Genesis 32:1-32
32 Yna aeth Jacob ar ei daith, a dyma angylion Duw yn cyfarfod ag ef.
2 Cyn gynted ag y gwelodd ef yr angylion, dywedodd Jacob: “Dyma wersyll Duw!” Felly enwodd y lle hwnnw yn Mahanaim.*
3 Yna anfonodd Jacob negeswyr o’i flaen at ei frawd Esau yng ngwlad Seir, tiriogaeth* Edom,
4 a gorchymyn iddyn nhw: “Dyma beth y byddwch chi’n ei ddweud wrth fy arglwydd, Esau, ‘Dyma beth mae dy was Jacob yn ei ddweud: “Rydw i wedi bod yn byw* gyda Laban am amser maith hyd heddiw.
5 Ac mae gen i deirw, asynnod, defaid, gweision a morynion, ac rydw i’n anfon y neges hon at fy arglwydd er mwyn imi gael ffafr yn dy olwg.”’”
6 Ymhen amser, daeth y negeswyr yn ôl at Jacob gan ddweud: “Fe wnaethon ni gwrdd â dy frawd Esau, ac mae ef nawr ar ei ffordd i dy gyfarfod di, ac mae ganddo 400 o ddynion gydag ef.”
7 A daeth Jacob yn ofnus iawn ac yn llawn pryder. Felly rhannodd y bobl a oedd gydag ef, yn ogystal â’r preiddiau, y gwartheg, a’r camelod, yn ddau wersyll.
8 Fe ddywedodd: “Os ydy Esau yn ymosod ar un gwersyll, yna mae’r gwersyll arall yn gallu dianc.”
9 Ar ôl hynny dywedodd Jacob: “O Dduw fy nhad Abraham a Duw fy nhad Isaac, O Jehofa, ti yw’r un sy’n dweud wrtho i, ‘Dos yn ôl i dy wlad ac at dy berthnasau, ac fe wna i ddaioni iti,’
10 dydw i ddim yn deilwng o dy gariad ffyddlon nac o dy holl ffyddlondeb rwyt ti wedi ei ddangos tuag at dy was, oherwydd fe wnes i groesi’r Iorddonen hon gyda fy ffon yn unig, ac nawr rydw i wedi dod yn ddau wersyll.
11 Achuba fi plîs, o law fy mrawd Esau, oherwydd fy mod i yn ei ofni, a rhag ofn iddo ddod ac ymosod arna i, a hefyd ar y mamau a’u plant.
12 Ac rwyt ti wedi dweud: ‘Yn bendant, fe wna i ddaioni i ti, a bydd dy ddisgynyddion* di fel tywod y môr, sy’n rhy niferus i’w cyfri.’”
13 Ac arhosodd dros nos yno. Yna, cymerodd rai o’r pethau oedd ganddo yn anrheg i’w frawd Esau:
14 200 o eifr benyw, 20 o eifr gwryw, 200 o ddefaid, 20 o hyrddod,
15 30 o gamelod oedd yn magu eu rhai bach, 40 o wartheg, 10 o deirw, 20 o asennod, a 10 asen wedi llawn dyfu.
16 Rhoddodd yr anifeiliaid yng ngofal ei weision, un grŵp ar ôl y llall, a dywedodd wrth ei weision: “Ewch chi o fy mlaen i, a gwnewch yn siŵr fod ’na fwlch rhwng pob grŵp a’r nesaf.”
17 Gorchmynnodd hefyd i’r un cyntaf: “Os bydd Esau fy mrawd yn dod i dy gyfarfod di, ac yn gofyn, ‘I bwy rwyt ti’n perthyn, ac i le rwyt ti’n mynd, a phwy biau’r anifeiliaid hyn o dy flaen di?’
18 yna dylet ti ddweud, ‘I dy was Jacob. Maen nhw wedi cael eu hanfon yn anrheg i fy arglwydd, Esau, ac edrycha! mae Jacob ei hun y tu ôl inni.’”
19 A rhoddodd hefyd yr un gorchymyn i’r ail, y trydydd, a phob un a oedd yn dilyn yr anifeiliaid: “Fel hyn y dylech chi siarad ag Esau pan fyddwch chi’n ei gyfarfod.
20 Ac fe ddylech chi ddweud hefyd, ‘Mae dy was Jacob y tu ôl inni.’” Oherwydd dywedodd wrtho’i hun: ‘Os medra i ei feddalu drwy anfon anrheg o fy mlaen i, wedyn, pan fydda i’n ei weld, efallai y bydd yn fy nerbyn i’n garedig.’
21 Felly anfonodd yr anrheg o’i flaen, ond fe dreuliodd yntau’r noson honno yn y gwersyll.
22 Yn nes ymlaen yn ystod y noson honno, fe gododd a chymryd ei ddwy wraig, a’i ddwy forwyn, a’i 11 mab ifanc a chroesi rhyd Jabboc.
23 Felly dyma’n eu cymryd nhw ac yn eu hanfon nhw dros yr afon,* a phopeth arall oedd ganddo hefyd.
24 Yn y diwedd, roedd Jacob ar ei ben ei hun. Yna, dechreuodd dyn ymladd ag ef nes iddi wawrio.
25 Pan welodd y dyn nad oedd yn gallu ei drechu, cyffyrddodd â soced ei glun; ac fe gafodd soced clun Jacob ei ddatgymalu wrth iddo ymladd ag ef.
26 Ar ôl hynny, dywedodd y dyn: “Gad imi fynd, oherwydd mae hi’n gwawrio.” Atebodd Jacob: “Dydw i ddim am adael iti fynd nes iti fy mendithio i.”
27 Felly dywedodd wrtho: “Beth ydy dy enw?” ac atebodd yntau: “Jacob.”
28 Yna dywedodd: “Nid Jacob ydy dy enw mwyach, ond Israel,* oherwydd dy fod ti wedi ymdrechu yn erbyn Duw ac yn erbyn dynion, ac wedi ennill yn y diwedd.”
29 A gofynnodd Jacob iddo: “Dyweda wrtho i plîs beth ydy dy enw.” Fodd bynnag, dywedodd: “Pam rwyt ti’n gofyn fy enw?” Gyda hynny, dyma’n bendithio Jacob yno.
30 Felly enwodd Jacob y lle yn Peniel,* a dweud, “Rydw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb, ond eto fe gafodd fy mywyd ei arbed.”
31 Ac fe gododd yr haul arno wrth iddo fynd heibio i Penuel,* ond roedd yn cerdded yn gloff o achos ei glun.
32 Dyna pam dydy meibion Israel ddim yn bwyta gewyn y glun hyd heddiw, sydd ar soced cymal y glun, oherwydd ei fod wedi cyffwrdd â soced cymal clun Jacob, lle mae gewyn y glun.
Troednodiadau
^ Sy’n golygu “Dau Wersyll.”
^ Llyth., “cae.”
^ Neu “byw fel estronwr.”
^ Llyth., “had.”
^ Neu “sychnant, wadi.”
^ Sy’n golygu “Yr Un Sy’n Ymdrechu yn Erbyn Duw” neu “Duw Sy’n Ymdrechu.”
^ Sy’n golygu “Wyneb Duw.”
^ Neu “Peniel.”