Genesis 24:1-67
24 Roedd Abraham wedi mynd yn hen erbyn hyn, ac roedd Jehofa wedi bendithio Abraham ym mhob peth.
2 Dywedodd Abraham wrth ei was, yr hynaf yn ei dŷ, a oedd yn gofalu am bopeth roedd ganddo: “Plîs, rho dy law o dan fy nghlun,
3 ac fe wna i achosi iti wneud llw i Jehofa, Duw’r nefoedd a Duw’r ddaear, na fyddi di’n cymryd gwraig i fy mab o ferched y Canaaneaid, y rhai rydw i’n byw yn eu plith.
4 Mae’n rhaid iti fynd yn hytrach i fy ngwlad i ac at fy mherthnasau a chymryd gwraig i fy mab, Isaac.”
5 Fodd bynnag, dywedodd y gwas wrtho: “Beth petai’r ddynes* yn gwrthod dod gyda mi i’r wlad hon? Ydw i wedyn yn gorfod mynd â dy fab yn ôl i’r wlad y dest ti ohoni hi?”
6 Ar hynny dywedodd Abraham wrtho: “Gwna’n siŵr nad wyt ti’n mynd â fy mab yno.
7 Jehofa, Duw’r nefoedd, a wnaeth fy nghymryd i o dŷ fy nhad ac o wlad fy mherthnasau a’r un a wnaeth siarad â mi a thyngu llw wrtho i: ‘Rydw i am roi’r wlad hon i dy ddisgynyddion,’* ef yw’r un a fydd yn anfon ei angel o dy flaen di, a byddi di’n bendant yn cymryd gwraig i fy mab o’r fan honno.
8 Ond os ydy’r ddynes* yn anfodlon dod gyda ti, fe fyddi di’n rhydd oddi wrth y llw hwn. Ond mae’n rhaid iti beidio â mynd â fy mab yno.”
9 Gyda hynny rhoddodd y gwas ei law o dan glun Abraham ei feistr a gwneud llw iddo ynglŷn â’r mater hwn.
10 Felly cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr a mynd i ffwrdd, gan gymryd gydag ef bob math o bethau da roedd ei feistr wedi eu rhoi. Yna fe aeth ar ei daith i Mesopotamia, i ddinas Nachor.
11 Fe wnaeth i’r camelod orwedd wrth ymyl ffynnon ddŵr y tu allan i’r ddinas. Roedd hi gyda’r hwyr, yr amser pan fyddai’r merched* yn mynd allan i godi dŵr.
12 Yna dywedodd: “Jehofa, Duw fy meistr Abraham, plîs rho lwyddiant imi’r diwrnod hwn, a dangosa dy gariad ffyddlon tuag at fy meistr Abraham.
13 Dyma fi’n sefyll wrth ffynnon ddŵr, ac mae merched dynion y ddinas yn dod allan i godi dŵr.
14 Y ddynes* ifanc y bydda i’n dweud wrthi, ‘Plîs, gad imi gael diod o dy jar ddŵr,’ ac sy’n ateb, ‘Cymera ddiod, ac fe wna i roi dŵr i dy gamelod hefyd,’ gad i hon fod yr un rwyt ti’n ei dewis ar gyfer dy was Isaac; a thrwy hyn rho wybod imi dy fod ti wedi dangos dy gariad ffyddlon tuag at fy meistr.”
15 Hyd yn oed cyn iddo orffen siarad, gwnaeth Rebeca, a oedd yn ferch i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham, ddod allan â’i jar ddŵr ar ei hysgwydd.
16 Nawr roedd y ddynes* ifanc yn hardd iawn, yn wyryf; doedd yr un dyn wedi cael rhyw gyda hi. Aeth hi i lawr i’r ffynnon, llenwi ei jar ddŵr, ac yna dod yn ôl i fyny.
17 Ar unwaith rhedodd y gwas i’w chyfarfod hi a dweud: “Plîs, rho ychydig o ddŵr imi o dy jar.”
18 Dywedodd hithau: “Yfa, fy arglwydd.” A dyma hi’n gyflym yn tynnu’r jar i lawr oddi ar ei hysgwydd a’i dal tra oedd hi’n rhoi diod iddo.
19 Ar ôl iddi orffen rhoi diod iddo, fe ddywedodd hi: “Fe wna i hefyd godi dŵr ar gyfer dy gamelod nes y byddan nhw wedi gorffen yfed.”
20 Felly brysiodd hi i wagio ei jar i mewn i’r cafn dŵr a rhedeg dro ar ôl tro i’r ffynnon i godi dŵr, ac roedd hi’n parhau i godi dŵr ar gyfer ei holl gamelod.
21 Yr holl amser roedd y dyn yn syllu mewn syndod arni hi heb ddweud yr un gair, yn ceisio dyfalu a oedd Jehofa wedi gwneud ei daith yn llwyddiannus neu beidio.
