Genesis 31:1-55

  • Jacob yn gadael yn ddistaw bach am Canaan (1-18)

  • Laban yn dal i fyny â Jacob (19-35)

  • Cyfamod Jacob â Laban (36-55)

31  Ymhen amser clywodd Jacob beth roedd meibion Laban yn ei ddweud: “Mae Jacob wedi cymryd popeth oedd yn perthyn i’n tad, ac mae wedi ennill ei holl gyfoeth o eiddo ein tad.” 2  Pan fyddai Jacob yn edrych yn wyneb Laban, gwelodd nad oedd ei agwedd tuag ato yr un fath ag o’r blaen. 3  Yn y pen draw dywedodd Jehofa wrth Jacob: “Dos yn ôl i wlad dy dadau a dy berthnasau, a bydda i’n parhau gyda ti.” 4  Yna anfonodd Jacob neges at Rachel a Lea er mwyn iddyn nhw ddod allan i’r cae at ei braidd, 5  a dywedodd wrthyn nhw: “Rydw i wedi gweld bod agwedd eich tad wedi newid tuag ata i, ond mae Duw fy nhad wedi bod gyda mi. 6  Rydych chi’n sicr yn gwybod fy mod i wedi gwasanaethu eich tad â fy holl nerth. 7  Ac mae eich tad wedi ceisio fy nhwyllo i ac wedi newid fy nghyflog ddeg gwaith; ond dydy Duw ddim wedi gadael iddo fy niweidio i. 8  Ar yr un llaw pan oedd eich tad yn dweud, ‘Y rhai â smotiau fydd dy gyflog,’ yna roedd y praidd cyfan yn cynhyrchu rhai â smotiau; ond ar y llaw arall pan oedd yn dweud, ‘Y rhai streipiog fydd dy gyflog,’ yna roedd y praidd cyfan yn cynhyrchu rhai streipiog. 9  Felly roedd Duw yn parhau i gymryd anifeiliaid eich tad oddi wrtho a’u rhoi nhw i mi. 10  Un tro pan oedd y praidd yn barod i genhedlu, gwnes i godi fy llygaid a gweld mewn breuddwyd fod y geifr gwryw a oedd yn beichiogi’r praidd yn streipiog, yn frith, ac a smotiau arnyn nhw. 11  Yna dyma angel y gwir Dduw yn dweud wrtho i yn y freuddwyd, ‘Jacob!’ ac atebais, ‘Dyma fi.’ 12  Ac aeth ymlaen i ddweud, ‘Cod dy lygaid, plîs, a gweld bod yr holl eifr gwryw sy’n beichiogi’r praidd yn streipiog, yn frith, ac a smotiau arnyn nhw, oherwydd rydw i wedi gweld popeth mae Laban yn ei wneud iti. 13  Fi ydy gwir Dduw Bethel, lle gwnest ti eneinio colofn a lle gwnest ti adduned imi. Nawr cod, dos allan o’r wlad hon, a dos yn ôl i’r wlad lle cest ti dy eni.’” 14  Ar hynny, dyma Rachel a Lea yn ateb: “Oes ’na unrhyw beth ar ôl i ni ei etifeddu o dŷ ein tad? 15  Onid ydy ef yn ein hystyried ni’n estronwyr, gan ei fod wedi ein gwerthu ni ac wedi bod yn gwario’r arian a gafodd ei dalu amdanon ni? 16  Mae’r holl gyfoeth mae Duw wedi ei gymryd oddi wrth ein tad yn perthyn i ni ac i’n plant. Felly, gwna bopeth mae Duw wedi ei ddweud wrthot ti.” 17  Yna cododd Jacob a rhoddodd ei blant a’i wragedd ar gefn y camelod, 18  a dechreuodd yrru ei braidd cyfan a’r holl eiddo roedd ef wedi ei gasglu, yr anifeiliaid roedd wedi eu casglu yn Padan-aram, i fynd at Isaac ei dad yng ngwlad Canaan. 19  Nawr roedd Laban wedi mynd i gneifio ei ddefaid, a dyma Rachel yn dwyn y delwau teraffim* a oedd yn perthyn i’w thad. 20  Ar ben hynny, roedd Jacob wedi twyllo Laban yr Aramead drwy beidio â dweud wrtho ei fod yn rhedeg i ffwrdd. 