Josua 17:1-18
17 Yna, ar ôl taflu coelbren, cafodd tir ei aseinio i lwyth Manasse oherwydd ef oedd cyntaf-anedig Joseff. Gan fod Machir, cyntaf-anedig Manasse a thad Gilead, yn ddyn rhyfel, gwnaeth ef dderbyn Gilead a Basan.
2 A disgynnodd y coelbren ar gyfer gweddill disgynyddion Manasse yn ôl eu teuluoedd, hynny yw, meibion Abieser, meibion Helech, meibion Asriel, meibion Sechem, meibion Heffer, a meibion Semida. Dyma oedd disgynyddion Manasse fab Joseff, y dynion yn ôl eu teuluoedd.
3 Ond doedd gan Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, ddim meibion, dim ond merched, a dyma oedd enwau ei ferched: Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa.
4 Felly aethon nhw o flaen Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nun, a’r penaethiaid, gan ddweud: “Jehofa a orchmynnodd i Moses roi etifeddiaeth inni ymysg ein brodyr.” Felly yn ôl gorchymyn Jehofa, rhoddodd etifeddiaeth iddyn nhw ymysg brodyr eu tad.
5 Hefyd cafodd deg darn o dir eu rhoi i Manasse yn ogystal â thir Gilead a Basan, a oedd ar ochr arall* yr Iorddonen,
6 oherwydd cafodd merched Manasse etifeddiaeth ynghyd â’i feibion, a daeth tir Gilead yn eiddo i weddill disgynyddion Manasse.
7 Ac roedd ffin Manasse yn mynd o Aser i Michmetha, sy’n wynebu Sechem, ac roedd y ffin yn parhau tua’r de* i wlad pobl En-tappua.
8 Daeth gwlad Tappua yn eiddo i Manasse, ond roedd dinas Tappua ar ffin Manasse yn perthyn i ddisgynyddion Effraim.
9 Ac roedd y ffin yn mynd i lawr at Wadi Cana, i’r de o’r wadi. Roedd rhai o ddinasoedd Effraim ymhlith dinasoedd Manasse, ac roedd ffin Manasse ar ogledd y wadi, ac roedd yn gorffen wrth y môr.
10 Roedd yr ochr ddeheuol yn perthyn i Effraim, a’r ochr ogleddol yn perthyn i Manasse, a’r môr oedd ffin Manasse, ac roedden nhw’n* cyrraedd Aser i’r gogledd, ac Issachar i’r dwyrain.
11 Yn nhiriogaeth Issachar ac Aser, cafodd Manasse Beth-sean a’i threfi cyfagos, Ibleam a’i threfi cyfagos, pobl Dor a’i threfi cyfagos, pobl Endor a’i threfi cyfagos, pobl Taanach a’i threfi cyfagos, a phobl Megido a’i threfi cyfagos, tair o’r ardaloedd uchel.
12 Ond doedd disgynyddion Manasse ddim yn gallu meddiannu’r dinasoedd hyn; roedd y Canaaneaid yn benderfynol o barhau i fyw yn y wlad hon.
13 Unwaith i fyddin Israel gryfhau, gwnaethon nhw orfodi’r Canaaneaid i lafurio fel caethweision, ond wnaethon nhw ddim eu gyrru nhw allan yn gyfan gwbl.
14 Dywedodd disgynyddion Joseff wrth Josua: “Pam rwyt ti ond wedi rhoi un darn bach o dir inni* fel etifeddiaeth? Mae ’na nifer mawr ohonon ni gan fod Jehofa wedi ein bendithio ni hyd yn hyn.”
15 Atebodd Josua: “Os oes ’na gymaint ohonoch chi, ewch i fyny i’r goedwig a chliriwch le i chi’ch hunain yno yng ngwlad y Peresiaid a’r Reffaim, gan fod ardal fynyddig Effraim yn rhy fach ichi.”
16 Yna dywedodd disgynyddion Joseff: “Dydy’r ardal fynyddig ddim yn ddigon inni, ac mae gan y Canaaneaid sy’n byw yng ngwlad y dyffryn* gerbydau rhyfel â chleddyfau haearn ar yr olwynion,* hynny yw, yr holl Ganaaneaid yn Beth-sean a’i threfi cyfagos, yn ogystal â’r rhai yn Nyffryn* Jesreel.”
17 Felly, dyma beth ddywedodd Josua wrth dŷ Joseff, wrth Effraim a Manasse: “Mae ’na lawer ohonoch chi, ac rydych chi’n bwerus iawn. Byddwch chi’n derbyn mwy na dim ond un darn o dir;
18 bydd yr ardal fynyddig hefyd yn perthyn i chi. Er ei bod yn goedwig, byddwch chi’n ei chlirio, a dyna fydd pen pellaf eich tiriogaeth. Oherwydd byddwch chi’n gyrru allan y Canaaneaid, er eu bod nhw’n gryf ac er bod ganddyn nhw gerbydau rhyfel â chleddyfau haearn ar yr olwynion.”*
Troednodiadau
^ Hynny yw, yr ochr ddwyreiniol.
^ Llyth., “i’r dde.”
^ Hynny yw, pobl Manasse neu diriogaeth Manasse.
^ Llyth., “i mi.”
^ Neu “gwastatir isel.”
^ Llyth., “cerbydau haearn.”
^ Neu “yng Ngwastatir Isel.”
^ Llyth., “cerbydau haearn.”