Yn Ôl Luc 10:1-42

  • Iesu’n anfon allan y 70 (1-12)

  • Gwae i ddinasoedd diedifar (13-16)

  • Y 70 yn dod yn ôl (17-20)

  • Iesu’n moli ei Dad am gymeradwyo’r rhai gostyngedig (21-24)

  • Dameg y Samariad trugarog (25-37)

  • Iesu’n ymweld â Martha a Mair (38-42)

10  Ar ôl y pethau hyn, penododd yr Arglwydd 70 o rai eraill a’u hanfon nhw allan o’i flaen mewn parau i mewn i bob dinas a phob lle roedd ef ei hun am fynd. 2  Yna dywedodd wrthyn nhw: “Yn wir, mae’r cynhaeaf yn fawr, ond y gweithwyr yn brin. Felly, erfyniwch ar Feistr y cynhaeaf i anfon gweithwyr i’w gynhaeaf. 3  Ewch! Edrychwch! Rydw i’n eich anfon chi allan fel ŵyn ymhlith bleiddiaid. 4  Peidiwch â chario bag arian na bag bwyd na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb* ar hyd y ffordd. 5  Le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i dŷ, dywedwch yn gyntaf: ‘Heddwch i’r tŷ hwn.’ 6  Ac os oes ’na bobl heddychlon yno, bydd eich heddwch yn dod arnyn nhw. Ond os nad oes ’na, fe fydd yn dod yn ôl atoch chi. 7  Felly, arhoswch yn y tŷ hwnnw, yn bwyta ac yn yfed y pethau maen nhw’n eu rhoi, oherwydd mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â dal i chwilio am rywle arall i aros. 8  “Hefyd, le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i ddinas ac maen nhw’n eich croesawu chi, bwytewch yr hyn sy’n cael ei osod o’ch blaen 9  ac iachewch y rhai sâl sydd yno a dywedwch wrthyn nhw: ‘Mae Teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch chi.’ 10  Ond le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i ddinas a dydyn nhw ddim yn eich croesawu chi, ewch allan i’r prif strydoedd a dywedwch: 11  ‘Rydyn ni’n ysgwyd hyd yn oed y llwch sy’n glynu wrth ein traed o’ch dinas, fel arwydd yn eich erbyn chi. Er hynny, dylech chi wybod hyn, fod Teyrnas Dduw wedi dod yn agos.’ 12  Rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd hi’n haws i Sodom ar y dydd hwnnw nag i’r ddinas honno. 13  “Gwae di Chorasin! Gwae di Bethsaida! oherwydd petai’r gweithredoedd nerthol sydd wedi digwydd ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, bydden nhw wedi hen edifarhau, yn eistedd mewn sachliain a lludw. 14  O ganlyniad, fe fydd hi’n haws i Tyrus a Sidon yn nydd y Farn nag i chi. 15  A tithau Capernaum, a fyddet ti efallai yn cael dy ddyrchafu i’r nef? I lawr i’r Bedd* y byddi di’n dod! 16  “Mae pwy bynnag sy’n gwrando arnoch chi yn gwrando arna i. Ac mae pwy bynnag sy’n eich diystyru chi yn fy niystyru i hefyd. Ar ben hynny, mae pwy bynnag sy’n fy niystyru i hefyd yn diystyru’r Un a wnaeth fy anfon i.” 17  Yna daeth y 70 yn ôl yn llawen, gan ddweud: “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufudd inni drwy ddefnyddio dy enw.” 18  Ar hynny dywedodd yntau wrthyn nhw: “Rydw i’n gweld bod Satan eisoes wedi syrthio fel mellten o’r nef. 19  Edrychwch! rydw i wedi rhoi awdurdod ichi i sathru nadroedd* a sgorpionau o dan eich traed, ac awdurdod dros holl nerth y gelyn, ac ni fydd unrhyw beth o gwbl yn eich niweidio chi. 20  Er hynny, peidiwch â llawenhau oherwydd bod yr ysbrydion yn ufudd ichi, ond llawenhewch oherwydd bod eich enwau wedi cael eu hysgrifennu yn y nefoedd.” 21  Yr union awr honno, achosodd yr ysbryd glân iddo fod yn llawen iawn, a dywedodd ef: “Rydw i’n dy foli di’n gyhoeddus, Dad, Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, oherwydd dy fod ti wedi cuddio’r pethau hyn yn ofalus rhag y rhai doeth a deallus ac wedi eu datguddio i blant bach. Ie, O Dad, oherwydd dyma’r ffordd y gwnest ti ei chymeradwyo. 