Genesis 29:1-35
29 Ar ôl hynny parhaodd Jacob ar ei daith a mynd ymlaen i wlad pobl y Dwyrain.
2 Nawr fe welodd ffynnon yn y cae a thri phraidd o ddefaid yn gorwedd wrth ei hymyl, oherwydd fel arfer roedden nhw’n defnyddio’r ffynnon honno i roi dŵr i’r preiddiau. Roedd ’na garreg fawr dros geg y ffynnon.
3 Pan oedd yr holl breiddiau wedi cael eu casglu yno, gwnaethon nhw rolio’r garreg i ffwrdd oddi wrth geg y ffynnon, a rhoi dŵr i’r preiddiau. Ar ôl hynny dyma nhw’n rhoi’r garreg yn ôl yn ei lle dros geg y ffynnon.
4 Felly dywedodd Jacob wrthyn nhw: “Fy mrodyr, o le rydych chi’n dod?” Dyma nhw’n ateb: “Rydyn ni’n dod o Haran.”
5 Dywedodd wrthyn nhw: “Ydych chi’n adnabod Laban, ŵyr Nachor?” ac atebon nhw: “Ydyn, rydyn ni’n ei adnabod ef.”
6 Gyda hynny dywedodd wrthyn nhw: “Ydy ef yn iawn?” Atebon nhw: “Ydy, mae’n iawn. A dyma ei ferch Rachel yn dod gyda’r defaid!”
7 Yna dywedodd: “Mae hi’n dal yn ganol dydd. Nid dyna’r amser i gasglu’r preiddiau. Rhowch ddŵr i’r defaid, ac yna ewch i’w bwydo nhw.”
8 I hynny dywedon nhw: “Dydyn ni ddim yn cael gwneud hynny nes bod yr holl breiddiau wedi cael eu casglu ac maen nhw’n rholio’r garreg i ffwrdd oddi wrth geg y ffynnon. Yna rydyn ni’n rhoi dŵr i’r defaid.”
9 Tra oedd yn dal i siarad â nhw, daeth Rachel gyda defaid ei thad, oherwydd roedd hi’n eu bugeilio nhw.
10 Pan wnaeth Jacob weld Rachel, merch Laban, brawd ei fam, a defaid Laban, aeth Jacob ar unwaith i rolio’r garreg i ffwrdd oddi wrth geg y ffynnon a rhoi dŵr i ddefaid Laban, brawd ei fam.
11 Yna dyma Jacob yn cyfarch Rachel â chusan ac yn codi ei lais ac yn beichio crio.
12 A dechreuodd Jacob ddweud wrth Rachel ei fod yn perthyn i’w thad ac mai ef oedd mab Rebeca. A dyma hi’n rhedeg i ffwrdd a dweud wrth ei thad.
13 Cyn gynted ag y clywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd allan i’w gyfarfod. Gwnaeth Laban ei gofleidio a’i gusanu a dod ag ef i mewn i’w dŷ. A dechreuodd Jacob sôn wrth Laban am yr holl bethau hyn.
14 Dywedodd Laban wrtho: “Rwyt ti’n sicr yn perthyn yn agos iawn imi.”* Felly arhosodd gydag ef am fis cyfan.
15 Yna dywedodd Laban wrth Jacob: “A ddylet ti fy ngwasanaethu am ddim, dim ond am dy fod ti’n perthyn imi? Dyweda wrtho i, beth rwyt ti eisiau fel cyflog?”
16 Nawr roedd gan Laban ddwy ferch. Enw’r hynaf oedd Lea, ac enw’r ieuengaf oedd Rachel.
17 Ond doedd llygaid Lea ddim yn disgleirio. Ar y llaw arall, roedd Rachel yn ddynes* ddeniadol a phrydferth iawn.
18 Roedd Jacob wedi syrthio mewn cariad â Rachel, felly dywedodd: “Rydw i’n fodlon dy wasanaethu di am saith mlynedd am dy ferch ieuengaf, Rachel.”
