Genesis 27:1-46

  • Jacob yn cael ei fendithio gan Isaac (1-29)

  • Esau yn ceisio cael ei fendithio ond yn ddiedifar (30-40)

  • Esau yn dal dig yn erbyn Jacob (41-46)

27  Nawr pan oedd Isaac yn hen a’i lygaid yn rhy wan i weld, dyma’n galw Esau, ei fab hynaf, ato a dweud wrtho: “Fy mab!” Atebodd yntau: “Dyma fi!” 2  Ac aeth ymlaen i ddweud: “Rydw i wedi heneiddio, a dydw i ddim yn gwybod am faint hirach bydda i’n byw. 3  Nawr, plîs cymera dy arfau, dy fwa a dy saethau, a dos allan i hela anifeiliaid gwyllt imi. 4  Yna gwna’r bwyd blasus rydw i’n hoff ohono a dod ag ef ata i. Yna fe wna i ei fwyta er mwyn imi allu dy fendithio di cyn imi* farw.” 5  Ond, roedd Rebeca’n gwrando tra oedd Isaac yn siarad ag Esau ei fab. Ac aeth Esau allan i hela anifeiliaid ac i ddod â nhw i mewn. 6  A dywedodd Rebeca wrth Jacob ei mab: “Rydw i newydd glywed dy dad yn siarad â dy frawd Esau, ac yn dweud, 7  ‘Tyrd â chig imi a gwna bryd o fwyd blasus imi. Yna gad imi fwyta er mwyn imi allu dy fendithio di o flaen Jehofa cyn imi farw.’ 8  Ac nawr, fy mab, gwranda’n astud a gwna beth rydw i’n ei ddweud wrthot ti. 9  Dos, plîs, at y praidd a nôl dau o’r geifr ifanc gorau oddi yno er mwyn imi allu paratoi pryd o fwyd blasus i dy dad, yn union fel mae’n hoffi. 10  Yna cymera’r bwyd i dy dad i’w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw.” 11  Dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca: “Ond mae Esau fy mrawd yn ddyn blewog, ac mae fy nghroen i’n esmwyth. 12  Beth os ydy fy nhad yn cyffwrdd â mi? Yna fe fydd yn meddwl fy mod i’n gwneud hwyl am ei ben, a bydda i’n cael melltith yn hytrach na bendith.” 13  Ar hynny dywedodd ei fam wrtho: “Bydd y felltith a fyddai wedi mynd arnat ti yn dod arna i, fy mab. Gwna beth rydw i’n ei ddweud, a dos i nôl y geifr imi.” 14  Felly fe aeth i’w nôl nhw a dod â nhw at ei fam, a dyma ei fam yn gwneud pryd o fwyd blasus, yn union fel roedd ei dad yn hoffi. 15  Ar ôl hynny cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd ganddi yn y tŷ, a’u rhoi nhw ar ei mab ieuengaf, Jacob. 16  Hefyd rhoddodd hi grwyn y geifr ifanc ar ei ddwylo ac ar y rhan o’i war oedd heb flew. 17  Yna dyma hi’n cymryd y pryd o fwyd blasus a’r bara roedd hi wedi eu gwneud a’u rhoi nhw i’w mab Jacob. 18  Felly fe aeth i mewn at ei dad a dweud: “Fy nhad!” ac atebodd yntau: “Dyma fi! Pwy wyt ti, fy mab?” 19  Dywedodd Jacob wrth ei dad: “Esau ydw i, dy gyntaf-anedig. Rydw i wedi gwneud yn union fel dywedaist ti wrtho i. Eistedda i fyny, plîs, a bwyta ychydig o’r cig, er mwyn i ti* allu fy mendithio i.” 20  Ar hynny dywedodd Isaac wrth ei fab: “Sut cest ti hyd iddo mor gyflym, fy mab?” Atebodd yntau: “Oherwydd gwnaeth Jehofa dy Dduw ddod ag ef ata i.” 21  Yna dywedodd Isaac wrth Jacob: “Tyrd yn nes, plîs, er mwyn imi gyffwrdd â ti, fy mab, imi wybod ai fy mab Esau wyt ti mewn gwirionedd neu ddim.” 22  Felly daeth Jacob yn nes at ei dad Isaac, a dyma’n cyffwrdd ag ef. Yna dywedodd: “Llais Jacob ydy’r llais, ond dwylo Esau ydy’r dwylo.” 23  Doedd Isaac ddim yn ei adnabod oherwydd roedd ei ddwylo’n flewog fel dwylo ei frawd Esau. Felly dyma’n ei fendithio. 24  Ar ôl hynny gofynnodd: “Ai fy mab Esau wyt ti mewn gwirionedd?” a dyma’n ateb: “Ie.” 25  Yna dywedodd ef: “Tyrd â pheth o’r cig imi i’w fwyta, fy mab, yna fe wna i* dy fendithio di.” Ar hynny fe ddaeth â’r cig iddo a gwnaeth ef fwyta, ac fe ddaeth â gwin iddo ac fe wnaeth yfed. 26  Yna dywedodd Isaac ei dad wrtho: “Tyrd yn nes, plîs, a rho gusan imi, fy mab.” 27  Felly daeth yn nes a’i gusanu, ac roedd yn gallu arogli ei ddillad. Yna fe wnaeth ei fendithio a dweud: “Edrycha, mae arogl fy mab fel arogl y tir mae Jehofa wedi ei fendithio. 