At yr Hebreaid 12:1-29
12 Felly, gan fod gynnon ni gwmwl mor fawr o dystion o’n hamgylch ni, gadewch inni hefyd daflu i ffwrdd bopeth sy’n pwyso arnon ni a’r pechod sy’n ein clymu ni mor hawdd, a gadewch inni redeg y ras sydd wedi ei gosod o’n blaenau ni gyda dyfalbarhad,
2 wrth inni edrych yn graff ar y Prif Arweinydd, Perffeithydd ein ffydd, Iesu. Oherwydd y llawenydd a oedd wedi cael ei osod o’i flaen fe wnaeth ddioddef stanc dienyddio,* heb deimlo cywilydd, ac mae wedi eistedd ar law dde gorsedd Duw.
3 Yn wir, ystyriwch yn ofalus yr un sydd wedi dioddef y fath siarad gelyniaethus gan bechaduriaid sy’n eu condemnio eu hunain, fel na fyddwch chi’n blino ac yn rhoi’r gorau iddi.
4 Yn eich brwydr yn erbyn pechod, dydych chi ddim eto wedi gwrthsefyll hyd at farwolaeth.
5 Ac rydych chi wedi anghofio’n llwyr yr anogaeth sy’n eich annerch chi fel meibion: “Fy mab, paid â bychanu disgyblaeth Jehofa, na rhoi’r gorau iddi pan fyddi di’n cael dy gywiro ganddo;
6 oherwydd mae Jehofa’n disgyblu’r rhai mae’n eu caru, yn wir, mae’n cosbi* pawb mae’n eu derbyn fel mab.”
7 Mae’n rhaid ichi ddyfalbarhau fel rhan o’ch disgyblaeth.* Mae Duw yn eich trin chi fel meibion. Oherwydd pa fab sydd ddim yn cael ei ddisgyblu gan ei dad?
8 Ond os dydych chi ddim i gyd wedi derbyn y ddisgyblaeth hon, dydych chi ddim yn wir yn blant iddo, rydych chi’n feibion i rywun arall.
9 Ar ben hynny, roedd ein tadau dynol yn ein disgyblu ni, ac roedden ni’n eu parchu nhw. Oni ddylen ni ildio’n fwy byth i Dad ein bywyd ysbrydol er mwyn cael byw?
10 Oherwydd fe wnaethon nhw ein disgyblu ni am gyfnod byr yn ôl beth oedd yn dda yn eu golwg nhw, ond mae ef yn ein disgyblu er ein lles fel ein bod ni’n gallu bod yn sanctaidd fel y mae ef.
11 Yn wir, dydy disgyblaeth ddim yn dod â llawenydd yn y presennol, mae’n boenus; ond wedyn, mae’n cynhyrchu ffrwyth heddychlon cyfiawnder i’r rhai sydd wedi cael eu hyfforddi ganddi.
12 Felly, cryfhewch y dwylo sy’n wan a’r pennau gliniau sy’n crynu,
13 a daliwch ati i wneud llwybrau syth i’ch traed, fel na fydd yr hyn sy’n gloff yn mynd yn waeth, ond, yn hytrach, yn cael ei iacháu.
14 Ceisiwch heddwch â phawb a’r sancteiddrwydd, oherwydd heb hwnnw ni fydd unrhyw ddyn yn gweld yr Arglwydd.
15 Gwyliwch yn ofalus nad oes neb yn methu cael caredigrwydd rhyfeddol Duw, fel na fydd unrhyw wreiddyn gwenwynig yn tyfu i achosi trafferth a llygru llawer o bobl;
16 a gwyliwch nad oes ’na unrhyw un yn eich plith sy’n anfoesol yn rhywiol* nac unrhyw un sydd ddim yn gwerthfawrogi pethau sanctaidd, fel Esau, a ildiodd ei hawliau fel y cyntaf-anedig am un pryd o fwyd.
17 Oherwydd rydych chi’n gwybod, yn nes ymlaen, pan oedd ef eisiau etifeddu’r fendith, fe gafodd ei wrthod; oherwydd er iddo geisio’n daer yn ei ddagrau i newid meddwl ei dad, ni wnaeth lwyddo.
18 Oherwydd dydych chi ddim wedi mynd at rywbeth sy’n gallu cael ei deimlo ac sydd wedi cael ei roi ar dân, a chwmwl du a thywyllwch trwchus a storm,
19 a sŵn trwmped a llais yn siarad, ac o’i glywed, roedd y bobl yn ymbil na fydd dim byd pellach yn cael ei ddweud wrthyn nhw.
20 Oherwydd doedden nhw ddim yn gallu goddef y gorchymyn: “Os bydd bwystfil hyd yn oed yn cyffwrdd â’r mynydd, mae’n rhaid iddo gael ei labyddio.”
21 Hefyd, roedd yr olygfa mor ddychrynllyd nes i Moses ddweud: “Rydw i’n ofni ac yn crynu.”
22 Ond rydych chi wedi dod i Fynydd Seion ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiynau* o angylion
23 wedi eu casglu ynghyd, a chynulleidfa’r cyntaf-anedig sydd â’u henwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd, a Duw, Barnwr pawb, a bywydau ysbrydol y rhai cyfiawn sydd wedi cael eu gwneud yn berffaith,
24 ac Iesu, canolwr cyfamod newydd, a gwaed a gafodd ei daenellu, sy’n siarad mewn ffordd well na gwaed Abel.
25 Gwyliwch nad ydych chi’n gwrthod gwrando ar* yr un sy’n siarad. Yn y gorffennol, ni wnaeth pobl ar y ddaear wrando ar beth roedd Duw wedi ei gyhoeddi ac fe gawson nhw eu cosbi, felly gymaint yn fwy byddwn ni’n cael ein cosbi os nad ydyn ni’n gwrando ar lais yr un sy’n siarad o’r nefoedd!
26 Yr adeg honno, fe wnaeth ei lais ysgwyd y ddaear, ond nawr mae wedi addo: “Ond unwaith eto, bydda i’n ysgwyd nid yn unig y ddaear ond hefyd y nef.”
27 Mae’r ymadrodd “ond unwaith eto” yn dangos bydd Duw yn cael gwared ar y pethau sy’n cael eu hysgwyd, pethau na wnaeth Duw eu creu, er mwyn i’r pethau sydd ddim yn cael eu hysgwyd aros.
28 Felly, gan ein bod ni am dderbyn Teyrnas sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd, gadewch inni ddal ati i dderbyn caredigrwydd rhyfeddol. Trwy hwnnw gallwn ni offrymu gwasanaeth sanctaidd i Dduw mewn ffordd dderbyniol ag ofn duwiol a pharch.
29 Oherwydd tân dinistriol ydy ein Duw ni.
Troednodiadau
^ Neu “chwipio.”
^ Neu “hyfforddiant.”
^ Neu “at ddegau o filoedd.”
^ Neu “gwneud esgusodion i; anwybyddu.”