Genesis 14:1-24

  • Abram yn achub Lot (1-16)

  • Melchisedec yn bendithio Abram (17-24)

14  Nawr yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goim, 2  dyma nhw’n rhyfela yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsa brenin Gomorra, Sinab brenin Adma, Semeber brenin Seboim, a brenin Bela, hynny yw, Soar. 3  Gwnaeth y rhain i gyd ymuno yn nyffryn Sidim, hynny yw, y Môr Marw.* 4  Roedden nhw wedi gwasanaethu Cedorlaomer am ddeuddeng mlynedd, ond gwnaethon nhw wrthryfela yn y drydedd flwyddyn ar ddeg. 5  Felly yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg, daeth Cedorlaomer a’r brenhinoedd a oedd gydag ef a gorchfygu y Reffaim yn Asteroth-carnaim, y Susiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-ciriathaim, 6  a’r Horiaid ym mynydd Seir i lawr i El-paran, sydd wrth ymyl yr anialwch. 7  Yna dyma nhw’n troi yn ôl ac yn dod i En-mispat, hynny yw, Cades, a gorchfygu holl diriogaeth yr Amaleciaid a hefyd yr Amoriaid a oedd yn byw yn Hasason-tamar. 8  Ar hynny, cychwynnodd brenin Sodom i’r frwydr, a hefyd brenin Gomorra, brenin Adma, brenin Seboim, a brenin Bela, hynny yw, Soar, a gwnaethon nhw eu trefnu eu hunain yn barod i ryfela yn eu herbyn nhw yn Nyffryn Sidim, 9  yn erbyn Cedorlaomer brenin Elam, Tidal brenin Goim, Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar—pedwar brenin yn erbyn pump. 10  Nawr roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau bitwmen, a dyma frenhinoedd Sodom a Gomorra yn ceisio dianc ac yn syrthio i mewn iddyn nhw, a gwnaeth y rhai a oedd ar ôl ffoi i’r ardal fynyddig. 11  Yna cymerodd y gorchfygwyr holl eiddo Sodom a Gomorra a’u holl fwyd a mynd i ffwrdd. 12  Hefyd cymeron nhw Lot, mab brawd Abram a oedd yn byw yn Sodom, ynghyd â’i eiddo, a pharhau ar eu ffordd. 13  Ar ôl hynny daeth dyn a oedd wedi ffoi a sôn wrth Abram yr Hebread am yr hyn oedd wedi digwydd. Yr adeg honno roedd yn byw* ymhlith coed mawr Mamre yr Amoriad, brawd Escol ac Aner. Roedd y dynion hyn wedi ochri ag Abram. 14  Felly clywodd Abram fod ei berthynas* wedi cael ei gymryd yn gaeth. Ar hynny dyma’n paratoi ei ddynion a oedd wedi cael eu hyfforddi, 318 o weision wedi eu geni yn ei dŷ, ac fe aeth ar eu holau hyd at Dan. 15  Yn ystod y nos, gwnaeth ef wahanu ei fyddin, a dyma ef a’i weision yn ymosod ac yn eu gorchfygu nhw. Ac fe aeth ar eu holau nhw hyd at Hoba, sydd i’r gogledd o Ddamascus. 16  Daeth â’r holl eiddo yn ôl, a hefyd Lot ei berthynas, ei eiddo yntau, y merched,* a’r bobl eraill. 17  Ar ôl i Abram ddod yn ôl o drechu Cedorlaomer a’r brenhinoedd a oedd gydag ef, aeth brenin Sodom allan i gwrdd ag Abram yn Nyffryn Safe, hynny yw, Dyffryn y Brenin. 18  A gwnaeth Melchisedec brenin Salem ddod â bara a gwin allan; roedd ef yn offeiriad y Duw Goruchaf. 19  Yna dyma’n ei fendithio a dweud: “Bendigedig fydd Abram gan y Duw Goruchaf,Yr un a wnaeth y nef a’r ddaear; 20  A chlod i’r Duw Goruchaf,Sydd wedi rhoi dy ormeswyr yn dy ddwylo di!” A dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o’r cwbl. 21  Ar ôl hynny dywedodd brenin Sodom wrth Abram: “Rho’r bobl imi, ond cymera’r eiddo i ti dy hun.” 22  Ond dywedodd Abram wrth frenin Sodom: “Rydw i’n codi fy llaw mewn llw i Jehofa y Duw Goruchaf, yr un a wnaeth y nef a’r ddaear, 23  na fydda i’n cymryd unrhyw beth sy’n perthyn iti, nid edau na charrai* sandal, fel na fyddi di’n dweud, ‘Fi a wnaeth Abram yn gyfoethog.’ 24  Fydda i ddim yn cymryd dim byd heblaw am beth mae’r dynion ifanc eisoes wedi ei fwyta. Ynglŷn â rhan y dynion a aeth gyda mi, Aner, Escol, a Mamre—gad iddyn nhw gymryd eu rhan nhw.”

Troednodiadau

Neu “y Môr Heli.”
Neu “byw mewn pebyll.”
Llyth., “ei frawd.”
Neu “menywod.”
Neu “lasyn.”