21  A dyma’n rhedeg i ffwrdd a chroesi’r Afon,* ef a phopeth oedd ganddo. Yna aeth tuag at ardal fynyddig Gilead. 22  Ar y trydydd diwrnod, clywodd Laban fod Jacob wedi rhedeg i ffwrdd. 23  Felly cymerodd ei frodyr* gydag ef a mynd ar eu holau ar daith saith diwrnod a dal i fyny â nhw yn ardal fynyddig Gilead. 24  Yna daeth Duw at Laban yr Aramead mewn breuddwyd yn ystod y nos a dywedodd wrtho: “Bydda’n ofalus beth rwyt ti’n ei ddweud wrth Jacob, yn dda neu’n ddrwg.” 25  Felly aeth Laban at Jacob, am fod Jacob wedi codi ei babell ar y mynydd ac roedd Laban wedi gwersylla gyda’i frodyr yn ardal fynyddig Gilead. 26  Yna dywedodd Laban wrth Jacob: “Beth rwyt ti wedi ei wneud? Pam rwyt ti wedi penderfynu fy nhwyllo i a chipio fy merched fel caethion mewn rhyfel? 27  Pam gwnest ti redeg i ffwrdd yn ddistaw bach a fy nhwyllo i a pheidio â dweud wrtho i? Petaset ti wedi dweud wrtho i, byddwn i wedi gallu dy anfon i ffwrdd â llawenydd ac â chaneuon, â thambwrîn ac â thelyn. 28  Ond wnest ti ddim rhoi cyfle imi gusanu fy wyrion a fy merched. Rwyt ti wedi gwneud peth gwirion. 29  Byddwn i’n gallu gwneud niwed i chi, ond gwnaeth Duw dy dad siarad â mi neithiwr, gan ddweud, ‘Bydda’n ofalus beth rwyt ti’n ei ddweud wrth Jacob, yn dda neu’n ddrwg.’ 30  Nawr rwyt ti wedi mynd oherwydd rwyt ti wedi bod yn hiraethu am fynd yn ôl i dŷ dy dad, ond pam rwyt ti wedi dwyn fy nuwiau?” 31  Dyma Jacob yn ateb Laban: “Gwnes i hyn am fod arna i ofn, oherwydd dywedais wrtho i fy hun, ‘Efallai bydd ef yn cymryd ei ferched oddi arna i trwy drais.’ 32  Os wyt ti’n darganfod bod gan unrhyw un yma dy dduwiau, fydd ef ddim yn cael byw. O flaen ein brodyr, chwilia drwy’r hyn sydd gen i, a chymera beth sy’n perthyn i ti.” Ond doedd Jacob ddim yn gwybod bod Rachel wedi eu dwyn nhw. 33  Felly aeth Laban i mewn i babell Jacob ac i mewn i babell Lea ac i mewn i babell y ddwy gaethferch, ond ni ddaeth o hyd iddyn nhw. Yna daeth allan o babell Lea ac aeth i mewn i babell Rachel. 34  Yn y cyfamser, roedd Rachel wedi cymryd yr eilunod teraffim a’u rhoi nhw yng nghyfrwy’r* camel, ac roedd hi’n eistedd arnyn nhw. Felly chwiliodd Laban drwy’r holl babell, ond ni ddaeth o hyd iddyn nhw. 35  Yna dywedodd hi wrth ei thad: “Paid â gwylltio, fy arglwydd, oherwydd dydw i ddim yn gallu codi o dy flaen di, oherwydd mae’r misglwyf arna i.”* Felly parhaodd i chwilio’n ofalus, ond ni ddaeth o hyd i’r delwau teraffim. 36  Ar hynny dyma Jacob yn gwylltio ac yn dechrau beirniadu Laban. Yna dywedodd Jacob wrth Laban: “Beth rydw i wedi ei wneud o’i le, ac am ba bechod rwyt ti’n fy nilyn i mor frwd? 37  Nawr dy fod ti wedi chwilio drwy fy holl eiddo, beth rwyt ti wedi dod o hyd iddo sy’n perthyn i dy dŷ di? Rho’r peth yma o flaen fy mrodyr i a dy frodyr di, a gad iddyn nhw benderfynu rhwng y ddau ohonon ni. 38  Yn ystod yr 20 mlynedd rydw i wedi bod gyda ti, dydy dy ddefaid na dy eifr erioed wedi erthylu,* a dydw i erioed wedi bwyta hyrddod* dy braidd. 