22 Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, rhoddodd y dyn iddi fodrwy drwyn aur yn pwyso hanner sicl* a dwy freichled aur yn pwyso deg sicl,*
23 ac fe ddywedodd: “Plîs, dweud wrtho i, merch pwy wyt ti? Oes ’na le yn nhŷ dy dad inni gael aros dros nos?”
24 Atebodd hithau: “Merch Bethuel ydw i. Fy nhad ydy mab Milca a Nachor.”
25 Ac fe ychwanegodd hi: “Mae gynnon ni wellt a bwyd ar gyfer y camelod a lle ichi aros dros nos.”
26 Yna dyma’r dyn yn ymgrymu ac yn syrthio ar ei hyd o flaen Jehofa
27 ac yn dweud: “Rydw i’n dymuno i Jehofa gael ei foli, Duw fy meistr Abraham, oherwydd ei fod wedi parhau i ddangos ei gariad ffyddlon a’i ffyddlondeb tuag at fy meistr. Mae Jehofa wedi fy arwain i i dŷ brodyr fy meistr.”
28 A rhedodd y ddynes* ifanc i ddweud wrth ei mam ac eraill am y pethau hyn.
29 Nawr roedd gan Rebeca frawd a’i enw oedd Laban. Felly rhedodd Laban at y dyn a oedd y tu allan wrth y ffynnon.
30 Pan welodd y fodrwy drwyn a’r breichledau ar ddwylo ei chwaer a chlywed geiriau ei chwaer Rebeca, a oedd yn dweud, “Dyma’r ffordd gwnaeth y dyn siarad â mi,” fe ddaeth i gwrdd â’r dyn, a oedd yn dal i sefyll yno gyda’r camelod wrth y ffynnon.
31 Ar unwaith fe ddywedodd: “Tyrd, rwyt ti wedi cael dy fendithio gan Jehofa. Pam rwyt ti’n dal i sefyll y tu allan? Rydw i wedi paratoi’r tŷ a lle i’r camelod.”
32 Gyda hynny daeth y dyn i mewn i’r tŷ, ac fe wnaeth ef* dynnu’r harneisiau oddi ar y camelod a rhoi gwellt a bwyd i’r camelod a dŵr i olchi ei draed a thraed y dynion a oedd gydag ef.
33 Fodd bynnag, pan gafodd bwyd ei osod o’i flaen, dywedodd: “Dydw i ddim yn mynd i fwyta nes imi ddweud wrthot ti’r hyn sydd gen i i’w ddweud.” Felly dywedodd Laban: “Siarada!”
34 Yna dywedodd: “Gwas Abraham ydw i.
35 Ac mae Jehofa wedi bendithio fy meistr yn fawr iawn, ac mae wedi ei wneud yn gyfoethog iawn drwy roi iddo ddefaid a gwartheg, arian ac aur, gweision a morynion, a chamelod ac asynnod.
36 Ymhellach, gwnaeth Sara, gwraig fy meistr, eni mab i fy meistr ar ôl iddi fynd yn hen, a bydd yn rhoi popeth sydd ganddo iddo.
37 Felly dyma fy meistr yn gwneud imi fynd ar fy llw, gan ddweud: ‘Paid â chymryd gwraig i fy mab o ferched y Canaaneaid, y bobl rydw i’n byw yn eu gwlad nhw.
38 Na, mae’n rhaid iti fynd i dŷ fy nhad ac at fy nheulu, ac mae’n rhaid iti gymryd gwraig i fy mab.’
39 Ond dywedais wrth fy meistr: ‘Beth petai’r ddynes* yn anfodlon dod gyda mi?’
40 Fe ddywedodd wrtho i: ‘Bydd Jehofa, yr un rydw i’n cerdded o’i flaen, yn anfon ei angel gyda ti a bydd yn sicr o wneud dy daith yn llwyddiannus, ac mae’n rhaid iti gymryd gwraig i fy mab o fy nheulu ac o dŷ fy nhad.
41 Fe fyddi di’n cael dy ryddhau oddi wrth dy lw imi os gwnei di fynd at fy nheulu a nhwthau ddim yn ei rhoi hi iti. Bydd hyn yn dy ryddhau di oddi wrth dy lw.’
42 “Pan gyrhaeddais i’r ffynnon heddiw, dywedais i: ‘Jehofa, Duw fy meistr Abraham, os gwnei di fy nhaith yn llwyddiannus,
43 dyma fi’n sefyll wrth ymyl ffynnon. Pan fydd dynes* ifanc yn dod i godi dŵr, bydda i’n dweud, “Plîs, rho ychydig o ddŵr imi i’w yfed o dy jar,”
44 a bydd hi’n dweud wrtho i, “Cymera ddiod, a bydda i hefyd yn codi dŵr ar gyfer dy gamelod.” Gad i’r ddynes* honno fod yr un mae Jehofa wedi ei dewis ar gyfer mab fy meistr.’
45 “Cyn imi orffen siarad yn fy nghalon, dyma Rebeca yn dod gyda’i jar ar ei hysgwydd, ac yn gwneud ei ffordd i lawr at y ffynnon ac yn dechrau codi dŵr. Yna dywedais wrthi: ‘Rho ddiod imi, os gweli di’n dda.’
