Barnwyr 13:1-25
13 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, a rhoddodd Jehofa nhw yn nwylo’r Philistiaid am 40 mlynedd.
2 Bryd hynny, roedd ’na ddyn o Sora, o deulu’r Daniaid, a’i enw oedd Manoa. Doedd ei wraig ddim yn gallu cael plant.
3 Ymhen amser, ymddangosodd angel Jehofa i’r ddynes* a dywedodd wrthi: “Er nad wyt ti wedi cael plant, a dwyt ti ddim yn gallu cael plant, byddi di’n beichiogi ac yn geni mab.
4 Nawr, bydda’n ofalus i beidio ag yfed gwin nac unrhyw beth alcoholig, a phaid â bwyta unrhyw beth aflan.
5 Edrycha! Byddi di’n beichiogi ac yn geni mab, a ddylai ei wallt byth gael ei dorri,* oherwydd bydd y plentyn yn Nasiread i Dduw o’i enedigaeth, a bydd ef yn cymryd y blaen yn achub Israel o law y Philistiaid.”
6 Yna aeth y ddynes* i ddweud wrth ei gŵr: “Daeth dyn y gwir Dduw ata i, ac roedd yn edrych fel angel y gwir Dduw, yn rhyfeddol iawn. Wnes i ddim gofyn iddo o ble oedd ef wedi dod, ac wnaeth ef ddim dweud ei enw wrtho i chwaith.
7 Ond dywedodd wrtho i, ‘Edrycha! Byddi di’n beichiogi ac yn geni mab. Nawr paid ag yfed gwin nac unrhyw beth alcoholig, a phaid â bwyta unrhyw beth aflan, oherwydd bydd y plentyn yn Nasiread i Dduw o’i enedigaeth nes iddo farw.’”
8 Dyma Manoa yn pledio gyda Jehofa ac yn dweud: “Esgusoda fi Jehofa. Plîs gad i ddyn y gwir Dduw, yr un rwyt ti newydd ei anfon, ddod aton ni eto i roi cyfarwyddyd inni am beth dylen ni ei wneud â’r plentyn fydd yn cael ei eni.”
9 Felly, gwrandawodd y gwir Dduw ar Manoa, a daeth angel y gwir Dduw at y ddynes* unwaith eto tra oedd hi’n eistedd yn y cae; doedd ei gŵr Manoa ddim gyda hi.
10 Rhedodd y ddynes* yn gyflym at ei gŵr a dweud wrtho: “Edrycha! Mae’r dyn a ddaeth ata i y diwrnod o’r blaen wedi ymddangos imi eto.”
11 Yna cododd Manoa a mynd gyda’i wraig. Daeth at y dyn a dweud wrtho: “Ai ti yw’r dyn a siaradodd â fy ngwraig?” Atebodd: “Ie.”
12 Yna dywedodd Manoa: “Gad i dy eiriau ddod yn wir! Sut fath o fywyd bydd y plentyn yn ei gael, a beth fydd ei waith?”
13 Felly dywedodd angel Jehofa wrth Manoa: “Dylai dy wraig osgoi popeth gwnes i sôn wrthi amdanyn nhw.
14 Rhaid iddi beidio â bwyta unrhyw beth sy’n dod o’r winwydden, ddylai hi ddim yfed gwin nac unrhyw beth alcoholig, a ddylai hi ddim bwyta unrhyw beth aflan. Mae’n rhaid iddi wneud popeth rydw i wedi ei orchymyn iddi.”
15 Yna dywedodd Manoa wrth angel Jehofa: “Plîs aros a gad inni baratoi gafr ifanc iti.”
16 Dywedodd angel Jehofa wrth Manoa: “Os ydw i’n aros wna i ddim bwyta dy fwyd; ond os wyt ti eisiau cyflwyno offrwm llosg i Jehofa, cei di wneud hynny.” Doedd Manoa ddim yn gwybod mai angel Jehofa oedd ef.
17 Yna dywedodd Manoa wrth angel Jehofa: “Beth yw dy enw di, er mwyn inni dy anrhydeddu di pan fydd dy air yn dod yn wir?”
18 Ond dywedodd angel Jehofa wrtho: “Paid â gofyn am fy enw am ei fod yn un arbennig.”
19 Yna cymerodd Manoa yr afr ifanc, a’r offrwm grawn, a’u cyflwyno nhw ar y graig i Jehofa. Ac roedd Ef* yn gwneud rhywbeth anhygoel tra oedd Manoa a’i wraig yn gwylio.
20 Wrth i’r fflam fynd i fyny o’r allor tua’r nef, aeth angel Jehofa i fyny yn y fflam tra oedd Manoa a’i wraig yn gwylio. Ar unwaith syrthion nhw â’u hwynebau ar y llawr.
21 Ni wnaeth angel Jehofa ymddangos i Manoa a’i wraig eto. Yna sylweddolodd Manoa mai angel Jehofa oedd ef.
22 Yna dywedodd Manoa wrth ei wraig: “Rydyn ni’n siŵr o farw am ein bod ni wedi gweld Duw.”
23 Ond dywedodd ei wraig wrtho: “Petai Jehofa eisiau ein lladd ni, fyddai ef ddim wedi derbyn offrwm llosg nac offrwm grawn o’n dwylo ni, fyddai ef ddim wedi dangos yr holl bethau hyn inni, na sôn wrthon ni am y pethau hyn i gyd.”
24 Yn hwyrach ymlaen, cafodd y ddynes* fab a’i alw’n Samson; ac wrth i’r bachgen dyfu parhaodd Jehofa i’w fendithio.
25 Ymhen amser, dechreuodd ysbryd Jehofa ei gymell yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Estaol.
Troednodiadau
^ Neu “i’r fenyw.”
^ Neu “ddylai rasel byth gyffwrdd â’i ben.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Yn ôl pob tebyg yn cyfeirio at Dduw.
^ Neu “y fenyw.”