Ail Samuel 13:1-39
13 Nawr roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer brydferth iawn o’r enw Tamar, a gwnaeth Amnon fab Dafydd syrthio mewn cariad â hi.
2 Roedd Amnon mor ddigalon nes iddo deimlo’n sâl oherwydd ei chwaer Tamar, oherwydd roedd hi’n wyryf ac roedd yn ymddangos yn amhosib i Amnon wneud unrhyw beth iddi.
3 Nawr roedd gan Amnon ffrind o’r enw Jehonadab fab Simea, brawd Dafydd; ac roedd Jehonadab yn ddyn cyfrwys iawn.
4 Felly dywedodd wrtho: “Pam rwyt ti, mab y brenin, mor drist bob bore? Dyweda wrtho i.” Atebodd Amnon: “Rydw i’n caru Tamar, chwaer fy mrawd Absalom.”
5 Atebodd Jehonadab: “Gorwedda i lawr ar dy wely ac esgus* bod yn sâl. Pan fydd dy dad yn dod i dy weld di, dyweda wrtho, ‘Plîs gad i fy chwaer Tamar ddod i roi bwyd imi. Os bydd hi’n paratoi’r bwyd* o fy mlaen i, gwna i ei fwyta o’i llaw.’”
6 Felly dyma Amnon yn gorwedd i lawr ac yn esgus* bod yn sâl, a daeth y brenin i mewn i’w weld. Yna dywedodd Amnon wrth y brenin: “Plîs gad i fy chwaer Tamar ddod i mewn a phobi dwy gacen siâp calon o fy mlaen i, er mwyn imi gymryd bwyd o’i llaw.”
7 Gyda hynny anfonodd Dafydd neges at Tamar yn y tŷ, yn dweud: “Plîs dos i dŷ dy frawd Amnon a pharatoi bwyd iddo.”
8 Felly aeth Tamar i dŷ ei brawd Amnon, lle roedd ef yn gorwedd i lawr. Cymerodd hi’r toes a’i dylino a gwneud cacennau o flaen ei lygaid a’u coginio.
9 Yna cymerodd hi’r badell a rhoi’r cacennau o’i flaen. Ond roedd Amnon yn gwrthod bwyta, a dywedodd wrth bawb: “Ewch allan!” Felly gwnaeth pawb ei adael.
10 Yna dywedodd Amnon wrth Tamar: “Tyrd â’r bwyd i mewn i’r ystafell wely er mwyn imi ei fwyta o dy law.” Felly aeth Tamar â’r cacennau siâp calon roedd hi wedi eu pobi i mewn at ei brawd Amnon yn yr ystafell wely.
11 Pan ddaeth hi ato gyda’r cacennau, gafaelodd ynddi a dweud: “Tyrd i orwedd gyda fi, fy chwaer.”
12 Ond dywedodd hi wrtho: “Na fy mrawd! Paid â gwneud rhywbeth mor gywilyddus i mi, oherwydd dydy’r fath beth ddim yn cael ei wneud yn Israel. Paid â gwneud rhywbeth mor warthus.
13 Sut gallwn i fyw gyda’r gwarth? Byddi di’n cael dy ystyried fel un o ffyliaid Israel. Nawr plîs, siarada â’r brenin, oherwydd fydd ef ddim yn gwrthod fy rhoi i iti.”
14 Ond roedd yn gwrthod gwrando arni, ac roedd yn gryfach na hi felly gwnaeth ef ei threisio hi.
15 Yna dechreuodd Amnon ei chasáu hi gyda chasineb dwfn, fel bod ei gasineb tuag ati yn fwy na’r cariad roedd wedi ei deimlo tuag ati. Dywedodd Amnon wrthi: “Cod; dos i ffwrdd!”
16 I hynny dywedodd hi wrtho: “Na fy mrawd, oherwydd bydd fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti wedi ei wneud imi!” Ond gwrthododd wrando arni.
17 Gyda hynny, galwodd ei was ifanc a dweud: “Dos â hon o ’ma plîs, a chloi’r drws y tu ôl iddi.”
18 (Nawr roedd hi’n gwisgo mantell arbennig,* oherwydd dyna’r wisg roedd merched gwyryf y brenin yn ei gwisgo.) Felly gwnaeth y gwas ei hanfon hi allan, a chloi’r drws y tu ôl iddi.
19 Yna rhoddodd Tamar ludw ar ei phen, a rhwygo’r fantell hardd roedd hi’n ei gwisgo; a cherddodd hi i ffwrdd gan gadw ei dwylo ar ei phen, yn llefain wrth iddi gerdded.
20 Gyda hynny, gofynnodd ei brawd Absalom iddi: “Ai dy frawd Amnon oedd gyda ti? Nawr arhosa’n ddistaw, fy chwaer. Mae’n frawd iti. Paid â phoeni am hyn.” Yna roedd Tamar yn byw yn nhŷ ei brawd Absalom, a doedd hi ddim yn cael cysylltiad ag unrhyw un arall.
