Barnwyr 14:1-20

  • Y Barnwr Samson eisiau priodi dynes o Philistia (1-4)

  • Samson yn lladd llew yn nerth Jehofa (5-9)

  • Pos Samson yn y briodas (10-19)

  • Gwraig Samson yn cael ei rhoi i ddyn arall (20)

14  Yna, aeth Samson i lawr i Timna, ac yn Timna gwelodd ddynes* o Philistia. 2  Felly aeth i fyny a dweud wrth ei dad a’i fam: “Yn Timna gwnaeth un o ferched y Philistiaid ddal fy llygad, ac rydw i eisiau i chi drefnu imi gael ei phriodi hi.” 3  Ond dywedodd ei dad a’i fam wrtho: “Elli di ddim cael hyd i ddynes* ymhlith dy berthnasau, neu ymhlith ein pobl? Oes rhaid iti fynd a chymryd gwraig o blith y Philistiaid sydd heb gael eu henwaedu?” Ond dywedodd Samson wrth ei dad: “Dos i’w nôl hi imi oherwydd hi ydy’r un i mi.” 4  Doedd ei dad na’i fam ddim yn sylweddoli bod hyn wedi dod oddi wrth Jehofa, oherwydd roedd Ef yn edrych am gyfle i frwydro yn erbyn y Philistiaid, am fod y Philistiaid yn rheoli dros Israel ar y pryd. 5  Felly aeth Samson i lawr i Timna gyda’i dad a’i fam. Pan gyrhaeddodd winllannoedd Timna, edrycha! daeth llew ato yn rhuo. 6  Yna daeth ysbryd Jehofa arno a rhoi nerth iddo, a rhwygodd y llew yn ddau, yn union fel mae rhywun yn rhwygo gafr ifanc yn ddau gyda nerth ei ddwylo. Ond wnaeth Samson ddim sôn wrth ei dad na’i fam am beth roedd ef wedi ei wneud. 7  Yna aeth i lawr a siarad â’r ddynes,* ac roedd yn dal yn sicr mai hi oedd yr un roedd ef eisiau. 8  Yn hwyrach ymlaen, pan oedd yn mynd yn ôl i Timna i’w phriodi hi, trodd a gweld corff marw y llew, ac yno yng nghorff y llew roedd mêl a haid o wenyn. 9  Felly crafodd y mêl allan a’i gasglu yn ei ddwylo a’i fwyta wrth iddo gerdded. Unwaith iddo ddal i fyny â’i dad a’i fam, rhoddodd ychydig ohono iddyn nhw ei fwyta. Ond wnaeth ef ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu’r mêl allan o gorff llew. 10  Aeth ei dad i lawr at y ddynes,* a gwnaeth Samson gynnal gwledd yno, oherwydd dyna oedd y dynion ifanc yn arfer ei wneud. 11  Unwaith i’r bobl weld Samson, dyma nhw’n dod â 30 o weision priodas ato i gadw cwmni iddo. 12  Yna dywedodd Samson wrthyn nhw: “Plîs gadewch imi osod pos ichi. Os ydych chi’n ei ddatrys, ac yn rhoi’r ateb imi o fewn saith diwrnod y wledd, bydd rhaid imi roi 30 dilledyn lliain ichi, yn ogystal â 30 dilledyn arall. 13  Ond os na allwch chi ei ddatrys, bydd rhaid i chi roi 30 dilledyn lliain i mi, yn ogystal â 30 dilledyn arall.” Atebon nhw: “Dyweda’r pos wrthon ni, rydyn ni eisiau ei glywed.” 14  Felly dywedodd wrthyn nhw: “Allan o’r bwytäwr daeth rhywbeth i’w fwyta,Ac allan o’r cryf daeth rhywbeth melys.” Roedden nhw’n methu datrys y pos am dri diwrnod. 15  Ar y pedwerydd diwrnod, dywedon nhw wrth wraig Samson: “Twylla dy ŵr fel ei fod yn dweud ateb y pos wrthon ni, neu fel arall byddwn ni’n dy losgi di a thŷ dy dad â thân. A wnest ti ein gwahodd ni yma er mwyn cymryd ein pethau?” 16  Felly roedd gwraig Samson yn wylo drwy’r amser o’i flaen, ac yn dweud: “Mae’n rhaid dy fod ti’n fy nghasáu i; dwyt ti ddim yn fy ngharu i. Gwnest ti osod pos i fy mhobl ond dwyt ti ddim wedi dweud yr ateb wrtho i.” Gyda hynny, dywedodd wrthi: “Ond rydw i heb ddweud yr ateb hyd yn oed wrth fy nhad a fy mam! Pam dylwn i ei ddweud wrthot ti?” 17  Ond gwnaeth hi barhau i wylo o’i flaen am weddill y wledd saith diwrnod. O’r diwedd dywedodd yr ateb wrthi ar y seithfed diwrnod am ei bod hi wedi swnian gymaint. Yna rhoddodd hi ateb y pos i’w phobl. 18  Felly ar y seithfed diwrnod, cyn i’r haul fachlud, dywedodd dynion y ddinas wrtho: “Beth sy’n felysach na mêl,A beth sy’n gryfach na llew?” Dyma Samson yn eu hateb nhw: “Petasech chi heb aredig â fy muwch ifanc,*Fyddech chi ddim wedi datrys fy mhos.” 19  Yna daeth ysbryd Jehofa arno a rhoi nerth iddo, ac aeth i lawr i Ascalon a tharo i lawr 30 o’u dynion, cymryd eu dillad, a rhoi’r dillad i’r rhai oedd wedi ateb ei bos. Roedd yn gandryll wrth fynd yn ôl i dŷ ei dad. 20  Yna cafodd gwraig Samson ei rhoi i un o’i weision priodas oedd wedi cadw cwmni iddo.

Troednodiadau

Neu “gwelodd fenyw.”
Neu “i fenyw.”
Neu “â’r fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “Heb help fy ngwraig.”