Genesis 26:1-35

  • Isaac a Rebeca yn Gerar (1-11)

    • Cadarnhau addewid Duw i Isaac (3-5)

  • Cweryla dros ffynhonnau (12-25)

  • Cyfamod Isaac ag Abimelech (26-33)

  • Dwy wraig Esau, merched Hethiaid (34, 35)

26  Nawr roedd ’na newyn yn y wlad, yn ogystal â’r newyn cyntaf a ddigwyddodd yn nyddiau Abraham, felly fe aeth Isaac at Abimelech brenin y Philistiaid yn Gerar. 2  Yna ymddangosodd Jehofa iddo a dweud: “Paid â mynd i lawr i’r Aifft. Arhosa yn y wlad rydw i’n ei dangos iti. 3  Mae’n rhaid iti fyw yn y wlad hon fel estronwr, a bydda i’n parhau i fod gyda ti ac i dy fendithio di oherwydd bydda i’n rhoi’r holl wledydd hyn i ti ac i dy ddisgynyddion* di, a bydda i’n gwireddu’r llw a wnes i i dy dad Abraham: 4  ‘Bydda i’n sicr yn lluosogi dy ddisgynyddion* fel sêr y nefoedd; a bydda i’n rhoi i dy ddisgynyddion* di’r holl wledydd hyn; a thrwy gyfrwng dy ddisgynnydd* di, bydd holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio,’* 5  oherwydd y ffaith fod Abraham wedi gwrando ar fy llais ac wedi parhau i gadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau, a fy nghyfreithiau.” 6  Felly arhosodd Isaac yn Gerar. 7  Pan oedd dynion y lle yn dal i ofyn am ei wraig, byddai’n dweud: “Fy chwaer i ydy hi.” Roedd arno ofn dweud, “Fy ngwraig i ydy hi,” oherwydd ei fod wedi dweud, “Efallai bydd dynion y lle yn fy lladd i o achos Rebeca,” gan ei bod hi’n hardd iawn. 8  Ar ôl i ychydig o amser fynd heibio, roedd Abimelech brenin y Philistiaid yn edrych trwy’r ffenest, ac fe welodd Isaac yn anwesu* ei wraig Rebeca. 9  Ar unwaith galwodd Abimelech ar Isaac a dweud wrtho: “Dy wraig di ydy hon! Pam gwnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Ar hynny dywedodd Isaac wrtho: “Fe wnes i ddweud hynny oherwydd fy mod i’n ofni y byddwn i’n marw o’i hachos hi.” 10  Ond aeth Abimelech yn ei flaen i ddweud: “Beth rwyt ti wedi ei wneud inni? Byddai wedi bod yn hawdd i un o’r bobl orwedd i lawr gyda dy wraig, a byddet ti wedi ein gwneud ni i gyd yn euog!” 11  Yna rhoddodd Abimelech orchymyn i’w bobl i gyd, gan ddweud: “Bydd pwy bynnag sy’n cyffwrdd â’r dyn hwn a’i wraig yn sicr o gael ei roi i farwolaeth!” 12  A dechreuodd Isaac hau had yn y wlad honno, ac yn y flwyddyn honno fe wnaeth fedi canwaith cymaint yn fwy na’r hyn roedd wedi ei hau, oherwydd bod Jehofa’n ei fendithio. 13  Daeth y dyn yn gyfoethog, ac roedd yn parhau i ffynnu nes iddo ddod yn gyfoethog iawn. 14  Roedd ganddo nifer mawr o ddefaid a gwartheg a llawer iawn o weision, a dechreuodd y Philistiaid fod yn genfigennus ohono. 15  Felly dyma’r Philistiaid yn cymryd pridd ac yn llenwi’r holl ffynhonnau roedd gweision ei dad wedi eu cloddio yn nyddiau Abraham. 