At y Galatiaid 5:1-26

  • Rhyddid Cristnogol (1-15)

  • Cerdded o dan arweiniad yr ysbryd (16-26)

5  Ar gyfer rhyddid o’r fath y gwnaeth Crist ein rhyddhau ni. Felly, safwch yn gadarn, a pheidiwch â gadael i chi’ch hunain blygu unwaith eto i iau caethwasiaeth. 2  Edrychwch! Rydw i, Paul, yn dweud wrthoch chi: Os ydych chi’n cael eich enwaedu, ni fydd Crist o unrhyw fudd ichi. 3  Unwaith eto rydw i’n atgoffa pob dyn sy’n cael ei enwaedu ei fod o dan orfodaeth i gadw’r holl Gyfraith. 4  Rydych chi wedi eich gwahanu oddi wrth Grist, chi sy’n ceisio cael eich galw’n gyfiawn drwy’r gyfraith; chi sydd wedi syrthio yn ôl oddi wrth ei garedigrwydd rhyfeddol. 5  O’n rhan ni, rydyn ni, drwy’r ysbryd, yn disgwyl yn eiddgar am y cyfiawnder rydyn ni’n gobeithio amdano sy’n dod o ganlyniad i ffydd. 6  Oherwydd mewn undod â Christ, dydy enwaediad na dienwaediad ddim o unrhyw werth, ond mae ffydd sy’n gweithredu trwy gariad yn werthfawr. 7  Roeddech chi’n rhedeg yn dda. Pwy wnaeth eich rhwystro chi rhag parhau i fod yn ufudd i’r gwir? 8  Dydy’r math hwn o berswâd ddim yn dod oddi wrth yr Un sy’n eich galw chi. 9  Mae ychydig o lefain yn lledu drwy’r holl does. 10  Rydw i’n hyderus y byddwch chi sydd mewn undod â’r Arglwydd o’r un farn â mi; ond bydd yr un sy’n achosi trwbl ichi, pwy bynnag yw hwnnw, yn derbyn y farn mae’n ei haeddu. 11  O’m rhan i, frodyr, os ydw i’n dal i bregethu enwaediad, pam rydw i’n dal i gael fy erlid? Petai hynny’n wir, byddai carreg rwystr y stanc dienyddio* wedi cael ei dileu. 12  Byddai’n dda gen i petai’r dynion sy’n ceisio eich ysgwyd yn eu sbaddu eu hunain.* 13  Fe gawsoch chi’ch galw i ryddid, frodyr; ond peidiwch â defnyddio’r rhyddid hwn yn gyfle i geisio chwantau cnawdol, ond gwasanaethwch eich gilydd trwy gariad. 14  Oherwydd mae’r holl Gyfraith wedi cael ei chyflawni* mewn un gorchymyn, sef: “Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.” 15  Ond os ydych chi’n parhau i frathu ac i ymosod ar eich gilydd, gwyliwch na fyddwch chi’n cael eich dinistrio gan eich gilydd. 16  Ond rydw i’n dweud: Daliwch ati i gerdded o dan arweiniad yr ysbryd ac ni fyddwch chi’n cyflawni unrhyw chwant cnawdol o gwbl. 17  Oherwydd mae chwantau’r cnawd yn erbyn yr ysbryd, ac mae chwantau’r ysbryd yn erbyn y cnawd; mae’r pethau hyn yn tynnu’n groes i’w gilydd, fel nad ydych chi’n gwneud yr union bethau rydych chi eisiau eu gwneud. 18  Ymhellach, os ydych chi’n cael eich arwain gan yr ysbryd, dydych chi ddim o dan y gyfraith. 19  Nawr mae gweithredoedd y cnawd yn cael eu gweld yn amlwg, sef anfoesoldeb rhywiol,* aflendid, ymddwyn heb gywilydd,* 20  addoli eilunod, ysbrydegaeth,* gelyniaeth, cweryla, cenfigen, gwylltio, anghydfod, rhaniadau, sectau, 21  eiddigedd, meddwi, partïon gwyllt, a phethau fel hyn. Rydw i’n eich rhybuddio chi ymlaen llaw am y pethau hyn, fel y gwnes i o’r blaen, hynny yw, fydd y rhai sy’n ymarfer pethau o’r fath ddim yn etifeddu Teyrnas Dduw. 22  Ar y llaw arall, ffrwyth yr ysbryd yw cariad, llawenydd, heddwch, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffydd, 23  addfwynder, hunanreolaeth. Does ’na ddim cyfraith yn erbyn pethau o’r fath. 24  Ar ben hynny, mae’r rhai sy’n perthyn i Grist Iesu wedi hoelio’r cnawd, ynghyd â’i deimladau cryf a’i chwantau, ar y stanc. 25  Os ydyn ni’n byw o dan arweiniad yr ysbryd, gadewch inni hefyd ddal ati i gerdded o dan arweiniad yr ysbryd. 26  Dylen ni beidio â bod yn egotistaidd, yn creu ysbryd cystadleugar yn ein plith, yn eiddigeddus o’n gilydd.

Troednodiadau

Gweler Geirfa.
Neu “dod yn eunuchiaid,” gan ddod felly yn anghymwys i gyflawni’r union gyfraith roedden nhw’n ei chefnogi.
Neu efallai, “ei chrynhoi.”
Groeg, porneia. Gweler Geirfa.
Neu “ymddygiad haerllug.” Groeg, aselgeia. Gweler Geirfa.
Neu “dewiniaeth.” Groeg, pharmacia; sy’n cyfeirio’n llythrennol at ddefnyddio meddyginiaeth neu gyffuriau.