Genesis 10:1-32

  • Rhestr o’r cenhedloedd (1-32)

    • Disgynyddion Jaffeth (2-5)

    • Disgynyddion Ham (6-20)

      • Nimrod yn erbyn Jehofa (8-12)

    • Disgynyddion Sem (21-31)

10  Dyma hanes meibion Noa, sef Sem, Ham, a Jaffeth. Cawson nhw feibion ar ôl y Dilyw. 2  Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras. 3  Meibion Gomer oedd Ascenas, Riffath, a Togarma. 4  Meibion Jafan oedd Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim. 5  Ohonyn nhw y daeth trigolion yr ynysoedd, a wnaeth setlo yn eu gwledydd yn ôl eu hieithoedd a’u teuluoedd a’u cenhedloedd. 6  Meibion Ham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan. 7  Meibion Cus oedd Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama oedd Seba a Dedan. 8  Daeth Cus yn dad i Nimrod. Ef oedd y rhyfelwr pwerus cyntaf ar y ddaear. 9  Daeth ef yn heliwr cryf yn erbyn Jehofa. Dyna pam mae ’na ddywediad: “Yn union fel Nimrod, heliwr cryf yn erbyn Jehofa.” 10  Dinasoedd cyntaf ei deyrnas oedd Babel, Erech, Accad a Calne, yng ngwlad Sinar. 11  O’r wlad honno fe aeth i mewn i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-Ir, Cala, 12  a Resen, rhwng Ninefe a Cala: Hon yw’r ddinas fawr. 13  Daeth Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 14  Pathrusim, Casluhim (cyndad y Philistiaid), a Cafftorim. 15  Daeth Canaan yn dad i Sidon, ei gyntaf-anedig, a Heth, 16  ynghyd â’r Jebusiaid, yr Amoriaid, y Girgasiaid, 17  yr Hefiaid, yr Arciaid, y Siniaid, 18  yr Arfadiaid, y Semariaid, a’r Hamathiaid. Ar ôl hynny, cafodd teuluoedd Canaan eu gwasgaru. 19  Felly roedd tiriogaeth y Canaaneaid yn ymestyn o Sidon mor bell â Gerar, sy’n agos at Gasa, mor bell â Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, sy’n agos at Lesa. 20  Rhain oedd meibion Ham yn ôl eu teuluoedd a’u hieithoedd, eu gwledydd a’u cenhedloedd. 21  Hefyd cafodd Sem, brawd iau* Jaffeth, blant. Roedd Eber a’i holl feibion yn ddisgynyddion i Sem. 22  Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffacsad, Lud, ac Aram. 23  Meibion Aram oedd Us, Hul, Gether, a Mas. 24  Daeth Arffacsad yn dad i Sela, a daeth Sela yn dad i Eber. 25  Cafodd Eber ddau fab. Enw un ohonyn nhw oedd Peleg, oherwydd yn ystod ei fywyd ef cafodd poblogaeth y ddaear ei gwahanu. Enw ei frawd oedd Joctan. 26  Daeth Joctan yn dad i Almodad, Seleff, Hasarmafeth, Jera, 27  Hadoram, Usal, Dicla, 28  Obal, Abimael, Seba, 29  Offir, Hafila, a Jobab; y rhain i gyd oedd meibion Joctan. 30  Roedd y diriogaeth lle roedden nhw’n byw yn ymestyn o Mesa mor bell â Seffar, ardal fynyddig y Dwyrain. 31  Y rhain oedd meibion Sem yn ôl eu teuluoedd a’u hieithoedd, eu gwledydd a’u cenhedloedd. 32  Y rhain oedd teuluoedd meibion Noa yn ôl llinach eu teuluoedd ac yn ôl eu cenhedloedd. O’r rhain y lledaenodd y cenhedloedd drwy’r ddaear ar ôl y Dilyw.

Troednodiadau

Neu efallai, “brawd hŷn.”