19 I hyn dywedodd Laban: “Mae’n well imi ei rhoi hi i ti nag i ddyn arall. Arhosa yma gyda mi.”
20 A gwasanaethodd Jacob am saith mlynedd am Rachel, ond yn ei olwg ef roedden nhw ond fel ychydig o ddyddiau am ei fod yn ei charu hi gymaint.
21 Yna dywedodd Jacob wrth Laban: “Rho fy ngwraig imi oherwydd rydw i wedi cadw fy addewid,* a gad imi gysgu gyda hi.”
22 Gyda hynny casglodd Laban holl ddynion y lle a pharatoi gwledd.
23 Ond gyda’r nos, dyma’n penderfynu mynd â’i ferch Lea er mwyn iddo gysgu gyda hi.
24 Hefyd dyma Laban yn rhoi ei forwyn Silpa i ddod yn forwyn i’w ferch Lea.
25 Yn y bore gwelodd Jacob mai Lea oedd yno! Felly dywedodd wrth Laban: “Beth rwyt ti wedi ei wneud imi? Fe wnes i dy wasanaethu di am Rachel. Pam rwyt ti wedi fy nhwyllo i?”
26 Atebodd Laban: “Mae’n groes i’r arfer yn fan hyn i roi’r ferch ieuengaf cyn yr hynaf.
27 Gorffenna’r wythnos o ddathlu’r briodas. Ar ôl hynny byddi di hefyd yn cael y ddynes* arall hon os gwnei di fy ngwasanaethu am saith mlynedd arall.”
28 Dyna’n union a wnaeth Jacob a dathlu gweddill yr wythnos. Ar ôl hynny rhoddodd Laban ei ferch Rachel iddo fel gwraig.
29 Yn ogystal â hynny, rhoddodd Laban ei forwyn Bilha i fod yn forwyn i’w ferch Rachel.
30 Yna cysgodd Jacob gyda Rachel hefyd, ac roedd yn caru Rachel yn fwy na Lea, a gwnaeth ef wasanaethu Laban am saith mlynedd arall.
31 Pan welodd Jehofa nad oedd Lea’n cael ei charu,* rhoddodd y gallu iddi hi i ddod yn feichiog, ond roedd Rachel yn ddiffrwyth.
32 Felly daeth Lea’n feichiog a chael mab, a’i alw’n Reuben,* oherwydd dywedodd hi: “Mae hyn oherwydd bod Jehofa wedi fy ngweld i’n dioddef. Nawr bydd fy ngŵr yn dechrau fy ngharu i.”
33 A daeth hi’n feichiog eto a chael mab a dywedodd: “Mae hyn am fod Jehofa wedi gwrando. Doeddwn i ddim yn cael fy ngharu, felly rhoddodd hwn imi hefyd.” Yna rhoddodd hi’r enw Simeon* arno.
34 A daeth hi’n feichiog unwaith eto a chael mab ac yna dywedodd: “Nawr y tro hwn bydd fy ngŵr yn closio ata i, am fy mod i wedi rhoi tri mab iddo.” Felly, cafodd yr enw Lefi.*
35 A daeth hi’n feichiog unwaith eto a chael mab ac yna dywedodd: “Y tro hwn bydda i’n moli Jehofa.” Felly rhoddodd yr enw Jwda* arno. Ar ôl hynny dyma hi’n stopio cael plant.
Troednodiadau
^ Neu “Ti yw fy asgwrn a fy nghnawd.”
^ Neu “yn fenyw.”
^ Llyth., “mae fy nyddiau wedi dod i ben.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Llyth., “bod Lea’n cael ei chasáu.”
^ Sy’n golygu “Edrycha, Mab!”
^ Sy’n golygu “Clywed.”
^ Sy’n golygu “Glynu; Cysylltu; Closio.”
^ Sy’n golygu “Un Sy’n Cael Ei Foli.”