21 Pan glywodd y Brenin Dafydd am hyn i gyd, gwylltiodd yn lân. Ond doedd ef ddim eisiau brifo teimladau ei fab Amnon, am ei fod yn ei garu, oherwydd ef oedd ei gyntaf-anedig.
22 Ac ni ddywedodd Absalom air wrth Amnon, yn dda neu’n ddrwg; oherwydd roedd Absalom yn casáu Amnon am ei fod wedi dod â chywilydd ar ei chwaer Tamar.
23 Ar ôl i ddwy flynedd fynd heibio, roedd cneifwyr defaid Absalom yn Baal-hasor, wrth ymyl Effraim, a dyma Absalom yn gwahodd holl feibion y brenin i wledd.
24 Felly daeth Absalom i mewn at y brenin a dweud: “Mae defaid dy was yn cael eu cneifio. Plîs gad i’r brenin a’i weision ddod gyda mi.”
25 Ond dywedodd y brenin wrth Absalom: “Na fy mab. Petasen ni i gyd yn mynd, bydden ni’n faich arnat ti.” Er ei fod yn parhau i erfyn arno, roedd yn gwrthod mynd, ond gwnaeth ef ei fendithio.
26 Yna dywedodd Absalom: “Os nad wyt ti am ddod, plîs gad i fy mrawd Amnon ddod gyda mi.” Atebodd y brenin: “Pam dylai ef fynd gyda ti?”
27 Ond roedd Absalom yn erfyn arno, felly dyma Dafydd yn anfon Amnon a meibion y brenin i gyd gydag ef.
28 Yna gorchmynnodd Absalom i’w weision: “Gwyliwch Amnon, a phan fydd ei galon yn llawen oherwydd y gwin, bydda i’n dweud wrthoch chi, ‘Tarwch Amnon i lawr!’ Rhaid ichi ei ladd. Peidiwch ag ofni. Onid y fi sy’n rhoi’r gorchymyn ichi? Byddwch yn gryf ac yn ddewr.”
29 Felly gwnaeth gweision Absalom ladd Amnon, yn union fel roedd Absalom wedi gorchymyn; yna cododd holl feibion eraill y brenin a mynd ar gefn eu mulod a ffoi.
30 Tra oedden nhw ar eu ffordd, clywodd Dafydd sôn bod Absalom wedi lladd meibion y brenin i gyd, heb adael yr un ohonyn nhw yn fyw.
31 Felly cododd y brenin a rhwygo ei ddillad a gorwedd ar y llawr, ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o gwmpas gyda’u dillad nhwythau wedi eu rhwygo.
32 Ond dywedodd Jehonadab fab Simea, brawd Dafydd: “Fy arglwydd, paid â meddwl eu bod nhw wedi lladd holl feibion ifanc y brenin, oherwydd dim ond Amnon sydd wedi marw. Roedd hyn ar orchymyn Absalom a benderfynodd wneud hyn ar y diwrnod y gwnaeth Amnon dreisio ei chwaer Tamar.
33 Nawr, fy arglwydd y brenin, paid â thalu sylw i’r adroddiad sy’n dweud, ‘Mae meibion y brenin i gyd wedi marw’; dim ond Amnon sydd wedi marw.”
34 Yn y cyfamser, rhedodd Absalom i ffwrdd. Yn nes ymlaen gwelodd gwyliwr y ddinas fod llawer o bobl yn dod ar hyd y ffordd y tu ôl iddo, wrth ymyl y mynydd.
35 Gyda hynny dywedodd Jehonadab wrth y brenin: “Edrycha! Mae meibion y brenin wedi dod yn ôl, yn union fel dywedodd dy was.”
36 Wrth iddo orffen siarad, daeth meibion y brenin i mewn, yn wylo’n uchel; roedd y brenin a’i weision i gyd hefyd yn wylo’n chwerw.
37 Ond gwnaeth Absalom ffoi a mynd at Talmai fab Ammihud, brenin Gesur. Roedd Dafydd yn galaru dros ei fab am lawer o ddyddiau.
38 Ar ôl i Absalom ffoi a mynd i Gesur, arhosodd yno am dair blynedd.
39 Yn y pen draw roedd y Brenin Dafydd yn hiraethu am Absalom ac eisiau ei weld, am ei fod wedi dod i delerau â marwolaeth* Amnon.
Troednodiadau
^ Neu “a smalio; cogio.”
^ Hynny yw, bwyd ar gyfer y rhai sâl.
^ Neu “smalio; cogio.”
^ Neu “mantell wedi ei haddurno.”
^ Neu “wedi cael ei gysuro dros farwolaeth.”