Barnwyr 3:1-31

  • Jehofa yn rhoi prawf ar Israel (1-6)

  • Othniel, y barnwr cyntaf (7-11)

  • Y Barnwr Ehud yn lladd Eglon, y brenin tew (12-30)

  • Y Barnwr Samgar (31)

3  Caniataodd Jehofa i rai cenhedloedd aros yn y wlad er mwyn iddyn nhw roi prawf ar holl bobl Israel oedd heb brofiad o unrhyw un o ryfeloedd Canaan. 2  (Roedd hyn er mwyn i genedlaethau nesaf yr Israeliaid gael profiad o ryfel, y rhai oedd heb brofi’r fath bethau o’r blaen.) 3  Dyma’r cenhedloedd oedd ar ôl: pum arglwydd y Philistiaid, yr holl Ganaaneaid, a hefyd y Sidoniaid a’r Hefiaid sy’n byw ar Fynydd Lebanon o Fynydd Baal-hermon mor bell â Lebo-hamath.* 4  Cawson nhw eu defnyddio i roi Israel ar brawf i weld a fydden nhw’n gwrando ar y gorchmynion roedd Jehofa wedi eu rhoi i’w tadau drwy Moses. 5  Felly roedd yr Israeliaid yn byw ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid. 6  Roedden nhw’n cymryd eu merched fel gwragedd, ac yn rhoi eu merched eu hunain i’w meibion nhw, a dechreuon nhw wasanaethu eu duwiau. 7  Felly roedd yr Israeliaid yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, a gwnaethon nhw anghofio Jehofa eu Duw ac roedden nhw’n gwasanaethu delwau o Baal a’r polion cysegredig. 8  Ar hynny, gwylltiodd Jehofa â’r Israeliaid, a’u gwerthu nhw i law Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia.* Gwnaeth yr Israeliaid wasanaethu Cusan-risathaim am wyth mlynedd. 9  Pan alwodd yr Israeliaid ar Jehofa am help, cododd Jehofa rywun i achub yr Israeliaid, Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb. 10  Daeth ysbryd Jehofa arno, a daeth ef yn farnwr ar Israel. Pan aeth ef allan i frwydro, rhoddodd Jehofa Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia,* yn ei ddwylo fel ei fod yn trechu Cusan-risathaim. 11  Ar ôl hynny, cafodd y wlad orffwys* am 40 mlynedd. Yna bu farw Othniel fab Cenas. 12  Ac unwaith eto dechreuodd yr Israeliaid wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. Felly caniataodd Jehofa i Eglon, brenin Moab, fynd yn gryfach nag Israel, oherwydd roedden nhw’n gwneud yr hyn oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. 13  Ar ben hynny, daeth â’r Ammoniaid a’r Amaleciaid yn eu herbyn nhw. Gwnaethon nhw ymosod ar Israel a chipio dinas y palmwydd. 14  Gwnaeth yr Israeliaid wasanaethu Eglon, brenin Moab, am 18 mlynedd. 15  Yna galwodd yr Israeliaid ar Jehofa am help, felly cododd Jehofa achubwr iddyn nhw, Ehud fab Gera, dyn o lwyth Benjamin a oedd yn llawchwith. Ymhen amser, dyma’r Israeliaid yn defnyddio Ehud i fynd â’u trethi at Eglon, brenin Moab. 16  Yn y cyfamser, gwnaeth Ehud gleddyf daufiniog iddo’i hun a oedd yn gufydd* o hyd, a’i strapio ar ei glun dde o dan ei ddilledyn. 17  Yna cyflwynodd y trethi i Eglon, brenin Moab. Nawr roedd Eglon yn ddyn tew iawn. 18  Pan oedd Ehud wedi gorffen cyflwyno’r trethi, gadawodd gyda’r bobl oedd wedi cario’r trethi. 19  Ond ar ôl cyrraedd y delwau wedi eu cerfio* oedd wrth Gilgal, aeth ef yn ei ôl a dweud: “Mae gen i neges gyfrinachol iti, O frenin.” Felly dywedodd y brenin: “Byddwch ddistaw!” Gyda hynny dyma ei weision i gyd yn ei adael. 20  Felly daeth Ehud ato tra oedd yn eistedd ar ei ben ei hun yn ei ystafell ar y to a oedd yn oer braf. Yna dywedodd Ehud: “Mae gen i neges iti oddi wrth Dduw.” Felly cododd oddi ar ei orsedd.* 21  Yna tynnodd Ehud y cleddyf o’i glun dde gyda’i law chwith a’i suddo i mewn i fol y brenin. 22  Aeth y cleddyf cyfan i mewn gan gynnwys y carn, a chaeodd y braster amdano, oherwydd wnaeth Ehud ddim tynnu’r cleddyf allan o’i fol, a daeth y carthion allan. 23  Aeth Ehud allan gan gau drysau’r ystafell ar ei ôl a’u cloi nhw. 24  Ar ôl iddo adael, daeth y gweision yn ôl a gweld bod drysau’r ystafell ar y to wedi eu cloi. Felly dywedon nhw: “Mae’n rhaid ei fod yn mynd i’r tŷ bach* yn yr ystafell fewnol.” 25  Roedden nhw’n dal i aros nes iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus, ond pan welson nhw nad oedd ef yn agor drysau’r ystafell, cymeron nhw’r allwedd a’u hagor nhw a gweld bod eu harglwydd wedi cwympo i’r llawr yn farw! 26  Tra oedden nhw’n oedi, gwnaeth Ehud ddianc, ac aeth heibio’r delwau wedi eu cerfio* a chyrraedd Seira yn ddiogel. 27  Ar ôl iddo gyrraedd, canodd ef y corn yn ardal fynyddig Effraim; ac aeth yr Israeliaid i lawr o’r ardal fynyddig, gydag ef ar y blaen. 28  Yna dywedodd wrthyn nhw: “Dilynwch fi, oherwydd mae Jehofa wedi rhoi eich gelynion, y Moabiaid, yn eich dwylo.” Felly dyma nhw’n ei ddilyn ac yn cipio rhydau’r Iorddonen er mwyn ennill mantais dros y Moabiaid, a wnaethon nhw ddim gadael i unrhyw un groesi. 29  Bryd hynny lladdon nhw tua 10,000 o’r Moabiaid, pob un yn ddyn cryf a dewr; ni wnaeth yr un ohonyn nhw ddianc. 30  Felly gwnaeth Israel drechu Moab ar y diwrnod hwnnw, a chafodd y wlad orffwys* am 80 mlynedd. 31  Y barnwr nesaf oedd Samgar fab Anath. Gwnaeth ef ladd 600 o Philistiaid gyda ffon brocio gwartheg;* gwnaeth ef hefyd achub Israel.

Troednodiadau

Neu “mynedfa Hamath.”
Llyth., “Aram-naharaim.”
Llyth., “Aram.”
Neu “heddwch.”
Efallai cufydd byr o tua 38 cm (15 mod).
Neu efallai, “y chwareli.”
Neu “sedd.”
Llyth., “yn gorchuddio ei draed.”
Neu efallai, “y chwareli.”
Neu “heddwch.”
Neu “swmbwl.”