At yr Hebreaid 3:1-19
3 O ganlyniad, frodyr sanctaidd, chi sydd wedi cael eich gwahodd* i’r nefoedd, ystyriwch yr apostol a’r archoffeiriad rydyn ni’n ei gydnabod—Iesu.
2 Roedd ef yn ffyddlon i Dduw, a wnaeth ei benodi, yn union fel roedd Moses yn ffyddlon pan oedd yn gwasanaethu yn nhŷ Dduw.
3 Oherwydd mae ef* yn deilwng o fwy o ogoniant na Moses, gan fod yr un sy’n adeiladu tŷ yn cael mwy o anrhydedd na’r tŷ ei hun.
4 Wrth gwrs, mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un a wnaeth adeiladu pob peth ydy Duw.
5 Nawr roedd Moses yn was ffyddlon yn holl dŷ Dduw fel tyst* o’r pethau a oedd am gael eu dweud wedyn,
6 ond roedd Crist yn fab ffyddlon dros dŷ Dduw. Ni ydy ei dŷ Ef, os ydyn ni’n dal ein gafael yn ein gallu i siarad yn agored ac yn y gobaith rydyn ni’n brolio amdano hyd y diwedd.
7 Felly, yn union fel mae’r ysbryd glân yn dweud, “Heddiw, os ydych chi’n gwrando ar ei lais,
8 peidiwch â chaledu eich calonnau fel ar yr achlysur pan wnaeth eich cyndadau achosi imi deimlo dicter mawr, fel ar ddiwrnod y prawf yn yr anialwch,
9 lle gwnaeth eich cyndadau fy rhoi i o dan brawf ac ar dreial, er eu bod nhw wedi gweld fy ngweithredoedd am 40 mlynedd.
10 Dyma pam roedd y genhedlaeth hon yn ffiaidd gen i, a dywedais i: ‘Maen nhw’n wastad yn mynd ar gyfeiliorn yn eu calonnau, a dydyn nhw ddim wedi dod i wybod fy ffyrdd.’
11 Felly gwnes i lw yn fy nicter: ‘Fyddan nhw ddim yn mynd i mewn i fy ngorffwysfa.’”*
12 Gwyliwch, frodyr, rhag ofn i galon ddrwg sydd heb ffydd ddatblygu yn unrhyw un ohonoch chi drwy droi eich cefn ar y Duw byw;
13 ond parhewch i annog eich gilydd bob dydd, tra bod “Heddiw” yn para, fel na fydd unrhyw un ohonoch chi’n cael eich caledu gan rym twyllodrus pechod.
14 Oherwydd, mewn gwirionedd, rydyn ni’n dod yn gyfranogwyr gyda Christ dim ond os ydyn ni’n dal ein gafael yn dynn hyd at y diwedd yn yr hyder a oedd gynnon ni ar y cychwyn.
15 Fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Heddiw, os ydych chi’n gwrando ar ei lais, peidiwch â chaledu eich calonnau fel ar yr achlysur pan wnaeth eich cyndadau achosi imi deimlo dicter mawr.”
16 Oherwydd pwy wnaeth glywed ond eto achosi iddo deimlo dicter mawr? Onid yr holl rai a aeth allan o’r Aifft o dan arweiniad Moses?
17 Ar ben hynny, pwy oedd yn ffiaidd gan Dduw am 40 mlynedd? Onid y rhai a wnaeth bechu a marw yn yr anialwch?
18 Ac i bwy y gwnaeth ef lw yn dweud na fyddan nhw’n mynd i mewn i’w orffwysfa? Onid y rhai a oedd yn anufudd?
19 Felly rydyn ni’n gweld nad oedden nhw’n gallu mynd i mewn oherwydd eu diffyg ffydd.
Troednodiadau
^ Neu “galw.”
^ Hynny yw, Iesu.
^ Neu “tystiolaeth.”
^ Neu “i’r lle rydw i wedi ei baratoi ar gyfer gorffwys.”