Genesis 37:1-36
37 Roedd Jacob yn dal i fyw yng ngwlad Canaan, lle roedd ei dad wedi byw fel estronwr.
2 Dyma hanes Jacob.
Pan oedd Joseff yn 17 mlwydd oed, roedd y dyn ifanc yn gofalu am y praidd gyda meibion Bilha a meibion Silpa, gwragedd ei dad. A soniodd Joseff wrth ei dad am y pethau drwg roedd ei frodyr yn eu gwneud.
3 Nawr roedd Israel yn caru Joseff yn fwy na’i holl feibion eraill oherwydd iddo gael ei eni pan oedd yn hen ddyn, ac fe wnaeth gôt* arbennig iddo.
4 Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr dechreuon nhw ei gasáu, a doedden nhw ddim yn gallu siarad yn garedig ag ef.
5 Yn nes ymlaen, cafodd Joseff freuddwyd a soniodd amdani wrth ei frodyr, ac roedden nhw felly yn ei gasáu yn fwy byth.
6 Dywedodd wrthyn nhw: “Plîs, gwrandewch ar y freuddwyd hon ges i.
7 Dyna lle roedden ni yn rhwymo ysgubau ynghanol y cae a dyma fy ysgub i yn codi ac yn sefyll yn syth, a dyma eich ysgubau chi yn ei hamgylchynu ac yn ymgrymu i fy ysgub i.”
8 Dywedodd ei frodyr wrtho: “Wyt ti’n wir yn mynd i wneud dy hun yn frenin arnon ni, ac arglwyddiaethu arnon ni?” Felly roedd ganddyn nhw reswm arall i’w gasáu, o achos ei freuddwydion a’r hyn a ddywedodd.
9 Ar ôl hynny, fe gafodd freuddwyd arall, a soniodd amdani wrth ei frodyr: “Rydw i wedi cael breuddwyd arall. Y tro hwn, roedd yr haul a’r lleuad ac 11 o sêr yn ymgrymu imi.”
10 Yna, fe aeth ati i sôn am y freuddwyd wrth ei dad ynghyd â’i frodyr, a cheryddodd ei dad ef a dweud wrtho: “Beth ydy ystyr dy freuddwyd di? Ydw i a dy fam a dy frodyr yn wir yn mynd i ymgrymu o dy flaen di?”
11 Ac roedd ei frodyr yn genfigennus iawn ohono, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof.
12 Nawr, aeth ei frodyr â phraidd eu tad i bori wrth ymyl Sechem.
13 Yn nes ymlaen, dywedodd Israel wrth Joseff: “Mae dy frodyr yn gofalu am y praidd wrth ymyl Sechem. Dos atyn nhw.” Atebodd Joseff: “Iawn, rydw i’n barod.”
14 Felly dywedodd wrtho: “Dos plîs i weld a ydy dy frodyr yn iawn. Dos i weld sut mae’r praidd, a thyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Gyda hynny, gwnaeth ef ei anfon i ffwrdd o Ddyffryn* Hebron, ac aeth ymlaen tuag at Sechem.
15 Yn hwyrach ymlaen, daeth dyn o hyd iddo yn cerdded trwy gae. Gofynnodd y dyn wrtho: “Beth rwyt ti’n edrych amdano?”
16 Ac atebodd ef: “Rydw i’n edrych am fy mrodyr. Wyt ti’n gwybod ble maen nhw’n gofalu am y preiddiau?”
17 Aeth y dyn ymlaen i ddweud: “Maen nhw wedi gadael fan hyn oherwydd fy mod i wedi eu clywed nhw’n dweud, ‘Gadewch inni fynd i Dothan.’” Felly aeth Joseff i Dothan a dod o hyd i’w frodyr yno.