46 Felly brysiodd hi i dynnu’r jar oddi ar ei hysgwydd a dweud: ‘Cymera ddiod, ac fe wna i hefyd roi dŵr i dy gamelod.’ Yna cymerais ddiod, ac fe wnaeth hi roi dŵr i’r camelod hefyd.
47 Ar ôl hynny gofynnais iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ ac atebodd hithau, ‘Merch Bethuel, fab Nachor a Milca.’ Felly gosodais y fodrwy yn ei thrwyn a’r breichledau am ei dwylo.
48 Ac fe wnes i ymgrymu a gorwedd ar fy hyd o flaen Jehofa a moli Jehofa, Duw fy meistr Abraham, yr un a oedd wedi fy arwain i ar hyd y llwybr cywir i gymryd merch brawd fy meistr ar gyfer ei fab.
49 Ac nawr dywedwch wrtho i a ydych chi am ddangos cariad ffyddlon a ffyddlondeb tuag at fy meistr; ond os nad ydych chi, dywedwch wrtho i, fel galla i fynd ar fy ffordd i rywle arall i chwilio.”
50 Yna atebodd Laban a Bethuel: “Mae hyn yn dod oddi wrth Jehofa. Does gynnon ni ddim hawl i benderfynu ar y mater hwn.
51 Dyma Rebeca o dy flaen di. Cymera hi a dos, a gad iddi ddod yn wraig i fab dy feistr, yn union fel mae Jehofa wedi dweud.”
52 Pan glywodd gwas Abraham eu geiriau nhw, dyma’n ymgrymu i’r llawr ar unwaith o flaen Jehofa.
53 A dechreuodd y gwas estyn tlysau arian ac aur a dillad a’u rhoi nhw i Rebeca, ac fe roddodd bethau gwerthfawr i’w brawd ac i’w mam.
54 Ar ôl hynny gwnaeth ef a’r dynion gydag ef fwyta ac yfed, ac arhoson nhw yno dros nos.
Pan gododd yn y bore, fe ddywedodd: “Gadewch imi fynd at fy meistr.”
55 Dyma ei brawd a’i mam yn dweud: “Gad i’r ddynes* ifanc aros gyda ni am ddeg diwrnod o leiaf. Yna bydd hi’n gallu mynd.”
56 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Peidiwch â fy nal i yma, gan fod Jehofa wedi gwneud fy nhaith yn llwyddiannus. Anfonwch fi i ffwrdd, er mwyn imi fynd at fy meistr.”
57 Felly dywedon nhw: “Beth am inni alw’r ddynes* ifanc a gofyn iddi hi?”
58 Galwon nhw ar Rebeca a dweud wrthi: “Wyt ti’n barod i fynd gyda’r dyn hwn?” Atebodd hithau: “Rydw i’n fodlon mynd.”
59 Felly anfonon nhw i ffwrdd eu chwaer Rebeca a’r forwyn a oedd wedi ei magu hi, a gwas Abraham a’i ddynion.
60 Ac fe wnaethon nhw fendithio Rebeca a dweud wrthi: “Ein chwaer, rydyn ni’n dymuno iti ddod yn fam i filoedd o fyrddiynau,* ac i dy ddisgynyddion* di orchfygu dinasoedd* y rhai sy’n eu casáu nhw.”
61 Yna cododd Rebeca a’i morynion, mynd ar gefn y camelod, a dilyn y dyn. Felly cymerodd y gwas Rebeca a mynd ar ei daith.
62 Nawr roedd Isaac wedi dod o gyfeiriad Beer-lahai-roi, oherwydd ei fod yn byw yn ardal y Negef.
63 Ac roedd Isaac allan yn cerdded yn y cae wrth iddi nosi er mwyn myfyrio. Pan edrychodd, fe welodd gamelod yn dod!
64 Pan edrychodd Rebeca, fe welodd Isaac, a daeth hi i lawr o’r camel yn gyflym.
65 Yna gofynnodd hi i’r gwas: “Pwy ydy’r dyn hwnnw sy’n cerdded yn y cae i’n cyfarfod?” Ac atebodd y gwas: “Fy meistr ydy hwnnw.” Felly cymerodd ei fêl i’w gorchuddio ei hun.
66 A soniodd y gwas wrth Isaac am bopeth roedd wedi ei wneud.
67 Ar ôl hynny daeth Isaac â hi i mewn i babell Sara ei fam. Felly cymerodd Rebeca yn wraig iddo; ac fe syrthiodd mewn cariad â hi, ac fe gafodd Isaac gysur ar ôl colli ei fam.
Troednodiadau
^ Neu “y fenyw.”
^ Llyth., “had.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
^ Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
^ Neu “y fenyw.”
^ Efallai’n cyfeirio at Laban.
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “menyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “dod yn filoedd o ddegau o filoedd.”
^ Llyth., “had.”
^ Neu “porth.”