab.’ Ond daeth anifail gwyllt o Lebanon heibio a sathru ar y chwynnyn pigog.
19 Rwyt ti wedi dweud, ‘Edrycha! Rydw i wedi taro Edom i lawr.’ Felly mae dy galon wedi troi’n falch, ac mae’n dymuno cael ei gogoneddu. Ond nawr, arhosa yn dy dŷ* dy hun. Pam dylet ti achosi dinistr, a chwympo gan ddod â Jwda i lawr gyda ti?”
20 Ond ni wnaeth Amaseia wrando, oherwydd roedd hyn wedi dod oddi wrth y gwir Dduw i’w rhoi nhw yn nwylo’r gelyn, am eu bod nhw wedi dilyn duwiau Edom.
21 Felly aeth Jehoas brenin Israel i fyny, a dyma ef ac Amaseia brenin Jwda yn wynebu ei gilydd mewn brwydr yn Beth-semes, sy’n perthyn i Jwda.
22 Cafodd Jwda ei threchu gan Israel, felly dyma bob un yn ffoi i’w gartref.
23 Gwnaeth Jehoas brenin Israel gipio Amaseia brenin Jwda, mab Jehoas, mab Jehoahas* yn Beth-semes. Yna daeth ag ef i Jerwsalem a thynnodd ran o wal Jerwsalem i lawr, o Borth Effraim hyd at Borth y Gornel, 400 cufydd.*
24 Cymerodd yr aur a’r arian i gyd, a’r holl bethau gwerthfawr a gafodd eu darganfod yn nhŷ’r gwir Dduw o dan ofal* Obed-edom ac yn nhrysordai tŷ’r brenin,* yn ogystal â chaethion.* Yna aeth yn ôl i Samaria.
25 Gwnaeth Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am 15 mlynedd ar ôl marwolaeth Jehoas fab Jehoahas, brenin Israel.
26 Ynglŷn â gweddill hanes Amaseia, o’r dechrau i’r diwedd, edrycha! onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Brenhinoedd Jwda ac Israel?
27 O’r adeg pan drodd Amaseia i ffwrdd rhag dilyn Jehofa, gwnaethon nhw gynllwynio yn ei erbyn yn Jerwsalem, a gwnaeth ef ffoi i Lachis, ond anfonon nhw ddynion i Lachis ar ei ôl a’i ladd yno.
28 Felly dyma nhw’n ei gludo yn ôl ar gefn ceffylau a’i gladdu gyda’i gyndadau yn ninas Jwda.
Troednodiadau
^ Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
^ Neu “dy balas.”
^ Hefyd yn cael ei alw’n Ahaseia.
^ Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).
^ Neu efallai, “ynghyd ag.”
^ Neu “palas y brenin.”
^ Llyth., “gwystlon.”