16  Yna dywedodd Abimelech wrth Isaac: “Symuda o’n hardal ni, oherwydd rwyt ti wedi dod yn llawer cryfach na ni.” 17  Felly symudodd Isaac oddi yno a gwersylla yn nyffryn* Gerar a dechrau byw yno. 18  A dyma Isaac yn ailgloddio’r ffynhonnau oedd wedi cael eu cloddio yn nyddiau ei dad Abraham, y rhai roedd y Philistiaid wedi eu llenwi ar ôl i Abraham farw, ac yn rhoi’r un enwau iddyn nhw roedd ei dad wedi eu rhoi iddyn nhw. 19  Tra oedd gweision Isaac yn cloddio yn y dyffryn,* daethon nhw ar draws ffynnon o ddŵr ffres. 20  A dechreuodd bugeiliaid Gerar gweryla gyda bugeiliaid Isaac, gan ddweud: “Ni sydd biau’r dŵr!” Felly rhoddodd yr enw Esec* i’r ffynnon, am eu bod nhw wedi cweryla ag ef. 21  A dyma nhw’n dechrau cloddio ffynnon arall, a dechrau cweryla dros honno hefyd. Felly rhoddodd yr enw Sitna* arni. 22  Yn hwyrach ymlaen symudodd o’r lle hwnnw a chloddio ffynnon arall, ond wnaethon nhw ddim dadlau drosti. Felly rhoddodd yr enw Rehoboth* arni a dweud: “Nawr mae Jehofa wedi rhoi digonedd o le inni ac wedi ein gwneud ni’n ffrwythlon yn y wlad.” 23  Yna aeth i fyny oddi yno i Beer-seba. 24  Y noson honno dyma Jehofa’n ymddangos iddo a dweud: “Fi ydy Duw dy dad Abraham. Paid ag ofni, oherwydd rydw i gyda ti, a bydda i’n dy fendithio di ac yn rhoi llawer o ddisgynyddion* iti o achos Abraham fy ngwas.” 25  Felly adeiladodd allor yno a galw ar enw Jehofa. A chododd Isaac ei babell yno, a chloddiodd ei weision ffynnon yno. 26  Yn hwyrach ymlaen daeth Abimelech ato o Gerar gydag Ahussath ei gynghorwr personol a Phichol, pennaeth ei fyddin. 27  Gyda hynny dywedodd Isaac wrthyn nhw: “Pam rydych chi wedi dod ata i, a chithau wedi fy nghasáu i ac wedi fy anfon i ffwrdd o’ch ardal?” 28  Dyma nhw’n ateb: “Rydyn ni wedi gweld yn glir bod Jehofa wedi bod gyda ti. Felly dywedon ni ymysg ein gilydd, ‘Dewch inni fynd ar lw a gwneud cyfamod rhyngot ti a ni, 29  fel na fyddi di’n gwneud unrhyw beth drwg inni yn union fel dydyn ni ddim wedi dy niweidio di, o ystyried ein bod ni ond wedi gwneud pethau da iti drwy dy anfon i ffwrdd mewn heddwch. Nawr ti yw’r un mae Jehofa’n ei fendithio.’” 30  Yna dyma’n paratoi gwledd iddyn nhw, a gwnaethon nhw fwyta ac yfed. 31  Dyma nhw’n codi’n gynnar yn y bore ac yn tyngu llw i’w gilydd. Ar ôl hynny gwnaeth Isaac eu hanfon nhw i ffwrdd, ac aethon nhw oddi wrtho mewn heddwch. 32  Y diwrnod hwnnw daeth gweision Isaac ato a sôn am y ffynnon roedden nhw wedi ei chloddio, gan ddweud: “Rydyn ni wedi dod o hyd i ddŵr!” 33  Felly rhoddodd yr enw Seba arni. Dyna pam mai enw’r ddinas yw Beer-seba hyd heddiw. 34  Pan oedd Esau’n 40 mlwydd oed, cymerodd Judith ferch Beeri yr Hethiad fel gwraig, a hefyd Basemath ferch Elon yr Hethiad. 35  Roedden nhw’n gwneud bywyd yn chwerw* iawn i Isaac a Rebeca.

Troednodiadau

Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “yn derbyn bendith iddyn nhw eu hunain.”
Neu “cofleidio.”
Neu “wadi.”
Neu “wadi.”
Sy’n golygu “Dadl.”
Sy’n golygu “Cyhuddiad.”
Sy’n golygu “Llefydd Llydan.”
Llyth., “had.”
Neu “yn drist.”