22  Mae pob peth wedi cael ei roi i mi gan fy Nhad, a does neb yn gwybod pwy ydy’r Mab heblaw’r Tad, a does neb yn gwybod pwy ydy’r Tad heblaw’r Mab ac unrhyw un mae’r Mab yn fodlon datguddio’r Tad iddo.” 23  Ar hynny trodd at y disgyblion a dweud wrthyn nhw yn breifat: “Hapus ydy’r llygaid sy’n gweld y pethau rydych chi’n eu gweld. 24  Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, roedd llawer o broffwydi a brenhinoedd yn dymuno gweld y pethau rydych chi’n eu gweld ond wnaethon nhw ddim gweld y pethau hynny, a chlywed y pethau rydych chi’n eu clywed ond wnaethon nhw ddim clywed y pethau hynny.” 25  Nawr edrycha! safodd dyn a oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf arno, gan ddweud: “Athro, beth sy’n rhaid imi ei wneud i etifeddu bywyd tragwyddol?” 26  Dywedodd ef wrtho: “Beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith? Sut rwyt ti’n ei ddeall?” 27  Atebodd yntau: “‘Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid* ac â dy holl nerth ac â dy holl feddwl’ a ‘charu dy gymydog fel ti dy hun.’” 28  Dywedodd wrtho: “Fe wnest ti ateb yn gywir; dal ati i wneud hynny ac fe gei di fywyd.” 29  Ond roedd y dyn eisiau ei brofi ei hun yn gyfiawn, felly dywedodd wrth Iesu: “Pwy yn wir ydy fy nghymydog?” 30  Atebodd Iesu drwy ddweud: “Roedd dyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho a dyma ladron yn ymosod arno, yn cymryd ei ddillad oddi arno, ei guro, ac yna ei adael yn hanner marw. 31  Nawr roedd offeiriad yn digwydd mynd i lawr y ffordd honno, ond pan welodd ef y dyn, pasiodd heibio ar yr ochr arall. 32  Yn yr un modd, pan ddaeth Lefiad yno a’i weld, pasiodd heibio ar yr ochr arall. 33  Ond daeth rhyw Samariad a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar ei draws, ac o’i weld roedd yn llawn trueni. 34  Felly aeth ato a rhwymo ei friwiau, gan dywallt olew a gwin arnyn nhw. Yna mae’n gosod y dyn ar ei anifail ei hun ac yn mynd ag ef i lety ac yn gofalu amdano. 35  Y diwrnod wedyn, cymerodd ef ddau ddenariws allan a’u rhoi nhw i berchennog y llety, a dweud: ‘Gofala amdano, a beth bynnag rwyt ti’n ei wario ar ben hyn, fe fydda i’n ei dalu’n ôl iti pan ddo i’n ôl.’ 36  Pa un o’r tri hyn sydd wedi ymddwyn fel cymydog i’r dyn y gwnaeth y lladron ymosod arno?” 37  Dywedodd yntau: “Yr un a oedd yn drugarog wrtho.” Yna dywedodd Iesu wrtho: “Dos a gwna di’r un fath.” 38  Nawr tra oedden nhw’n mynd ar eu ffordd, aeth ef i mewn i ryw bentref. Yno, gwnaeth dynes* o’r enw Martha ei groesawu i’w thŷ. 39  Hefyd roedd ganddi chwaer o’r enw Mair, a oedd yn eistedd wrth draed yr Arglwydd ac yn dal i wrando ar beth roedd ef yn ei ddweud. 40  Ar y llaw arall, roedd sylw Martha ar baratoi llawer o bethau. Felly daeth hi ato a dweud: “Arglwydd, oes dim ots gen ti fod fy chwaer wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun i ofalu am y pethau hyn? Dyweda wrthi am ddod i fy helpu i.” 41  Atebodd yr Arglwydd drwy ddweud wrthi: “Martha, Martha, rwyt ti’n pryderu ac yn cynhyrfu am lawer o bethau. 42  Ond ychydig o bethau sydd ei angen neu ddim ond un. Mae Mair wedi dewis y rhan dda* ac ni fydd yn cael ei chymryd oddi arni hi.”

Troednodiadau

Neu “peidiwch â chofleidio neb wrth ei gyfarch.”
Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.
Neu “seirff.”
Gweler Geirfa.
Neu “menyw.”
Neu “y rhan orau.”