39  Ni wnes i ddod ag unrhyw anifail oedd wedi ei ladd gan fwystfilod gwyllt iti. Byddwn i’n talu amdano fy hun. Pan oedd anifail yn cael ei ddwyn yn ystod y dydd neu yn y nos, byddet ti’n mynnu iawndal gen i. 40  Yn ystod y dydd roeddwn i’n dioddef oherwydd y gwres, ac oherwydd yr oerni yn ystod y nos, a byddwn i’n colli cwsg yn aml. 41  Rydw i wedi byw gyda ti am 20 mlynedd. Rydw i wedi dy wasanaethu di am 14 o flynyddoedd ar gyfer dy ddwy ferch a 6 mlynedd ar gyfer dy braidd, ac rwyt ti wedi parhau i newid fy nghyflog ddeg gwaith. 42  Petai Duw fy nhad, Duw Abraham a’r Un mae Isaac yn ei ofni, ddim wedi bod ar fy ochr, byddet ti nawr wedi fy anfon i i ffwrdd heb ddim byd. Mae Duw wedi gweld fy nhreialon a fy ngwaith caled, a dyna pam gwnaeth ef dy geryddu di neithiwr.” 43  Yna gwnaeth Laban ateb Jacob: “Fy merched i yw’r merched a fy mhlant i yw’r plant a fy mhraidd i yw’r praidd, ac mae popeth rwyt ti’n ei weld yn perthyn i fi ac i fy merched. Sut galla i wneud niwed iddyn nhw neu i’w plant? 44  Nawr tyrd, gad inni wneud cyfamod rhyngot ti a minnau, a bydd hwnnw’n dystiolaeth rhyngon ni.” 45  Felly cymerodd Jacob garreg a’i gosod fel colofn. 46  Yna dywedodd Jacob wrth ei frodyr: “Casglwch gerrig!” A chymeron nhw gerrig a gwneud pentwr. Ar ôl hynny gwnaethon nhw fwyta yno ar y pentwr o gerrig. 47  A dechreuodd Laban ei alw’n Jegar-sahadwtha,* ond gwnaeth Jacob ei alw’n Galeed.* 48  Yna dywedodd Laban: “Mae’r pentwr hwn o gerrig yn dystiolaeth rhyngot ti a minnau heddiw.” Dyna pam gwnaeth ef ei alw’n Galeed, 49  a’r Tŵr Gwylio, oherwydd dywedodd ef: “Bydd Jehofa yn ein gwylio ni pan fyddwn ni allan o olwg ein gilydd. 50  Os wyt ti’n cam-drin fy merched ac yn dechrau cymryd gwragedd heblaw fy merched i, cofia hyn: Hyd yn oed os nad ydy dyn yn ei weld, bydd Duw, sy’n dyst rhyngon ni, yn gweld.” 51  Aeth Laban ymlaen i ddweud wrth Jacob: “Dyma’r pentwr hwn o gerrig, a dyma’r golofn rydw i wedi ei gosod rhyngot ti a mi. 52  Mae’r pentwr hwn o gerrig, a’r golofn yn dystiolaeth sy’n dangos na fydda i’n dod heibio’r pentwr hwn o gerrig i wneud niwed i ti, ac ni fyddi di’n dod heibio’r pentwr hwn o gerrig a’r golofn hon i wneud niwed i mi. 53  Bydd Duw Abraham a Duw Nachor, Duw eu tad, yn barnu rhyngon ni.” A dyma Jacob yn tyngu llw yn enw’r Un mae ei dad Isaac yn ei ofni. 54  Ar ôl hynny offrymodd Jacob aberth ar y mynydd a gwahodd ei frodyr i fwyta bara. Felly gwnaethon nhw fwyta ac aros ar y mynydd dros nos. 55  Ond, cododd Laban yn gynnar yn y bore a chusanu ei wyrion a’i ferched a’u bendithio nhw. Yna gadawodd Laban a mynd yn ôl adref.

Troednodiadau

Neu “duwiau’r teulu; eilunod.”
Hynny yw, Afon Ewffrates.
Neu “ei berthnasau.”
Cyfrwy neu sedd ar gyfer merched, oedd â lle i gadw pethau.
Llyth., “mae arfer merched arna i.”
Neu “wedi camesgor.”
Neu “meheryn.”
Ymadrodd Aramaeg sy’n golygu “Pentwr o Gerrig Sy’n Dystiolaeth o Rywbeth.”
Ymadrodd Hebraeg sy’n golygu “Pentwr o Gerrig Sy’n Dystiolaeth o Rywbeth.”