18 Nawr, fe welson nhw ef yn dod o bell, a chyn iddo eu cyrraedd nhw, dechreuon nhw gynllwynio yn ei erbyn i’w ladd.
19 Felly dywedon nhw wrth ei gilydd: “Edrychwch! Mae’r breuddwydiwr mawr yn dod.
20 Gadewch inni ei ladd a’i daflu i mewn i ryw bydew dŵr, a gwnawn ni ddweud bod anifail ffyrnig wedi ei fwyta. Gawn ni weld beth ddaw o’i freuddwydion wedyn.”
21 Pan glywodd Reuben hyn, ceisiodd ei achub rhagddyn nhw. Felly dywedodd: “Does dim angen inni ei ladd.”
22 Dywedodd Reuben wrthyn nhw: “Peidiwch â thywallt* gwaed. Taflwch ef i mewn i’r pydew dŵr hwn yn yr anialwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Ei fwriad oedd ei achub rhagddyn nhw er mwyn mynd ag ef yn ôl at ei dad.
23 Felly unwaith i Joseff ddod at ei frodyr, gwnaethon nhw dynnu côt Joseff oddi arno, y gôt arbennig roedd yn ei gwisgo,
24 a gwnaethon nhw ei gymryd a’i daflu i mewn i’r pydew dŵr. Ar y pryd, roedd y pydew yn wag; doedd ’na ddim dŵr ynddo.
25 Yna eisteddon nhw i lawr i fwyta. Pan edrychon nhw i fyny, roedd ’na grŵp o Ismaeliaid a oedd yn fasnachwyr yn dod o Gilead. Roedd eu camelod yn cario gwm labdanum,* balm, a rhisgl resinaidd, ac roedden nhw ar eu ffordd i lawr i’r Aifft.
26 Gyda hynny, dywedodd Jwda wrth ei frodyr: “Sut byddwn ni’n elwa o ladd ein brawd a chuddio’r peth?*
27 Dewch inni ei werthu i’r Ismaeliaid a pheidio â gwneud niwed iddo. Wedi’r cwbl, ef yw ein brawd, ein cnawd.” Felly gwnaethon nhw wrando ar eu brawd.
28 A phan oedd y masnachwyr o Midian yn mynd heibio, gwnaeth brodyr Joseff ei godi allan o’r pydew dŵr a’i werthu i’r Ismaeliaid am 20 darn o arian. Aeth yr Ismaeliaid â Joseff i’r Aifft.
29 Yn nes ymlaen, pan aeth Reuben yn ôl i’r pydew dŵr a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad.
30 Pan aeth yn ôl at ei frodyr, dywedodd: “Mae ein brawd bach wedi mynd! Beth ydw i’n mynd i’w wneud?”
31 Felly cymeron nhw gôt Joseff, a lladd bwch gafr a throchi’r gôt yn y gwaed.
32 Ar ôl hynny, anfonon nhw’r gôt arbennig at eu tad gan ddweud: “Rydyn ni wedi dod o hyd i hon. Plîs edrycha i weld ai côt dy fab ydy hon neu ddim.”
33 Yna edrychodd arni a dywedodd: “Côt fy mab ydy hon! Mae’n rhaid bod anifail ffyrnig wedi ei fwyta! Mae’n rhaid bod Joseff wedi cael ei rwygo’n ddarnau!”
34 Gyda hynny, rhwygodd Jacob ei ddillad a gwisgo sachliain am ei ganol a galaru am ei fab am lawer o ddyddiau.
35 Ac roedd ei feibion a’i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod o hyd gan ddweud: “Bydda i’n mynd i lawr i’r bedd* yn galaru am fy mab!” Ac roedd ei dad yn parhau i wylo drosto.
36 Nawr, gwnaeth y Midianiaid ei werthu yn yr Aifft i Potiffar, un o swyddogion llys Pharo, a phennaeth y gwarchodlu.
Troednodiadau
^ Neu “gwisg laes hardd.”
^ Neu “gwastatir isel.”
^ Neu “ag arllwys.”
^ Hynny yw, math o gwm tywyll sy’n dod o blanhigyn.
^ Llyth., “a chuddio ei waed.”