At y Galatiaid 4:1-31

  • Nid yn gaethweision mwyach, ond yn feibion (1-7)

  • Paul yn poeni am y Galatiaid (8-20)

  • Hagar a Sara: dau gyfamod (21-31)

    • Jerwsalem uwchben, ein mam, yn rhydd (26)

4  Nawr dweud yr ydw i: Cyhyd ag y mae’r etifedd yn blentyn bach, does dim gwahaniaeth rhyngddo ef a chaethwas, er ei fod yn arglwydd ar bob peth, 2  ond mae ’na bobl sy’n gofalu amdano ef a’i dŷ hyd y dydd a benodwyd ymlaen llaw gan ei dad. 3  Yn yr un modd, roedden ninnau hefyd, pan oedden ni’n blant, wedi ein caethiwo gan bethau elfennol y byd. 4  Ond pan ddaeth yr amser penodedig,* anfonodd Duw ei Fab, a oedd wedi ei eni o ddynes* ac a oedd o dan y gyfraith, 5  i brynu rhyddid i’r rhai o dan y gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu’n feibion. 6  Nawr oherwydd eich bod chi’n feibion, mae Duw wedi anfon ysbryd ei Fab i’n calonnau, ac mae’n gweiddi: “Abba,* Dad!” 7  Felly nid caethwas wyt ti bellach ond mab; ac os mab wyt ti, yna rwyt ti hefyd yn etifedd trwy Dduw. 8  Er hynny, pan nad oeddech chi’n adnabod Duw, caethweision oeddech chi i’r rhai sydd ddim yn wir yn dduwiau. 9  Ond gan eich bod chi nawr wedi dod i adnabod Duw neu, yn hytrach, wedi cael eich adnabod gan Dduw, sut gallwch chi droi yn ôl at y pethau elfennol gwan a diwerth, a dymuno bod yn gaethweision iddyn nhw unwaith eto? 10  Rydych chi’n ofalus iawn wrth gadw dyddiau a misoedd a thymhorau a blynyddoedd. 11  Rydw i’n poeni amdanoch chi, bod fy ymdrechion i’ch helpu wedi bod yn ofer rywsut. 12  Frodyr, rydw i’n ymbil arnoch chi, byddwch fel yr ydw i, oherwydd roeddwn innau hefyd yn arfer bod fel yr ydych chi. Ni wnaethoch chi ddim cam â mi. 13  Ond rydych chi’n gwybod mai o achos salwch corfforol y ces i fy nghyfle cyntaf i gyhoeddi’r newyddion da ichi. 14  Ac er bod fy nghyflwr corfforol wedi bod yn faich trwm arnoch chi, wnaethoch chi ddim fy nirmygu na fy mychanu;* ond fe wnaethoch chi fy nerbyn fel angel Duw, fel Crist Iesu. 15  Ble mae’r hapusrwydd oedd gynnoch chi? Oherwydd rydw i’n sicr y byddech chi wedi tynnu eich llygaid allan a’u rhoi nhw i mi, petai hynny wedi bod yn bosib. 16  Ydw i, felly, wedi mynd yn elyn ichi oherwydd fy mod i’n dweud y gwir wrthoch chi? 17  Maen nhw’n selog dros ddwyn perswâd arnoch chi, ond nid am resymau da; maen nhw eisiau eich pellhau chi oddi wrtho i, er mwyn ichi fod yn awyddus i’w dilyn nhw. 18  Fodd bynnag, peth da bob amser yw i rywun fod yn selog dros ddwyn perswâd arnoch chi, a hynny am resymau da, ac nid yn unig pan fydda i’n bresennol gyda chi, 19  oherwydd rydw i’n dioddef poenau geni unwaith eto o’ch achos chi, fy mhlant bach, hyd nes y bydd Crist yn cael ei ffurfio* ynoch chi. 20  Byddwn i wrth fy modd petaswn i’n gallu bod yn bresennol gyda chi nawr a siarad mewn ffordd wahanol, oherwydd bod eich ymddygiad yn achosi penbleth imi. 21  Dywedwch wrtho i, y chi sydd eisiau bod o dan y gyfraith, Onid ydych chi’n clywed y Gyfraith? 22  Er enghraifft, mae’n ysgrifenedig fod Abraham wedi cael dau fab, un o’r gaethferch ac un o’r ddynes* rydd; 23  ond fe gafodd yr un o’r gaethferch ei eni yn y ffordd naturiol* a’r llall o’r ddynes* rydd drwy addewid. 24  Gellir cymryd y pethau hyn fel drama symbolaidd; oherwydd bod y merched* hyn yn cynrychioli dau gyfamod. Mae un o Fynydd Sinai, sy’n geni plant i gaethwasiaeth, sef Hagar. 25  Nawr mae Hagar yn cynrychioli Sinai, mynydd yn Arabia, ac mae hi’n cyfateb i Jerwsalem heddiw, oherwydd mae hi a’i phlant mewn caethwasiaeth. 26  Ond mae’r Jerwsalem uwchben yn rhydd, a hi yw ein mam. 27  Oherwydd mae’n ysgrifenedig: “Llawenha, y ddynes* ddiffrwyth sydd ddim yn rhoi genedigaeth; bloeddia’n llawen, y ddynes* sydd ddim yn dioddef poenau geni; oherwydd bod gan y ddynes* sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na’r ddynes* sydd â gŵr.” 28  Nawr rydych chi, frodyr, yn blant yr addewid fel yr oedd Isaac. 29  Ond fel roedd yr un a gafodd ei eni yn y ffordd naturiol* wedi dechrau erlid yr un a gafodd ei eni drwy ysbryd, felly hefyd heddiw. 30  Er hynny, beth mae’r ysgrythur yn ei ddweud? “Gyrra allan y gaethferch a’i mab, oherwydd ni fydd mab y gaethferch ar unrhyw gyfri yn etifedd gyda mab y ddynes* rydd.” 31  Felly, frodyr, rydyn ni’n blant, nid i gaethferch, ond i’r ddynes* rydd.

Troednodiadau

Llyth., “pan ddaeth cyflawnder yr amser.”
Neu “o fenyw.”
Gair Hebraeg neu Aramaeg sy’n golygu “O Dad!”
Neu “na phoeri arna i.”
Neu “yn ymffurfio.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “yn ôl y cnawd.”
Neu “menywod.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “yn ôl y cnawd.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”