Genesis 46:1-34

  • Jacob a’i deulu yn symud i’r Aifft (1-7)

  • Enwau’r rhai yn symud i’r Aifft (8-27)

  • Joseff yn cwrdd â Jacob yn Gosen (28-34)

46  Felly cymerodd Israel bopeth oedd ganddo* a gadael. Pan gyrhaeddodd Beerseba, aberthodd anifeiliaid i Dduw ei dad Isaac. 2  Yna siaradodd Duw ag Israel mewn gweledigaeth yn ystod y nos, a dweud: “Jacob, Jacob!” ac atebodd: “Dyma fi!” 3  Dywedodd: “Fi ydy’r gwir Dduw, Duw dy dad. Paid ag ofni mynd i lawr i’r Aifft, oherwydd bydda i’n dy wneud di’n genedl fawr yno. 4  Bydda i fy hun yn mynd i lawr i’r Aifft gyda ti, a bydda i fy hun yn dod â ti’n ôl o’r fan yna, a bydd Joseff yn cau dy lygaid pan fyddi di’n marw.”* 5  Ar ôl hynny, gadawodd Jacob Beerseba, a dyma feibion Israel yn rhoi Jacob eu tad, a’u plant a’u gwragedd, yn y wageni roedd Pharo wedi eu hanfon i’w gludo ef. 6  Aethon nhw â’r preiddiau a’r eiddo roedden nhw wedi eu casglu yng Ngwlad Canaan gyda nhw. Ac felly daethon nhw i mewn i’r Aifft, Jacob a’i holl deulu gydag ef. 7  Daeth â’i feibion a’i wyrion, ei ferched a’i wyresau gydag ef i mewn i’r Aifft—ei deulu cyfan. 8  Nawr dyma enwau meibion Israel, hynny yw meibion Jacob, a ddaeth i mewn i’r Aifft: Cyntaf-anedig Jacob oedd Reuben. 9  Meibion Reuben oedd Hanoch, Palu, Hesron, a Carmi. 10  Meibion Simeon oedd Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul mab dynes* o Ganaan. 11  Meibion Lefi oedd Gerson, Cohath, a Merari. 12  Meibion Jwda oedd Er, Onan, Sela, Peres, a Sera. Ond bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan. Daeth Peres yn dad i Hesron a Hamul. 13  Meibion Issachar oedd Tola, Pufa, Iob, a Simron. 14  Meibion Sabulon oedd Sered, Elon, a Jahleel. 15  Dyma feibion Lea, y rhai gwnaeth hi eu geni i Jacob yn Padan-aram, yn ogystal â’i ferch Dina. Roedd gan Jacob 33 o feibion a merched* drwy Lea. 16  Meibion Gad oedd Siffion, Haggi, Suni, Esbon, Eri, Arodi, ac Areli. 17  Meibion Aser oedd Imna, Isfa, Isfi, a Bereia, a Sera oedd eu chwaer. Meibion Bereia oedd Heber a Malchiel. 18  Dyma feibion Silpa, y forwyn a roddodd Laban i’w ferch Lea. Roedd gan Jacob a Silpa 16 o blant a wyrion* i gyd. 19  Meibion Rachel gwraig Jacob oedd Joseff a Benjamin. 20  Cafodd Manasse ac Effraim eu geni i Joseff yng ngwlad yr Aifft drwy Asnath, merch Potiffera, offeiriad On.* 21  Meibion Benjamin oedd Bela, Becher, Asbel, Gera, Naaman, Ehi, Ros, Muppim, Huppim, ac Ard. 22  Dyma feibion Rachel gwnaeth hi eu geni i Jacob: 14 o blant a wyrion* i gyd. 23  Mab Dan oedd Husim. 24  Meibion Nafftali oedd Jahseel, Guni, Jeser, a Silem. 25  Dyma feibion Bilha, y forwyn a roddodd Laban i’w ferch Rachel. Roedd gan Jacob a Bilha saith o blant a wyrion* i gyd. 26  66 oedd nifer* disgynyddion Jacob a aeth gydag ef i’r Aifft, heb gyfri gwragedd meibion Jacob. 27  Cafodd dau fab eu geni i Joseff yn yr Aifft. Daeth Jacob i mewn i’r Aifft gyda’i deulu cyfan. Roedd ’na 70 ohonyn nhw i gyd. 28  Anfonodd Jacob Jwda o’i flaen i ddweud wrth Joseff ei fod ar ei ffordd i Gosen. Pan gyrhaeddon nhw wlad Gosen, 29  cafodd cerbyd Joseff ei baratoi ac aeth ef i fyny i gyfarfod Israel ei dad yn Gosen. Pan ddaeth Joseff at Israel, dyma’n ei gofleidio ar unwaith, a wylo am beth amser. 30  Yna dywedodd Israel wrth Joseff: “Nawr rydw i’n barod i farw; rydw i wedi gweld dy wyneb ac yn gwybod dy fod ti’n dal yn fyw.” 31  Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr a phawb yn nhŷ ei dad: “Gadewch imi fynd i fyny i ddweud wrth Pharo: ‘Mae fy mrodyr a theulu fy nhad oedd yng ngwlad Canaan wedi dod yma ata i. 32  Bugeiliaid ydy’r dynion, ac maen nhw’n cadw defaid a gwartheg, ac maen nhw wedi dod â’u hanifeiliaid a phopeth sydd ganddyn nhw gyda nhw.’ 33  Pan fydd Pharo yn eich galw chi ac yn gofyn, ‘Beth ydy eich gwaith chi?’ 34  mae’n rhaid ichi ddweud, ‘Fy arglwydd, rydyn ni wedi cadw defaid a gwartheg ers oedden ni’n ifanc, fel roedd ein cyndadau’n gwneud,’ er mwyn i Pharo adael ichi fyw yng ngwlad Gosen, oherwydd mae pob bugail yn ffiaidd i’r Eifftiaid.”

Troednodiadau

Neu “bawb oedd yn perthyn iddo.”
Llyth., “yn rhoi ei law ar dy lygaid.”
Neu “menyw.”
Neu “o ddisgynyddion.”
Neu “o ddisgynyddion.”
Hynny yw, Heliopolis.
Neu “o ddisgynyddion.”
Neu “o ddisgynyddion.”
Neu “nifer yr holl eneidiau.”