Genesis 11:1-32

  • Tŵr Babel (1-4)

  • Jehofa yn cymysgu’r iaith (5-9)

  • O Sem hyd at Abram (10-32)

    • Teulu Tera (27)

    • Abram yn gadael Ur (31)

11  Bryd hynny roedd gan yr holl bobl ar y ddaear un iaith ac un eirfa gyffredin. 2  Wrth iddyn nhw deithio tua’r dwyrain, gwnaethon nhw ddarganfod llawr gwastad dyffryn yng ngwlad Sinar, a dechreuon nhw fyw yno. 3  Yna dywedon nhw wrth ei gilydd: “Dewch! Gadewch inni wneud brics a’u sychu nhw mewn ffwrn.” Felly defnyddion nhw frics yn hytrach na cherrig, a bitwmen fel morter. 4  Yna dywedon nhw: “Dewch! Gadewch inni adeiladu dinas i ni’n hunain ac adeiladu tŵr sydd â’i ben yn y nefoedd, er mwyn inni fod yn enwog, ac er mwyn inni beidio â chael ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.” 5  Yna aeth Jehofa i lawr i weld y ddinas a’r tŵr roedd y bobl wedi eu hadeiladu. 6  Yna dywedodd Jehofa: “Edrychwch! Maen nhw’n un bobl sydd ag un iaith, a dyma beth maen nhw wedi dechrau ei wneud. Ni fydd hi’n amhosib iddyn nhw wneud beth bynnag maen nhw’n bwriadu ei wneud. 7  Dewch! Gadewch inni fynd i lawr yno a chymysgu eu hiaith fel na fyddan nhw’n gallu deall iaith ei gilydd.” 8  Felly gwnaeth Jehofa eu gwasgaru nhw o fan ’na dros wyneb yr holl ddaear ac, yn raddol, fe wnaethon nhw roi’r gorau i adeiladu’r ddinas. 9  Dyna pam y cafodd y ddinas ei henwi’n Babel,* oherwydd yno y gwnaeth Jehofa gymysgu iaith yr holl ddaear, ac fe wnaeth Jehofa eu gwasgaru nhw o fan ’na dros wyneb yr holl ddaear. 10  Dyma hanes Sem. Roedd Sem yn 100 mlwydd oed pan ddaeth yn dad i Arffacsad ddwy flynedd ar ôl y Dilyw. 11  Ar ôl dod yn dad i Arffacsad, gwnaeth Sem barhau i fyw am 500 mlynedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 12  Gwnaeth Arffacsad fyw am 35 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Sela. 13  Ar ôl dod yn dad i Sela, gwnaeth Arffacsad barhau i fyw am 403 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 14  Gwnaeth Sela fyw am 30 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Eber. 15  Ar ôl dod yn dad i Eber, gwnaeth Sela barhau i fyw am 403 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 16  Gwnaeth Eber fyw am 34 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Peleg. 17  Ar ôl dod yn dad i Peleg, gwnaeth Eber barhau i fyw am 430 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 18  Gwnaeth Peleg fyw am 30 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Reu. 19  Ar ôl dod yn dad i Reu, gwnaeth Peleg barhau i fyw am 209 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 20  Gwnaeth Reu fyw am 32 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Serug. 21  Ar ôl dod yn dad i Serug, gwnaeth Reu barhau i fyw am 207 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 22  Gwnaeth Serug fyw am 30 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Nachor. 23  Ar ôl dod yn dad i Nachor, gwnaeth Serug barhau i fyw am 200 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 24  Gwnaeth Nachor fyw am 29 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Tera. 25  Ar ôl dod yn dad i Tera, gwnaeth Nachor barhau i fyw am 119 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 26  Gwnaeth Tera fyw am 70 o flynyddoedd. Ar ôl hynny daeth yn dad i Abram, Nachor, a Haran. 27  Dyma hanes Tera. Daeth Tera yn dad i Abram, Nachor, a Haran; a daeth Haran yn dad i Lot. 28  Tra oedd ei dad Tera yn dal yn fyw, bu farw Haran yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid. 29  Cymerodd Abram a Nachor wragedd iddyn nhw eu hunain. Enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca. 30  Nawr doedd Sarai ddim yn gallu cael plant; doedd ganddi hi ddim plant. 31  Yna gwnaeth Tera gymryd Abram ei fab a Lot ei ŵyr, mab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Abram ei fab, ac fe aethon nhw gydag ef allan o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan. Gydag amser daethon nhw i Haran a dechrau byw yno. 32  205 o flynyddoedd oedd dyddiau Tera. Yna bu farw Tera yn Haran.

Troednodiadau

Sy’n golygu “Dryswch.”