Actau’r Apostolion 14:1-28
14 Nawr yn Iconium aethon nhw gyda’i gilydd i mewn i synagog yr Iddewon a siarad yn y fath fodd nes i nifer mawr o Iddewon a Groegiaid ddod yn gredinwyr.
2 Ond gwnaeth yr Iddewon a oedd yn gwrthod credu achosi i bobl y cenhedloedd deimlo’n ddig a’u troi nhw yn erbyn y brodyr.
3 Felly, am gryn dipyn o amser a thrwy awdurdod Jehofa, gwnaethon nhw bregethu heb ofn y neges am garedigrwydd rhyfeddol Duw, a ganiataodd i arwyddion a rhyfeddodau gael eu gwneud trwyddyn nhw.
4 Fodd bynnag, cafodd trigolion y ddinas eu rhannu; roedd rhai gyda’r Iddewon a rhai gyda’r apostolion.
5 Pan geisiodd pobl y cenhedloedd a’r Iddewon, ynghyd â’u rheolwyr, eu trin nhw’n sarhaus a’u llabyddio nhw,
6 daethon nhw i wybod am hyn, a ffoi i ddinasoedd Lycaonia, Lystra a Derbe, ac i’r wlad o amgylch.
7 Yno roedden nhw’n parhau i gyhoeddi’r newyddion da.
8 Nawr yn Lystra roedd ’na ddyn yn eistedd ac roedd ganddo nam ar ei draed. Roedd yn gloff o’i enedigaeth a doedd erioed wedi cerdded.
9 Roedd y dyn hwn yn gwrando ar Paul yn siarad. Syllodd Paul arno ac fe welodd fod ganddo ffydd i gael ei iacháu,
10 a dywedodd â llais uchel: “Saf ar dy draed.” Felly neidiodd y dyn i fyny a dechrau cerdded.
11 Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddon nhw yn iaith Lycaonia: “Mae’r duwiau wedi dod i lawr aton ni ar ffurf dynion!”
12 A dechreuon nhw alw Barnabas yn Zeus, ond Paul yn Hermes, gan mai ef oedd yn siarad yn bennaf.
13 A gwnaeth yr offeiriad o deml Zeus, a oedd wrth fynedfa’r ddinas, ddod â theirw a garlantau* at y giatiau ac roedd eisiau offrymu aberthau gyda’r tyrfaoedd.
14 Fodd bynnag, pan glywodd yr apostolion Barnabas a Paul am hyn, rhwygon nhw eu dillad a neidio allan i ganol y dyrfa a gweiddi:
15 “Ddynion, pam rydych chi’n gwneud y pethau hyn? Bodau dynol ydyn ninnau yn dioddef yr un pethau â chithau. Ac rydyn ni’n cyhoeddi’r newyddion da i chi, er mwyn ichi droi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw, a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a phopeth sydd ynddyn nhw.
16 Yn y cenedlaethau a fu, caniataodd ef i’r holl genhedloedd fynd yn eu ffyrdd eu hunain,
17 ond, er hynny, rhoddodd dystiolaeth drwy wneud daioni, drwy roi glawogydd i chi o’r nef a thymhorau ffrwythlon, drwy roi digonedd o fwyd ichi a thrwy lenwi eich calonnau â llawenydd.”
18 Ond er gwaethaf dweud y pethau hyn, prin yr oedden nhw’n gallu atal y tyrfaoedd rhag aberthu iddyn nhw.
19 Ond cyrhaeddodd Iddewon o Antiochia ac Iconium a dyma nhw’n perswadio’r tyrfaoedd, a gwnaethon nhw labyddio Paul a’i lusgo y tu allan i’r ddinas, gan feddwl ei fod wedi marw.
20 Ond, pan wnaeth y disgyblion ymgasglu o’i gwmpas, cododd ef i fyny a mynd i mewn i’r ddinas. Y diwrnod wedyn, gadawodd gyda Barnabas a mynd i Derbe.
21 Ar ôl cyhoeddi’r newyddion da i’r ddinas honno a gwneud nifer o ddisgyblion, aethon nhw yn ôl i Lystra, Iconium, ac Antiochia.
22 Yno gwnaethon nhw gryfhau’r disgyblion,* a’u hannog nhw i aros yn y ffydd gan ddweud: “Mae’n rhaid inni fynd i mewn i Deyrnas Dduw drwy lawer o dreialon.”
23 Ar ben hynny, gwnaethon nhw benodi henuriaid iddyn nhw ym mhob cynulleidfa, gan weddïo ac ymprydio, a gwnaethon nhw eu rhoi nhw yng ngofal Jehofa, yr un roedden nhw’n credu ynddo.
24 Yna aethon nhw drwy Pisidia a daethon nhw i mewn i Pamffylia,
25 ac ar ôl cyhoeddi’r gair yn Perga, aethon nhw i lawr i Atalia.
26 Oddi yno, dyma nhw’n hwylio i Antiochia, lle roedden nhw wedi cael eu rhoi yng ngofal caredigrwydd rhyfeddol Duw ar gyfer y gwaith roedden nhw bellach wedi ei gwblhau.
27 Ar ôl iddyn nhw gyrraedd a chasglu’r gynulleidfa at ei gilydd, gwnaethon nhw adrodd yr holl bethau roedd Duw wedi eu gwneud drwyddyn nhw, a’i fod wedi agor i’r cenhedloedd y drws i ffydd.
28 Felly treulion nhw gryn dipyn o amser gyda’r disgyblion.