28  Rydw i’n dymuno i’r gwir Dduw roi gwlith y nefoedd iti a phridd ffrwythlon y ddaear a digonedd o wenith a gwin newydd. 29  Bydd pobl yn dy wasanaethu di, a bydd cenhedloedd yn ymgrymu’n isel iti. Byddi di’n feistr ar dy frodyr, a bydd meibion dy fam yn ymgrymu’n isel iti. Melltith ar bawb sy’n dy felltithio di, a bendith ar bawb sy’n dy fendithio di.” 30  Nawr roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael presenoldeb ei dad Isaac, pan ddaeth ei frawd Esau yn ôl o’i hela. 31  Gwnaeth yntau hefyd baratoi pryd o fwyd blasus a dod ag ef at ei dad, a dywedodd wrth ei dad: “Cod, fy nhad, a bwyta ychydig o fy nghig, er mwyn i ti* fy mendithio i.” 32  Ar hynny dywedodd ei dad Isaac wrtho: “Pwy wyt ti?” ac atebodd: “Dy fab ydw i, dy gyntaf-anedig, Esau.” 33  A dechreuodd Isaac grynu’n ofnadwy, gan ddweud: “Felly, pwy aeth i hela a dod â’r cig ata i? Rydw i eisoes wedi ei fwyta cyn iti gyrraedd, a gwnes i ei fendithio ef—ac fe fydd yn sicr yn cael ei fendithio!” 34  Pan glywodd eiriau ei dad, dechreuodd Esau weiddi yn uchel ac yn chwerw iawn a dywedodd wrth ei dad: “Bendithia fi, ie finnau hefyd fy nhad!” 35  Ond dywedodd: “Daeth dy frawd a fy nhwyllo i er mwyn iddo ef gael y fendith roeddet ti i fod i’w chael.” 36  Ar hynny dywedodd: “Dim syndod mai Jacob* ydy ei enw, mae wedi fy nisodli i ddwywaith. Mae eisoes wedi cymryd fy hawliau fel y cyntaf-anedig, ac nawr mae wedi cymryd fy mendith!” Yna ychwanegodd: “Wyt ti wedi cadw bendith ar fy nghyfer i?” 37  Ond dyma Isaac yn ateb Esau: “Rydw i wedi ei benodi’n feistr arnat ti, ac rydw i wedi rhoi ei holl frodyr yn weision iddo, ac rydw i wedi rhoi gwenith iddo a gwin newydd. Beth sydd ar ôl imi ei roi i ti, fy mab?” 38  Dywedodd Esau wrth ei dad: “Oes ’na hyd yn oed un fendith sydd gen ti, fy nhad? Bendithia fi, ie finnau hefyd fy nhad!” Ar hynny dechreuodd Esau feichio crio. 39  Felly dyma ei dad Isaac yn ateb: “Edrycha, i ffwrdd o bridd ffrwythlon y ddaear byddi di’n byw, ac i ffwrdd o wlith y nefoedd uchod. 40  A bydd dy gleddyf gen ti drwy’r amser i dy amddiffyn dy hun, a byddi di’n gwasanaethu dy frawd. Ond pan fyddi di wedi cael digon o’i wasanaethu, byddi di’n sicr yn dy ryddhau dy hun.”* 41  Fodd bynnag, roedd Esau’n dal dig yn erbyn Jacob oherwydd y fendith a roddodd ei dad iddo, ac roedd Esau’n parhau i ddweud yn ei galon: “Bydd fy nhad yn marw cyn bo hir.* Ar ôl hynny rydw i am ladd Jacob fy mrawd.” 42  Pan gafodd geiriau ei mab hynaf Esau eu hadrodd wrth Rebeca, dyma hi ar unwaith yn anfon am ei mab ieuengaf Jacob ac yn dweud wrtho: “Edrycha! mae dy frawd Esau’n bwriadu dial arnat ti drwy dy ladd di.* 43  Nawr, fy mab, gwna beth rydw i’n ei ddweud. Cod a rheda i ffwrdd at fy mrawd Laban sydd yn Haran. 44  Dos i fyw gydag ef am gyfnod nes i ddicter dy frawd dawelu, 45  nes i lid dy frawd tuag atat ti ddiflannu ac mae’n anghofio am beth wnest ti iddo. Yna fe wna i anfon amdanat ti oddi yno. Pam dylwn i golli’r ddau ohonoch chi mewn un diwrnod?” 46  Ar ôl hynny roedd Rebeca’n parhau i ddweud wrth Isaac: “Mae fy mywyd i’n ddiflas oherwydd merched Heth. Petai Jacob yn priodi un o ferched Heth, fel y merched lleol yma, byddai’n well gen i farw.”

Troednodiadau

Neu “i fy enaid.”
Neu “dy enaid.”
Neu “bydd fy enaid yn.”
Neu “dy enaid.”
Sy’n golygu “Un Sy’n Dal yn y Sawdl; Disodlwr.”
Neu “yn torri ei iau oddi ar dy wddf.”
Neu “Mae’r dyddiau i alaru dros fy nhad yn agosáu.”
Neu “yn ei gysuro ei hun drwy feddwl am dy ladd di.”